Skip to main content

Digartrefedd

Cafodd Deddf Tai (Cymru) 2014 (HWA 2014) Gydsyniad Brenhinol ar 17 Medi 2014. Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn darparu deddfwriaeth ar ddigartrefedd. Disodlodd Ran VII o Ddeddf Tai 1996 ac mae'n diwygio'r gyfraith digartrefedd bresennol yng Nghymru drwy osod dyletswyddau newydd neu ehangach ar awdurdodau tai lleol. 

Beth yw'r dyletswyddau hynny?

Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd o dan HWA 2014 i adolygu digartrefedd yn eu hardal.

Dylent ddatblygu strategaethau i atal digartrefedd tra hefyd yn rhoi cymorth i'r rhai sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref. 

Mae Pennod 1 o Ran 2 yn egluro bod dyletswydd ar awdurdodau tai lleol i gynnal adolygiad digartrefedd a llunio strategaeth ddigartrefedd yn seiliedig ar ganlyniadau’r adolygiad hwnnw. Rhaid i’r adolygiad gynnwys adolygiad o:

  • (a) lefelau digartrefedd, a lefelau tebygol digartrefedd yn y dyfodol, yn ardal yr awdurdod tai lleol,
  • (b) y gweithgareddau a gynhelir yn ardal yr awdurdod tai lleol sydd â’r nod o:
    • i. atal digartrefedd,
    • ii. sicrhau bod llety addas ar gael, neu y bydd ar gael, i’r rhai sy’n ddigartref, a
    • iii. sicrhau bod cefnogaeth foddhaol ar gael ar gyfer y rhai sy’n ddigartref.

Rhaid i ganlyniadau unrhyw adolygiad fod ar gael i'r cyhoedd i'w harchwilio.

Yn 2018, cydymffurfiodd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru â'i ddyletswydd o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 drwy fabwysiadu strategaeth pedair blynedd newydd er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd o fewn eu hawdurdodau priodol. Mae'n rhaid i bob Awdurdod Lleol adnewyddu ei strategaeth ddigartrefedd yn 2020 (a phob pedair blynedd o hynny ymlaen) er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd a nodir yn adran 50(2) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

O dan adran 52, strategaeth ddigartrefedd yw strategaeth sydd â’r amcanion canlynol:

  • (a) atal digartrefedd, 
  • (b) darparu llety addas a 
  • (c) darparu cefnogaeth foddhaol i bobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref, yn ardal yr awdurdod tai lleol. 

Rhaid i strategaeth ddigartrefedd hefyd gynnwys manylion camau gweithredu i’w cymryd mewn perthynas ag unigolion y mae’n bosibl bod angen cymorth arnynt yn benodol. Mae’r rhain yn cynnwys pobl sy’n gadael y carchar, gofal, y lluoedd arfog a’r ysbyty ar ôl cael triniaeth am anhwylder meddyliol fel claf preswyl. Mae’n bosibl y bydd  angen cymorth yn benodol ar bobl sy’n cael gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned.

Rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â chyrff perthnasol eraill cyn mabwysiadu neu addasu strategaeth, a dylid cyhoeddi’r strategaeth yn yr un modd ag y cyhoeddir adolygiad, drwy sicrhau ei bod ar gael i aelodau’r cyhoedd (adran 52(9)).

Mae Pennod 2 yn gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol i helpu pobl sy’n ddigartref neu sydd dan fygythiad o fod yn ddigartrefedd dan amgylchiadau arbennig. Wrth asesu ei ddyletswydd bydd rhaid i’r awdurdod lleol ystyried cymhwystra, digartrefedd, angen blaenoriaethol, digartrefedd fwriadol a chysylltiad lleol. Mae cyfraith achos sylweddol mewn perthynas â digartrefedd, ac mae’r paragraff hwn yn canolbwyntio ar y ddeddfwriaeth berthnasol.

Cymhwysedd

Mae Atodlen 2 o'r Ddeddf yn cynorthwyo wrth benderfynu a yw ceisydd yn gymwys i gael cymorth.

Mae paragraff 1 o Atodlen 2 yn darparu nad yw person yn gymwys i gael cymorth o dan Ran 2 o'r Ddeddf, os;

  • (a) os yw'n berson o dramor sy'n anghymwys i gael cymorth tai.
  • (b) os yw'n berson sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 oni bai ei fod o ddosbarth a ragnodir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. 

