Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Sefydlwyd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (PSOWA 2005). Mae’r Ddeddf hon wedi cael ei diddymu a’i disodli gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (PSOW 2019), a ddaeth i rym ar 22 o Fai 2019.
O dan PSOWA 2005, diddymwyd Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru (a sefydlwyd gan Deddf Llywodraeth Cymru 1998), Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru, Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru a’r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru (gan gynnwys swydd Comisiynydd Lleol Cymru). Yn gyffredinol, trosglwyddwyd rôl a chylch gwaith y swyddi hyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae PSOW 2019 yn darparu ar gyfer parhad y swydd hon.
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’n ymchwilio i gwynion gan aelodau’r cyhoedd am honiadau o gamweinyddu a methiant gwasanaethau gan y sefydliadau a restrir yn Atodlen 3 i PSOWA 2019 ac y cyfeirir atynt fel ‘Awdurdodau Rhestredig’. Maent yn cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Mae PSOW 2019 hefyd yn rhoi rhai pwerau newydd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y pŵer i ymgymryd ag ymchwiliadau ar ei liwt ei hun i Awdurdodau Rhestredig hyd yn oed pan nad oes unrhyw gŵyn gan aelod o’r cyhoedd. Gall Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ond defnyddio’r pŵer hwn os yw’r gofynion a nodir yn y Ddeddf wedi cael eu bodloni ac yn unol â’r meini prawf ar ei liwt ei hun y mae’n rhaid i’r Ombwdsmon eu paratoi a’u cyhoeddi.
Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru hefyd yr un pwerau ymchwilio mewn perthynas â chyrff sy’n darparu gofal cymdeithasol a lliniarol.
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’n cadw rhestr lawn o’r cyrff y gall ymchwilio iddynt ar ei wefan.
Mae gan Weinidogion Cymru’r hawl i ddiwygio’r rhestr o gyrff yn Atodlen 3 y gall Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio iddynt, er bod cyfyngiadau ar y mathau o gyrff y gallant eu hychwanegu at y rhestr.
Mae PSOW 2019 hefyd yn rhoi pwerau newydd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i baratoi a chyhoeddi datganiad o egwyddorion ynglŷn â thrin cwynion ac mae’n caniatáu i’r Ombwdsmon gyhoeddi gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer trin cwynion i Awdurdodau Rhestredig.
Mae gan yr Ombwdsmon bwerau i gydweithio ag ombwdsmyn eraill lle y bo’n briodol.
Penodir Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Ei Fawrhydi y Brenin ar ôl derbyn enwebiad gan Senedd Cymru. Penodir yr Ombwdsmon am gyfnod o saith mlynedd ac ni ellir ei ddiswyddo oni ddaw yn analluog i gyflawni ei ddyletswyddau am resymau meddygol, neu ar sail camymddygiad. Ni ellir diswyddo’r Ombwdsmon ar sail camymddygiad oni bai fod dwy ran o dair o Aelodau Senedd Cymru wedi pleidleisio o blaid ei ddiswyddo. Gall Ei Fawrhydi benodi Ombwdsmon dros dro os daw’r swydd yn wag am unrhyw reswm.