Gweinyddiaeth cyhoeddus
Wrth gyfeirio yma at ‘weinyddiaeth gyhoeddus’ mae hyn yn golygu gweithgareddau’r llu o gyrff cyhoeddus a swyddfeydd cyhoeddus sy’n ymwneud â chymhwyso a gorfodi’r gyfraith neu sydd â’r dasg o gyflawni swyddogaethau penodol o dan y gyfraith. Mewn geiriau eraill, mae gweinyddiaeth gyhoeddus yn ymwneud â rhedeg y llywodraeth a gweddill y sector cyhoeddus yn y DU o ddydd i ddydd yn unol â’r holl gyfreithiau cymwys.
Mae trosolwg cyffredinol o rai o’r prif gyrff sy’n gyfrifol am weinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru i’w gweld ar y tudalen Cyrff cyhoeddus datganoledig.
Mae nifer o elfennau i weinyddiaeth gyhoeddus, gan gynnwys:
- Rhoi polisïau’r llywodraeth ar waith
- Rhoi deddfwriaeth ar waith
- Gweithredu deddfwriaeth
- Gorfodi deddfwriaeth
- Darparu canllawiau rheoleiddio a chyflawni swyddogaethau rheoleiddio
- Gwneud penderfyniadau yn unol â’r gyfraith
- Archwilio gwariant cyhoeddus – mae rhagor o wybodaeth am archwilio cyhoeddus yng Nghymru i’w gweld ar y tudalen Archwilio cyhoeddus
Gweler Cyflwyniad i gyfraith weinyddol am drosolwg o’r rheolau y mae’r llysoedd wedi’u datblygu ar gyfer sicrhau bod gweinyddiaeth gyhoeddus yn cael ei chyflawni’n gyfreithlon.
Mae swyddogaeth archwilio cyhoeddus ac egwyddorion cyfraith weinyddol yn darparu gwiriadau a dulliau cydbwyso pwysig yn ymwneud â phŵer y weithrediaeth yng nghyfansoddiad y DU. I gael esboniad o ‘y weithrediaeth’ ymwelwch â thudalen tair cangen y llywodraeth. Er mwyn cynyddu atebolrwydd a thryloywder, mae gan y DU gyfreithiau ar ryddid gwybodaeth hefyd (mae rhagor o wybodaeth am y cyfreithiau hyn ar gael ar y tudalen Rhyddid gwybodaeth).