Skip to main content

Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 

Daeth Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 i rym ar 1 Ionawr 2021. 

Prif ddiben y Ddeddf hon yw sefydlu dwy “egwyddor mynediad i’r farchnad” sy’n berthnasol i nwyddau a gwasanaethau (ac mae hefyd yn ymdrin â chydnabyddiaeth gilyddol ar gyfer cymwysterau proffesiynol ynghyd â materion eraill).

Mae'r egwyddor o gydnabyddiaeth gilyddol yn sicrhau nad yw gofynion perthnasol o un rhan o’r DU yn atal gwerthu nwyddau a gwasanaethau yn y wlad honno o ran arall o’r DU.

Mae'r egwyddor o beidio â gwahaniaethu yn cefnogi cwmnïau sy’n masnachu yn y DU, ni waeth ble yn y DU y maent wedi’u lleoli, drwy atal rheoleiddio sy’n gwahaniaethu’n afresymol.

Fe’i pasiwyd heb gydsyniad y Senedd neu’r deddfwrfeydd datganoledig eraill.

Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at y dolenni canlynol:

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
16 Mehefin 2022