Telerau ac amodau
Gwefan y llywodraeth yw Cyfraith Cymru, ac mae yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru, y cyfeirir ati wedi hyn fel ‘Ni’. Wrth ddod i mewn i’n gwefan, rydych chi fel defnyddiwr (‘Chi’) yn derbyn ein telerau ac amodau. Mae gwefan Cyfraith Cymru, Llywodraeth Cymru a’i gwefannau cysylltiedig yn cael eu cynnal at eich defnydd personol chi ac er mwyn i chi eu darllen. Drwy ddod i mewn i’r wefan hon a’i defnyddio, rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn a fydd mewn grym o’r dyddiad y’i defnyddir am y tro cyntaf.
Eiddo deallusol
Nodau perchnogol Llywodraeth Cymru yw enwau, delweddau a logos adnabod Cyfraith Cymru a/neu Llywodraeth Cymru. Ni chaniateir copïo na defnyddio’r logo a/neu logos unrhyw drydydd parti arall y ceir mynediad atynt drwy’r wefan hon heb gael caniatâd ymlaen llaw gan berchennog perthnasol yr hawlfraint.
Dylid cyfeirio ceisiadau i gael defnyddio ein logo at Swyddfa Codau Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru
E-bost: SwyddfaCodauDeddfwriaethol@llyw.cymru
Hypergysylltu â ni
Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu'n uniongyrchol â thudalennau a gynhelir ar y safle hwn. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r wybodaeth a gynhelir ar ein gwefan. Fodd bynnag, byddai'n well gennym pe na bai ein tudalennau'n cael eu llwytho i fframiau ar eich safle. Dylai tudalennau gwe Cyfraith Cymru lwytho i mewn i ffenestr gyfan y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich safle.
Os yw perchnogion porth gwe am gynnwys tudalennau gwe Cyfraith Cymru o fewn safle porthol yna cysylltwch â SwyddfaCodauDeddfwriaethol@llyw.cymru. Dylech gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs (os yw ar gael) ac e-bost a disgrifiad o'ch safle porthol.
Defnyddio cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru
Rheolau cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
O’r wefan hon
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig. Nid yw cynnwys gwefannau ar restr yn gyfystyr â chymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros ddilysrwydd tudalennau cysylltiedig.
Diogelu rhag feirysau
Rydym yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu. Mae’n syniad da i chi redeg rhaglen wrth-feirws ar unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os byddwch yn colli data neu os difrodir neu amherir ar eich system gyfrifiadur tra byddwch yn defnyddio'r gwefannau hyn
Ymwadiad
Darperir yr erthyglau a ddarperir ar wefan Cyfraith Cymru gan amrywiaeth o gyfranwyr. Fe'u hysgrifennir gan unigolion sydd ag arbenigedd mewn meysydd cyfreithiol penodol. Unrhyw farn a fynegir yw barn yr unigolion eu hunain ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd pob ymdrech i sicrhau bod gwybodaeth arall sydd wedi'i chynnwys ar y wefan yn gywir ond ni ellir derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw anghywirdebau. Ym mhob achos, nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o ddefnyddio'r deunydd a gynhwysir yn y wefan ac nid yw'n cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefan arall y mae ei gwefan yn cysylltu â'i gwefan drwy hyperdestun.
Mae gwybodaeth, cynhyrchion neu gwasanaethau gwefan Cyfraith Cymru (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau unrhyw drydydd parti) yn cael eu darparu heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, pa un a ydynt yn ddiamwys neu’n oblygedig, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau bod y wefan ar gael yn rhydd rhag feirysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau.
Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a ddaw o ddefnyddio neu fethu defnyddio data, neu elw, sy’n deillio neu sy’n gysylltiedig â’r defnydd o wefannau Llywodraeth Cymru.
Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.