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 yw’r rheoliadau cymwys yng Nghymru.

Swyddogaethau cyffredinol

Mae adran 60 o HWA 2014 yn darparu bod yn rhaid i gyngor a ddarperir gan awdurdodau lleol ynghylch digartrefedd a'i atal fod ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw berson yn ei ardal. Rhaid i'r gwasanaethau a gynigir gynnwys:

  • (a) cyhoeddi gwybodaeth a chyngor ar y system a sut mae'r system yn gweithredu;
  • (b) a oes unrhyw gymorth i bobl sy'n ddigartref, neu a allai ddod yn ddigartref, ar gael yn ardal yr awdurdod; a
  • (c) sut i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael. 

Rhaid i'r awdurdod tai lleol weithio ochr yn ochr ag awdurdodau cyhoeddus eraill, sefydliadau gwirfoddol a phersonau eraill, i sicrhau bod y gwasanaeth wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion grwpiau sydd mewn perygl penodol o fod yn ddigartref. Gellir integreiddio'r gwasanaeth sy'n ofynnol o dan Adran 60 â'r gwasanaeth sy'n ofynnol gan adran 17 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, lle mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth a chyngor sy'n ymwneud â gofal a chymorth (adran 60(6)).

Yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd?

Mae adran 55 o HWA 2014 yn amlinellu pryd mae person yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd. Mae person yn ddigartref os nad oes gan y person, ac unrhyw un arall sy’n byw gyda’r person fel arfer, unrhyw lety yn y DU neu yn rhywle arall y mae’r person â hawl gyfreithiol i’w feddiannu. Mae person yn ddigartref hefyd os oes gan y person lety ond nad yw’n gallu cael mynediad iddo, neu os yw’r llety’n strwythur, yn gerbyd neu’n gwch symudol, sydd wedi ei ddylunio neu ei addasu i bobl fyw ynddo ( fel carafán neu gwch preswyl) ac nad oes unrhyw fan lle gellir ei leoli er mwyn darparu llety.

Ni chaniateir i berson gael ei drin fel person sydd â llety oni bai ei fod yn llety y byddai’n rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu. Mae’r Cod Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd (Cod Canllawiau) yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch pryd na fyddai’n rhesymol i feddiannu llety, ac mae cyfraith achos ar y testun hwn hefyd.

Mae adran 57 o HWA 2014 yn darparu’n benodol hefyd nad yw’n rhesymol i berson barhau i feddiannu llety os yw’n debygol y bydd yn arwain at fod y person hwnnw, neu aelod o aelwyd y person hwnnw, yn wynebu camdriniaeth. Mae aelod o aelwyd y person yn cynnwys unrhyw berson sy’n preswylio gydag ef fel arfer fel aelod o’i deulu, neu unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw.

At ddibenion adran 57, ystyr “camdriniaeth” yw trais corfforol, ymddygiad bygythiol neu fygylus ac unrhyw ffurf arall ar gamdriniaeth a all, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, arwain at y perygl o niwed. “Camdriniaeth ddomestig” yw camdriniaeth sy’n dod o du person sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr (adran 58). Roedd Deddf Tai 1996 yn cyfeirio at “trais” ond mae wedi cael ei newid i “camdriniaeth” bellach i sicrhau nad yw’r Ddeddf wedi ei chyfyngu i drais corfforol.

Mae adran 57(3) o HWA 2014 hefyd yn darparu wrth benderfynu a yw’n rhesymol i berson barhau i feddiannu llety, y caiff awdurdod tai lleol roi sylw i’r amgylchiadau cyffredinol presennol mewn perthynas â thai yn yr ardal. Caiff awdurdod lleol roi sylw hefyd i ba un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio. Mae’r Cod Canllawiau yn datgan y gallai hyn gynnwys ystyried amodau ffisegol, gorboblogi, a’r math o lety.

Mae person o dan fygythiad o ddigartrefedd os yw’n debygol y bydd y person yn dod yn ddigartref o fewn 56 o ddiwrnodau (adran 55(4) o HWA 2014).

Sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael

Mae adran 64 yn amlinellu’r ffyrdd y gall awdurdod tai lleol sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i geisydd ei feddiannu. Gall awdurdod lleol drefnu i berson ac eithrio’r awdurdod ddarparu rhywbeth, neu ddarparu rhywbeth ei hun. Fel arall, gall yr awdurdod lleol ddarparu rhywbeth, neu drefnu i rywbeth gael ei ddarparu, i berson ac eithrio’r ceisydd (adran 64(1)).

Mae adran 64(2) yn darparu rhestr o enghreifftiau o’r hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys cyfryngu, taliadau ar ffurf grant neu fenthyciad, gwarantau y bydd taliadau yn cael eu gwneud; eiriolaeth a llety. Yn ogystal, mae’r Cod Canllawiau yn cynnwys rhestr o ymyriadau y dylai fod gan Awdurdodau Lleol yn y man lleiaf (pennod 12.13). Mae’r rhestr hon, nad yw’n cynnwys pob un dim, yn cynnwys gwasanaethau camdriniaeth ddomestig, cyngor ar opsiynau gwaith a hyfforddiant, gwasanaethau lles arbenigol ar gyfer personél y lluoedd arfog, camau i ymyrryd gydag ôl-ddyledion morgais a chamau i gynorthwyo ceiswyr anabl. Ni ddylid cyfyngu Awdurdodau Lleol i’r rhestr hon, a rhaid nodi ac ystyried ymyriadau arloesol eraill sy’n seiliedig ar alw lleol mewn strategaethau digartrefedd lleol.

Rhaid i Awdurdodau Lleol fynd ati’n rhagweithiol i ddefnyddio’r ystod hon o ymyriadau, a rhaid iddynt gynnig cymorth i geiswyr yn unigol. Ynghyd â dyletswydd yr awdurdod lleol i fod yn rhagweithiol, mae dyletswydd hefyd ar Weinidogion Cymru i roi canllawiau i awdurdodau tai lleol mewn perthynas â sut gallant sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau llety addas ar gyfer ceisydd.

Ceir diffiniad o ystyr ‘cynorthwyo i sicrhau’ o dan adran 65. Mae’n ofynnol i’r awdurdod gymryd camau rhesymol i gynorthwyo, gan roi sylw i’r angen i wneud y defnydd gorau o adnoddau’r awdurdod. Ond nid yw’n ofynnol i’r awdurdod sicrhau cynnig o lety o dan Ran 6 o Deddf Tai 1996, na darparu llety fel arall. Mae paragraff 12.7 o’r Cod Canllawiau yn pwysleisio os oes dyletswydd o dan adran 66 yn gymwys, mae gan Awdurdod Lleol ddyletswydd i gynorthwyo ceisydd, ond nid yw hyn yn golygu bod dyletswydd ar yr Awdurdod Lleol i sicrhau llety.

Mae’r ddyletswydd o dan adran 66 o HWA 2014 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol gynorthwyo i sicrhau nad yw llety addas yn peidio â bod ar gael i geisydd ei feddiannu os yw’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd o dan fygythiad o ddigartrefedd, ac yn gymwys i gael cymorth. Mae’r ddyletswydd i sicrhau llety o dan adran 66 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 67.

Mae dyletswydd o dan adran 73 o HWA 2014 hefyd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref sy’n gymwys i gael cymorth. Mae’r amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd o dan adran 73 yn dod i ben wedi eu nodi yn adran 74.

Llety interim

Pan fydd person yn cyflwyno fel person sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd i’r awdurdod lleol, mae’n bosibl bod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu llety interim tra’i fod yn ystyried cais person ac yn penderfynu pa ddyletswydd sydd ganddo, os o gwbl, mewn perthynas â’r person. Mae adran 68 o HWA 2014 yn darparu bod yn rhaid darparu llety interim os oes gan yr awdurdod lleol reswm i gredu bod ceisydd yn ddigartref, yn gymwys i gael cymorth ac ag angen blaenoriaethol am lety (isadran (2)).

Caiff llety interim ei gynnig yn aml ar ffurf llety gwely a brecwast, hosteli neu lochesau tra bod yr awdurdod lleol yn cynnal ei ymchwiliadau.

