Skip to main content

Amgylchedd hanesyddol

Mae'r rhan hon o'r safle yn cael ei hadolygu a bydd deunydd pellach ar gael cyn hir.

Mae'r brif ddeddfwriaeth yn y maes hwn fel a ganlyn:

Mae Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer dynodi, gwarchod a rheoli henebion cofrestredig yng Nghymru. Mae Gweinidogion Cymru, drwy weithredu ar ran Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw) yn casglu a chynnal a chadw Cofrestr o henebion o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae'n drosedd difrodi heneb gofrestredig neu ymgymryd â gwaith heb y caniatâd priodol.

Mae Deddf 1979 hefyd yn rheoleiddio’r gwaith o gaffael neu warchod henebion hynafol gan Weinidogion Cymru neu awdurdodau lleol a mynediad cyhoeddus at henebion o'r fath.

Mae'r Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, yn sefydlu'r sail gyfreithiol ar gyfer dynodi, gwarchod a rheoli adeiladau rhestredig yng Nghymru. Mae Gweinidogion Cymru, eto yn gweithredu drwy Cadw, yn casglu rhestrau o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae caniatâd adeilad rhestredig yn ofynnol ar gyfer gwaith sy'n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig; mae gwaith anawdurdodedig yn drosedd. Yn ychwanegol, mae Deddf 1990 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gymryd camau gweithredu i ddiogelu adeiladau rhestredig sy'n dirywio.

Caiff awdurdodau cynllunio lleol hefyd ddynodi ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig fel 'ardaloedd cadwraeth' o dan Ddeddf 1990. Mae cyfyngiadau ar waith penodol ar adeiladau a choed mewn ardaloedd cadwraeth.

Yn ychwanegol at ddiwygio agweddau ar Ddeddfau 1979 a 1990, mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, yn cynnwys nifer o ddarpariaethau annibynnol. Mae un yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gasglu a chynnal rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru. Mae un arall yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gasglu a diweddaru cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Cafodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ei sefydlu drwy Warant Frenhinol yn 1908. Mae’n gyfrifol am arolygu a chofnodi henebion ac adeileddau hanesyddol a hynafol.

Deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol allweddol
Rhestr o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth allweddol
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
22 Medi 2023