Fframweithiau cyffredin
Cytundebau rhynglywodraethol yw fframweithiau cyffredin gyda’r nod o nodi sut y bydd y DU a llywodraethau datganoledig yn cydweithio mewn meysydd a oedd yn cael eu llywodraethu’n flaenorol gan gyfraith yr UE, ond sy’n gorwedd o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r rhaglen o fframweithiau cyffredin fel model ar gyfer gweithio rhynglywodraethol sy’n parchu’r setliadau datganoli. Yn benodol, maent wedi cael eu hystyried gan y llywodraethau datganoledig fel y mecanwaith mwyaf priodol ar gyfer sicrhau marchnad fewnol ddomestig sy’n gweithredu’n dda yn y DU.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dolenni canlynol:
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
16 Mehefin 2022