Angen blaenoriaethol

Mae pa un a oes gan berson angen blaenoriaethol ai peidio yn effeithio ar y ddyletswydd fydd gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â’r person hwnnw. Fel yr eglurir uchod, er mwyn i’r ddyletswydd i ddarparu llety interim fod yn gymwys i geisydd, rhaid bod gan yr awdurdod lleol reswm i gredu bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol, ymysg pethau eraill. Hefyd, dim ond i geiswyr ag angen blaenoriaethol am lety y mae’r prif ddyletswyddau digartrefedd yn adran 75 o HWA 2014 yn gymwys iddynt.

Mae adran 70 o HWA 2014 yn sefydlu’r categorïau o angen blaenoriaethol. Maent yn cynnwys:

  • a) menyw feichiog;
  • b) person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef;
  • c) person sy’n hyglwyf o ganlyniad i henaint, salwch neu anfantais feddyliol, anabledd corfforol, neu reswm arbennig arall;
  • d) person sy’n ddigartref o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall;
  • e) person sy’n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig;
  • f) person sy’n 16 neu’n 17 oed;
  • g) personau 18-21 oed sy’n wynebu perygl arbennig o gam-fanteisio rhywiol neu ariannol;
  • h) personau 18-21 oed sy’n gadael gofal;
  • i) cyn-aelodau o’r lluoedd arfog;
  • j) person sydd â chysylltiad lleol â’r ardal ac sy’n hyglwyf am ei fod yn gyn-garcharor;
  • k) person sy'n ddigartref ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2))

Person sy’n preswylio, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio, gydag unrhyw un o’r uchod person o’r fath.

Noder na ddylai person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Ran 2 o HWA 2014 gael ei ystyried wrth asesu angen blaenoriaethol, er enghraifft, ni fyddai plentyn dibynnol sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac yn anghymwys yn cael ei ystyried yn blentyn dibynnol at ddibenion asesu angen blaenoriaethol. Gall Gweinidogion Cymru ychwanegu neu ddileu disgrifiadau o bersonau sydd ag angen blaenoriaethol trwy orchymyn o dan adran 72. Mae pennod 16 o’r Cod Canllawiau yn rhoi sylw i angen blaenoriaethol.

Mae adran 71 o HWA 2014 yn diffinio pwy sy’n agored i niwed o dan adran 70(1)(c) a 70(1)(j).

Mae adran 70(1)(c) yn ymwneud â henaint, salwch neu anfantais feddyliol neu anabledd corfforol.

Mae adran 70(1)(j) yn ymwneud â chyn-garcharorion. Mae adran 71 yn datgan y byddai person hyglwyf yn llai abl i ofalu amdano ei hun, pe bai’r person yn dod yn ddigartref ac ar y stryd, na pherson digartref arferol. Yn ogystal, byddai person hyglwyf yn dioddef mwy o niwed nag y byddai person digartref arferol yn ei ddioddef. Nid oes diffiniad cyfatebol o ‘natur hyglwyf yn neddfwriaeth Lloegr ac, yn hytrach, dibynnir ar yr egwyddorion a bennir gan gyfraith achos.

Digartref yn fwriadol

Bydd pa un a yw person yn ddigartref yn fwriadol ai peidio yn effeithio ar ba ddyletswyddau sy’n gymwys o’r person hwnnw o dan HWA 2014. Mae dwy ffordd o dan y Ddeddf y gall person ddod yn ddigartref, neu ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd, yn fwriadol:

  • (i) gweithred fwriadol neu anwaith bwriadol (a77(2)). Mae hyn yn golygu bod rhaid bod y person wedi gwneud rhywbeth neu wedi methu â gwneud rhywbeth yn fwriadol i achosi ei ddigartrefedd pan ddylai fod wedi gwybod y canlyniadau, fel rhoi’r gorau i denantiaeth addas neu gael ei droi allan am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • (ii) drwy ymrwymo i gytundeb i roi’r gorau i feddiannu llety y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu (a77(4)).

Yn rhinwedd adran 78(2) o HWA 2014, wrth asesu ceisydd am gymorth gyda digartrefedd, ni chaiff awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio at ddibenion adrannau 68 a 75 oni bai ei fod wedi penderfynu rhoi sylw i un neu ragor o’r categorïau o geiswyr a bennwyd gan Weinidogion Cymru. Mae adran 78(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu categorïau o’r fath. Mae’r nodyn esboniadol i Reoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) Cymru 2015 yn amlinellu’r dyletswyddau hyn.

Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i fwriadoldeb ar gyfer categorïau penodol o bobl. Bwriedir y bydd awdurdodau lleol yn gallu dewis defnyddio’r prawf bwriadoldeb yn achos rhai ceiswyr neu bob ceisydd, ar gyfer rhai categorïau penodol o angen blaenoriaethol. I roi’r eithriad hwn ar waith, mae angen dau ofyniad: yn gyntaf, rhaid i geisydd berthyn i gategori penodol o dan y Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb), lle cytunwyd y dylai awdurdod roi sylw i ba un a yw ceiswyr wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio. Yr ail ofyniad yw bod yr awdurdod wedi cyhoeddi hysbysiad o’i benderfyniad yn nodi’r categori neu gategorïau o geiswyr y byddant yn ystyried bwriadoldeb mewn perthynas â nhw. Rhaid i Weinidogion Cymru dderbyn hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod lleol o leiaf 14 diwrnod cyn iddo ddod i rym.

Mae adran 96(4) yn berthnasol pan fydd awdurdod tai lleol yn barnu bod ceisydd sy’n byw gyda phlentyn yn anghymwys i dderbyn cymorth o ganlyniad i ddod yn ddigartref yn fwriadol neu ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd yn fwriadol. O dan amgylchiadau o’r fath, rhaid i’r cyngor sir sicrhau bod ei adran tai yn darparu i’r adran gwasanaethau cymdeithasol unrhyw gymorth y gallai’r adran gwasanaethau cymdeithasol wneud cais amdano’n rhesymol (gweler Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).

Cysylltiad Lleol

Bydd pa un a oes gan berson gysylltiad lleol ai peidio yn effeithio ar allu awdurdod lleol i gyfeirio’r cais at awdurdod gwahanol. Mae adrannau 80 ac 81 o HWA 2014 yn ymwneud â chysylltiad lleol. Yn gyffredinol, pan fo gan berson angen blaenoriaethol ac nad yw’n ddigartref yn fwriadol, rhaid i’r awdurdod dderbyn y ddyletswydd i ddarparu llety i’r person o dan adran 66 o HWA 2014 os oes gan y person gysylltiad lleol. Os nad oes gan y person gysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod, gall yr awdurdod gyfeirio’r achos at awdurdod lle mae gan y person gysylltiad lleol. Gall person fod â chysylltiad lleol ag ardal awdurdod tai lleol os yw’r person yn byw neu wedi byw yno, os yw’n gweithio yn yr ardal, oherwydd rhesymau teuluoedd neu oherwydd amgylchiadau arbennig (a81(2)).

Hysbysu ac adolygu

Ar ôl i awdurdod gwblhau ei ymholiadau, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad ac a oes ganddo unrhyw ddyletswyddau mewn perthynas â’r ceisydd (adran 63 o HWA 2014). Mae gan geiswyr yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad o fewn 21 diwrnod o gael ei hysbysu am rai o benderfyniadau penodol yr awdurdod (adran 85 o HWA 2014). Mae’r weithdrefn i’w dilyn wedi ei phennu yn y rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymri o dan adran 86 o HWA 2014. Y rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefn Adolygu) (Cymru) 2015.

Y brif ddyletswydd

Mae’r ‘brif ddyletswydd’ yn berthnasol yn achos person sy’n gymwys i gael cymorth, sy’n ddigartref, sydd ag angen blaenoriaethol, nad yw’n ddigartref yn fwriadol ac nad yw’n ddarostyngedig i atgyfeiriad cysylltiad lleol. Y brif ddyletswydd yw darparu llety addas (adran 75 o HWA 2014) nes i’r ddyletswydd ar yr awdurdod ddod i ben (adran 76). Mae camau gweithredu penodol a bennir yn adran 67 yn achosi i’r ddyletswydd ddod i ben. Maent yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, pan fydd person yn gwrthod cynigion penodol o lety, a lle mae’r llety a gynigir yn debygol o fod ar gael am gyfnod o 6 mis o leiaf.


 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mawrth 2023