Skip to main content

Cyflwyniad i gyfraith weinyddol

Mae cyfraith weinyddol (y cyfeirir ati weithiau fel 'cyfraith gyhoeddus') yn gorff o gyfraith sydd wedi datblygu egwyddorion sy'n ceisio sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu mewn ffordd sy'n gyfreithlon, rhesymol a theg.  Mae'n darparu ffordd i herio camweinyddu neu gamddefnyddio neu gam-drin pŵer gan gorff cyhoeddus.

Mae cyfraith weinyddol yn rhan o gyfraith gyffredin Cymru a Lloegr. Mae wedi cael ei datblygu dros nifer o flynyddoedd gan y farnwriaeth trwy gyfraith achosion. Mae'n darparu modd i’r farnwriaeth reoli ac atal y camddefnydd o bŵer gan y weithrediaeth. (Darllenwch fwy am sut mae cyfansoddiad y DU yn seiliedig ar wahanu swyddogaethau'r ddeddfwrfa, y weithrediaeth a'r farnwriaeth, a'r dulliau o gadw cydbwysedd sy'n gynhenid yn y system)

Ar wahân i Senedd y DU (sy'n sofran), mae pob corff cyhoeddus arall yn ddarostyngedig i'r gyfraith. Mewn geiriau eraill, rhaid i Weinidogion Llywodraeth y DU, Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill weithredu o fewn y gyfraith wrth berfformio eu swyddogaethau. Yn yr un modd, wrth ddeddfu yn eu cylch, ni ddylai Senedd Cymru ymwthio y tu hwnt i'r meysydd mae ganddo gymhwysedd i ddeddfu, fel y nodir yn y Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n ofynnol hyd yn oed i’r Goron ei hun arddel y rhan fwyaf o gyfreithiau. Mae dwy agwedd i wirio a yw corff cyhoeddus wedi gweithredu o fewn y gyfraith:

  • ni ddylai cyrff cyhoeddus weithredu y tu allan i'w pwerau - mae hyn yn golygu sicrhau mai’r unigolyn neu'r corff sy'n cyflawni swyddogaeth yw'r unigolyn neu'r corff sydd â'r pŵer i gyflawni’r swyddogaeth honno, ac nad yw’r unigolyn neu'r corff yn mynd y tu hwnt i gwmpas y pwerau a roddwyd iddo;
  • rhaid i gyrff cyhoeddus arfer eu pwerau mewn ffordd gyfreithlon – mae ystyriaethau gwahanol yn codi yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ond yn fras gall hyn olygu sicrhau bod rhywbeth a wneir gan gorff cyhoeddus yn rhesymol, wedi ei wneud at ddiben priodol, yn gymesur ac yn weithdrefnol deg, a bod y corff cyhoeddus wedi cyflawni ei swyddogaethau mewn ffordd a oedd yn ddiduedd ac yn ystyried yr holl ystyriaethau perthnasol.

Nid yw cyfraith weinyddol yn ymwneud â rhinwedd penderfyniad, er enghraifft, a yw penderfyniad yn un da, neu a oedd yn seiliedig ar ddehongliad cywir o'r gyfraith. Yn hytrach, mae cyfraith weinyddol yn edrych ar y broses a ddilynwyd er mwyn gwneud penderfyniad.

Mae gweithdrefn llys benodol ar gyfer herio cyfreithlondeb rhywbeth a wneir gan gorff cyhoeddus. Mae’r weithdrefn yn cael ei adnabod fel adolygiad barnwrol ac mae'n galluogi unigolyn i ddwyn achos llys i hawlio ateb cyfreithiol penodol. Mae'r rhwymedïau sydd ar gael mewn adolygiad barnwrol yn cynnwys gorchymyn dileu (i ddiddymu penderfyniad a wnaed gan gorff cyhoeddus), gorchymyn gwahardd neu waharddeb (er mwyn atal corff cyhoeddus rhag gwneud rhywbeth), gorchymyn gorfodol (i fynnu bod corff cyhoeddus yn gwneud rhywbeth) a datganiad (i ddatgan beth yw'r sefyllfa gyfreithiol).

Mae cyhoeddiad y Llywodraeth “The Judge Over Your Shoulder” (diweddarwyd ddiwethaf yn 2006) yn rhoi trosolwg o egwyddorion cyfraith weinyddol a phroses adolygiad barnwrol. Yn ogystal, ceir dogfen ar gyfer Cymru yn unig o'r enw "Gwneud Penderfyniadau Da" sy'n darparu trosolwg tebyg. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mehefin 2021