Rhyddid gwybodaeth
Mae cyfreithiau ar ryddid gwybodaeth yn rhoi hawl i bobl ofyn am wybodaeth a’i derbyn gan y llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus eraill. Mae cyfreithiau o'r math hwn ar waith mewn llawer o wledydd ledled y byd. Yn y DU mae’r cyfreithiau hyn wedi’u cynnwys yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA 2000) a ddaeth i rym yn 2005. Yn ogystal, mae'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, sydd yn fras yn adlewyrchu’r FOIA 2000, yn ymdrin yn benodol â cheisiadau am fynediad at wybodaeth amgylcheddol.
Yn gyffredinol, mae’r FOIA 2000 yn rhoi'r hawl i unrhyw unigolyn:
- ofyn i awdurdod cyhoeddus a yw'n dal gwybodaeth o ddisgrifiad penodedig, a
- os ydyw, iddynt ddarparu’r wybodaeth honno iddo.
Yn dilyn cais, rhaid i awdurdod cyhoeddus gadarnhau neu wadu a yw'n cadw gwybodaeth o'r math a ddisgrifir, a (fel y bo'n berthnasol) darparu'r wybodaeth. Mae yna, fodd bynnag, nifer o eithriadau o'r rhwymedigaethau hyn. Mae rhai o'r eithriadau yn eithriadau 'absoliwt', sy'n golygu, os ydynt yn gymwys, nad oes rhaid i’r awdurdod cyhoeddus gadarnhau neu wadu a yw'n cadw'r wybodaeth honno na’i darparu. Er enghraifft, mae yna eithriadau absoliwt ar gyfer gwybodaeth a roddir gan neu mewn perthynas â sefydliadau penodedig sy’n ymdrin â materion diogelwch (e.e. yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol a'r Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol), ac ar gyfer gwybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i rwymedigaeth cyfrinachedd i drydydd parti.
Mae yna eithriadau eraill sy’n eithriadau ‘amodol’ a all neu a all beidio esgusodi awdurdod cyhoeddus o’i rwymedigaethau i gadarnhau neu wadu a yw'n cadw'r wybodaeth a (os yw’n berthnasol) darparu'r wybodaeth. Os yw'r wybodaeth y gofynnir amdani yn perthyn i eithriad amodol, dim ond os yw'r budd i'r cyhoedd o gadw at yr eithriad yn cael blaenoriaeth dros les y cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth y gall yr awdurdod cyhoeddus ddibynnu ar yr eithriad hwnnw. Mae'r eithriadau amodol, er enghraifft, yn cynnwys gwybodaeth y byddai ei datgelu yn tanseilio buddiannau masnachol trydydd parti, diogelwch cenedlaethol, amddiffyniad Prydain, buddiannau economaidd y DU neu fuddiannau ariannol Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru.
Am restr gynhwysfawr o'r eithriadau, gweler adrannau 21-44 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae’r FOIA 2000 yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr. Mae'r rhan fwyaf o'r awdurdodau cyhoeddus y mae’n berthnasol iddynt wedi’u rhestru yn Atodlen 1 ac maent yn cynnwys adrannau llywodraeth y DU, Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â llawer o gyrff cyhoeddus eraill gan gynnwys yr heddlu, cyrff y GIG, sefydliadau addysgol ac awdurdodau lleol. Mae cyrff cyhoeddus ychwanegol wedi cael eu cwmpasu gan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 o ganlyniad i’r Gorchymyn Rhyddid Gwybodaeth (Dynodi fel Awdurdodau Cyhoeddus) 2011. Mae'r Ddeddf yn berthnasol hefyd i gwmnïau sydd mewn perchenogaeth gyhoeddus (yn yr ystyr eu bod yn eiddo i gorff yn y sector cyhoeddus yn hytrach na bod yn gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus).
Yn ogystal ag ymdrin ag agweddau ymarferol gwneud ac ateb ceisiadau am wybodaeth a'r ffioedd y gellir eu codi, mae’r FOIA 2000 yn gwneud amryw o bethau eraill sy'n hyrwyddo rhyddid gwybodaeth. Mae'r rhain yn cynnwys gosod dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus i gynnal cynllun cyhoeddi ar gyfer darparu gwybodaeth, ac i roi cyngor a chymorth rhesymol i unigolyn sy'n ceisio gwybodaeth, yn unol â thelerau Cod Ymarfer.
Grewyd swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth dan FOIA 2000. Os yw awdurdod cyhoeddus yn dadlau ei rwymedigaeth i ofalu bod gwybodaeth ar gael, gellir gwneud cwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Ceir rhagor o wybodaeth am yr agwedd hon ar y gyfraith ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.