Cwcis ar Gyfraith Cymru
Defnyddio cwcis gan LLYW.CYMRU
Ffeiliau testun bach yw cwcis sy'n cael eu hanfon i'ch cyfrifiadur neu'ch dyfais symudol gan y gwefannau rydych chi'n ymweld â nhw. Maent yn helpu i wneud i wefannau weithio'n well a darparu gwybodaeth i berchnogion y safle.
Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis iaith i wybod pa iaith yr hoffech i'r wefan gael ei harddangos i chi ynddi a chwcis Google Analytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr tra byddant ar y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan, gallwn wella'r llywio a'r cynnwys er mwyn diwallu anghenion pobl yn well.
Mae’r gwybodaeth a gesglir gan LLYW.CYMRU yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, porwr a system weithredu. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddiwr yn bersonol. Y cwcis rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan yw:
Cwci |
Diben |
Dod i ben |
---|---|---|
Language version |
Y system rheoli cynnwys sy’n creu’r cwci hwn ac mae’n hanfodol er mwyn i’r wefan ddangos yn yr iaith gywir. |
Pan fyddwch yn cau eich porwr |
Session Tracking |
Er mwyn olrhain sesiwn pan fo'r cwcis wedi'u diffodd. Mae hyn yn caniatáu i'r porwr gadw eich sesiwn. |
Ar diwedd y sesiwn |
GoogleAnalytics |
Caiff y cwci hwn ei ddefnyddio i weld sut mae ymwelwyr yn defnyddio'n gwefan. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth i'n helpu i wella'r wefan. Mae'r cwci yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr â'r wefan, a ydyn nhw wedi ymweld â'r wefan o'r blaen, a'r tudalennau y maen nhw'n ymweld â nhw. |
2 flynedd |
CookieControl |
Mae’r cwci hwn yn cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn y defnydd o gwcis ar ein gwefan. |
10 awr |
Mae porwyr gwe yn caniatáu rhywfaint o reolaeth dros gwcis drwy osodiadau'r porwr. I gael gwybod mwy am gwcis a sut i'w rheoli, ewch i www.allaboutcookies.org.
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?
Rydym yn defnyddio cwcis Google Analytics i helpu i fonitro gweithgarwch defnyddwyr, ac i nodi ble y gellir gwneud gwelliannau i'r wefan. Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol (e.e. eich enw neu'ch cyfeiriad) a fyddai'n gallu eich adnabod.
Mae cwcis Google Analytics yn wasanaeth ar y we a ddarperir gan Google Inc. ('Google') ac yn helpu i gasglu a dadansoddi gweithgarwch defnyddwyr. Bydd y wybodaeth a gesglir am eich defnydd o'r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) yn cael ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau, a'u storio arnynt. Gweler polisi preifatrwydd Google, a Thelerau Gwasanaeth Google am wybodaeth fanwl.
Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynhyrchu adroddiadau gweithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Gall Google hefyd drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo'n ofynnol i wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu pan fo trydydd partïon o'r fath yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google.
Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a gedwir yn flaenorol. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Nodwch, os yw cwcis wedi'u hanalluogi, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio swyddogaeth lawn y wefan hon. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cydsynio i Google brosesu data amdanoch yn y modd ac at y dibenion a nodir uchod.