Skip to main content

Ymadawiad y DU o'r UE 

Ymadawodd y DU â’r UE ar 31 Ionawr 2020. Fodd bynnag, cyflwynodd cytundeb ymadael â’r UE y DU gyfnod pontio tan 31 Rhagfyr 2020. 

Pan ddaeth y cyfnod pontio i ben, daeth cyfraith yr UE i ben yn y Deyrnas Unedig. Ar yr un pryd, troswyd cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig, o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a’i diwygio gan raglen fawr o is-ddeddfwriaeth fel y byddai’n gweithredu’n briodol fel cyfraith ddomestig ac yn darparu parhad a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau’r DU. Daeth y corff hwn o gyfraith ddomestig yn “gyfraith yr UE a ddargedwir”.

Ers 2017, mae’r llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU wedi bod yn datblygu fframweithiau cyffredin ar y cyd, er mwyn sicrhau bod y DU a’r llywodraethau datganoledig yn gweithredu’n gyson mewn rhai meysydd polisi datganoledig a lywodraethwyd yn flaenorol gan gyfraith yr UE.

Deddfodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth newydd yn 2020, sef Deddf Marchnad Fewnol y DU, heb gydsyniad y Senedd, gyda’r nod o sicrhau masnach ddi-dor heb rwystrau o fewn marchnad fewnol y DU. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
16 Mehefin 2022