Skip to main content

Caniatâd

Mae'n ofynnol o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 i unrhyw waith dymchwel, newid neu estyn a fyddai'n effeithio ar gymeriad hanesyddol neu bensaernïol arbennig adeilad rhestredig gael ei awdurdodi gan ganiatâd adeilad rhestredig. Fel arfer, gwneir ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig i awdurdodau cynllunio lleol, sydd â'r prif gyfrifoldeb dros reoli'r gwaith a wnaed i adeiladau rhestredig a'u gwarchod. Fodd bynnag, mae rhai ceisiadau, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag adeiladau rhestredig dan berchnogaeth awdurdod cynllunio lleol, yn cael eu gwneud i Cadw, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru, sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru. 

Amlinellir y gofynion ymgeisio yn narpariaethau Deddf 1990 a Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012, O.S. 2012/793 (Cy.108). Cafodd yr olaf eu diwygio gan Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017, O.S. 2017/638 (Cy.144) er mwyn ei gwneud yn ofynnol i bob cais am ganiatâd adeilad rhestredig gael ei gefnogi gan ddatganiad effaith treftadaeth.  

Gall awdurdod cynllunio lleol wrthod cais am ganiatâd adeilad rhestredig heb gyfeirio at Weinidogion Cymru, sef Cadw yn ymarferol. Fodd bynnag, rhaid i Cadw gael ei hysbysu os bydd awdurdod yn bwriadu rhoi caniatâd adeilad rhestredig. Os yw cais yn codi materion sy'n arbennig o gymhleth neu heriol, efallai y bydd Cadw'n penderfynu 'ei alw i mewn' a phenderfynu arno yn uniongyrchol. Fel arall, caiff yr awdurdod cynllunio lleol barhau â'r penderfyniad.  

Gall Gweinidogion Cymru, trwy gyfarwyddyd, ryddhau awdurdodau cynllunio lleol o'r gofyniad i hysbysu cyn rhoi caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer dosbarthiadau penodedig o geisiadau. Yn unol â hynny, mae sawl awdurdod cynllunio lleol Cymru yn gallu penderfynu ar geisiadau am ganiatâd ar gyfer adeiladau rhestredig Gradd II nad ydynt yn cynnwys dymchwel heb roi gwybod i Cadw.  

Rhaid i waith a wnaed i adeilad rhestredig gael ei gynnal yn unol â thelerau’r caniatâd adeilad rhestredig ac unrhyw amodau sydd ynghlwm ag ef. Oni nodir unrhyw gyfnod arall, bydd caniatâd adeilad rhestredig yn methu ar ôl pum mlynedd os nad yw'r gwaith a ganiateir wedi dechrau. Gall caniatâd adeilad rhestredig gael ei ddirymu neu ei addasu gan awdurdod cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru, er y gallai hyn arwain at hawliadau am iawndal mewn amgylchiadau penodol. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021