Parciau a gerddi hanesyddol
Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 wedi diwygio’r Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gasglu, cynnal a chyhoeddi 'cofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol'. Bydd tiroedd yn y categorïau canlynol yn gymwys i'w cynnwys os bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod o ddiddordeb hanesyddol arbennig:
- parciau,
- gerddi,
- tirweddau addurnol a ddyluniwyd,
- mannau hamdden, neu
- diroedd eraill a ddyluniwyd.
Pan ddaw'r gofrestr statudol i rym, bydd yn disodli'r gofrestr anstatudol bresennol, sef y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn gyntaf mewn chwe chyfrol sirol rhwng 1994 a 2002. Cyhoeddwyd cyfrol atodol yn 2007 ac mae bron i 400 o safleoedd wedi cael eu gosod ar y gofrestr anstatudol.
Gellir dod o hyd i'r meini prawf ar gyfer cofrestru parciau a gerddi hanesyddol yn Atodiad C i Nodyn Cyngor Technegol 24:Yr Amgylchedd Hanesyddol. Mae safleoedd cofrestredig yn dyddio o'r Oesoedd Canol i ddiwedd yr ugeinfed ganrif ac mae gan lawer nodweddion cyfnodau ac arddulliau gwahanol. Maent yn cael eu graddio fel adeiladau rhestredig:
Gradd I — parciau a gerddi o ansawdd eithriadol
Gradd II* — parciau a gerddi o ansawdd ardderchog
Gradd II — parciau a gerddi o ddiddordeb arbennig
Ni ddaw unrhyw gyfundrefn cydsyniad newydd gyda'r cofrestriad statudol. Bydd parciau a gerddi cofrestredig yn parhau i dderbyn diogelwch drwy'r system gynllunio fel y nodir yn y ddogfen Polisi Cynllunio Cymru. Mae Cadw wedi cyhoeddi canllawiau ar Rheoli parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig
Ar ôl i'r gofrestr statudol ddod i rym, bydd pob cofnod cofrestr - yn cynnwys map o'r safle a disgrifiad byr - yn cael ei gyhoeddi ar Cof Cymru, sef adnodd ar-lein Cadw ar gyfer asedau hanesyddol cenedlaethol.