Skip to main content

Symud tuag at Gymru sy'n fwy cyfartal - y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol newydd

Darparwyd yr erthygl hon gan gyfrannwr i'r wefan.  Unrhyw farn a fynegir yw barn yr unigolion eu hunain ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Bethan Lloyd a Claire Hardy, Tîm Sector Cyhoeddus Geldards yng Nghymru.

 

O 31 Mawrth 2021, mae amrywiaeth o gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru'n dod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol newydd yn adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gweithredwyd y ddyletswydd gan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021.

Beth yw'r ddyletswydd?

Nod y ddyletswydd yw cefnogi'r aelodau mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas, gan ofyn i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau strategol ystyried sut y gall eu penderfyniadau helpu i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Wrth benderfynu ar sut i gyflawni'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, mae'n rhaid i awdurdod ystyried canllawiau statudol Llywodraeth Cymru Cymru sy'n Fwy Cyfartal. Yn y canllawiau hyn, diffinnir anfantais economaidd-gymdeithasol fel

“Byw mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd llai ffafriol na phobl eraill yn yr un gymdeithas”

a cheir peth dadansoddiad defnyddiol o sut gall fod anfantais economaidd-gymdeithasol anghymesur ymhlith y rheiny sy'n rhannu hunaniaeth oherwydd eu nodweddion neu brofiadau personol (‘cymuned buddiant’) ac ymhlith y rheiny sy'n rhannu lleoliad daearyddol (‘cymuned lle’).

Pa gyrff y mae'r ddyletswydd hon arnynt?

Dim ond y cyrff cyhoeddus canlynol yng Nghymru sy'n ddarostyngedig i’r ddyletswydd:

  • Gweinidogion Cymru
  • Cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol
  • Byrddau iechyd lleol
  • Ymddiriedolaethau’r GIG
  • Awdurdodau Iechyd Arbennig (sy'n gweithredu yng Nghymru yn unig).
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol 
  • Awdurdod Cyllid Cymru

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru'n annog yr holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru i weithredu yn ysbryd y ddyletswydd ac i ystyried y canllawiau statudol wrth wneud eu penderfyniadau.

Goblygiadau cyfreithiol a chamau ymarferol

Mae'r ddyletswydd yn berthnasol i bob penderfyniad o natur strategol a wneir ar 31 Mawrth 2021 neu wedi hynny. Gellir herio unrhyw achos o fethu â chyflawni'r ddyletswydd drwy adolygiad barnwrol, ac felly mae awdurdodau cyhoeddus o bosib yn agored i heriau cyfreithiol gan unigolion neu grwpiau sy'n ystyried yr effeithiwyd yn negyddol arnynt gan achos o fethu â chyflawni'r ddyletswydd.

Er nad oes unrhyw ofyniad adrodd ffurfiol, bydd yn bwysig i'r awdurdodau hynny sy'n ddarostyngedig i’r ddyletswydd greu llwybr archwilio clir i ddangos eu cydymffurfiaeth. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau i integreiddio eu hystyriaeth o'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn eu prosesau cyfredol. Ymddengys fod hyn yn synhwyrol o ystyried y bydd y dull ar gyfer sicrhau bod y ddyletswydd yn cael ei gyflawni yn debygol o fod yn weddol debyg i'r dull y bydd ei angen wrth ystyried yr amcanion llesiant dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Felly, mae awdurdodau cyhoeddus yn debygol o gael eu prosesau sefydledig ar gyfer cynnal asesiadau o’r effaith ac ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ddefnyddiol ac yn berthnasol mewn cysylltiad â'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Mae'r canllawiau Cymru sy'n Fwy Cyfartal yn cynnwys rhestr ddefnyddiol o adnoddau y gall awdurdodau gael mynediad iddi am ddata i gefnogi eu dadansoddiad a'u rhesymu ynghylch anfantais economaidd-gymdeithasol.
Os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, cynghorir awdurdodau cyhoeddus i ddiweddaru unrhyw ganllawiau gweithdrefnol a thempledi adrodd i sicrhau eu bod yn cynnwys cyfeiriadau priodol i'r ddyletswydd newydd, er mwyn ysgogi ystyriaeth briodol i'r holl ffactorau perthnasol a helpu i sicrhau cydymffurfiaeth gan y rheiny sy'n gwneud penderfyniadau strategol.

Bwriad y ddogfen hon yw gweithredu fel trosolwg yn unig o'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr ar 25 Mawrth 2021. Nid oes modd derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gyfanrwydd neu gywirdeb y nodyn briffio hwn a dylai cyngor proffesiynol gael ei geisio mewn perthynas ag unrhyw fater penodol. Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yw Geldards LLP sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (OC313172) ac mae’r cwmni wedi'i awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Mae rhestr o aelodau Geldards LLP ar gael i'w gweld yn eu swyddfa gofrestredig yn 4 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ. Maent yn defnyddio'r gair 'partner' i gyfeirio at aelod o'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu gyflogai sydd â statws a chymwysterau cyfwerth.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mawrth 2023