Skip to main content

Cyfraith yr UE a ddargedwir

Mae cyfraith yr UE a ddargedwir yn ffurfio fframwaith cyfansoddiadol newydd er mwyn i hen gyfraith yr UE barhau i fod yn gymwys yn system gyfreithiol y DU ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Mae Brexit: cyflwyniad i gyfraith yr UE a ddargedwir yn rhoi trosolwg o beth yw cyfraith yr UE a ddargedwir a'r rhan y bydd yn ei chwarae yn fframwaith deddfwriaethol y DU ar ôl ymadael â'r UE.  

Crëwyd y corff o gyfraith ddomestig, sy’n ffurfio fframwaith cyfraith yr UE a ddargedwir, am 11pm ar 31 Rhagfyr 2020, pan gafodd cyfraith yr UE ei throsi’n gyfraith ddomestig gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Fe’i diwygiwyd ar yr un pryd gan dros 1,000 o ddarnau o is-ddeddfwriaeth ledled y DU, bron i gyd wedi’u gwneud o dan bwerau yn y Ddeddf, fel ei bod yn gweithredu’n briodol fel cyfraith ddomestig, er enghraifft drwy ddileu cyfeiriadau at yr UE. Gwnaeth (llofnododd) Gweinidogion Cymru dros 70 o’r offerynnau statudol (OSau) hyn sy’n ymwneud ag “ymadael â’r UE”, gan gydsynio i dros 230 o OSau Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig.

Gwnaethpwyd hyn i roi sicrwydd a pharhad i ddinasyddion a busnesau yn y DU. 

Mae cadw’r “ciplun” hwn o gyfraith yr UE, wedi’i ddiwygio’n briodol, yn darparu parhad a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau yn y DU, gan osgoi sefyllfa lle’r oedd cyfraith yr UE a oedd wedi bod yn gymwys ers blynyddoedd lawer yn y system gyfreithiol ddomestig yn diflannu dros nos. Dros amser, mae'n bosibl y bydd y corff hwn o gyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei ddiwygio neu ei ddisodli'n raddol gan ddeddfwriaeth ddomestig sy'n cael ei phasio yn y ffordd arferol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y dolenni canlynol:

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
16 Mehefin 2022