Skip to main content

Archwilio cyhoeddus

Mae materion ariannol Llywodraeth Cymru a’r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn destun trosolwg gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, gyda chymorth Swyddfa Archwilio Cymru. Er bod yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithredu’n annibynnol ar Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn atebol i Senedd Cymru dan delerau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Mae’r prif ddarpariaethau statudol sy’n ymwneud â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru i’w gweld yn y Ddeddf 2013 a Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Mae swyddogaethau eraill o ran archwilio cyrff cyhoeddus penodol wedi’u trosglwyddo i’r Archwilydd Cyffredinol trwy Ddeddfau amrywiol Senedd y DU a Deddfau Senedd Cymru.

Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol rôl o graffu ar gyfrifon sydd wedi’u paratoi gan amryw o gyrff llywodraethol a chyrff cyhoeddus gan gynnwys:

  • Gweinidigion Cymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru;
  • Comisiwn y Senedd;
  • awdurdodau lleol Cymru;
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru;
  • Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru;
  • Awdurdodau Tân ac Achub Cymru;
  • Cyrff y GIG yng Nghymru.

Yn ogystal ag adrodd ar y cyfrifon, mae swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys:

  • adolygu rheolaeth ariannol a rheolaethau eraill y corff cyhoeddus;
  • gwneud argymhellion ar gyfer gwella’r economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran y modd mae corff cyhoeddus yn cyflawni’i swyddogaethau, yn darparu gwasanaethau ac yn rheoli ei hun;
  • cynghori pan allai penderfyniad neu gam gweithredu arfaethedig gynnwys gwariant anghyfreithlon;
  • cynghori ar sut y gallai deddfwriaeth a chanllawiau Gweinidogion Cymru effeithio ar y modd mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu swyddogaethau.
     
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021