Dirywiad a diffyg atgyweirio
Mae Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, yn rhoi nifer o fesurau statudol i awdurdodau cynllunio lleol i atal dirywiad adeiladau hanesyddol a rhestredig.
Gwaith brys
Caiff awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru ymgymryd â gwaith sydd angen ei wneud ar frys i ddiogelu adeilad rhestredig. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o saith diwrnod o leiaf i'r perchennog o'r bwriad i gyflawni'r gwaith, a rhaid nodi hyn yn yr hysbysiad.
Yn gyffredinol, mae'r gwaith yn gyfyngedig i'r hyn sydd angen ei wneud ar frys i gadw adeilad yn ddiogel rhag y gwynt a'r glaw a'i atal rhag dymchwel. Os yw unrhyw ran o'r adeilad, neu bob rhan ohono, yn cael ei defnyddio at ddibenion preswyl, ni chaiff y gwaith ymyrryd yn ormodol.
Caiff awdurdodau lleol adfer costau drwy osod pridiant tir, a dilyn hyn gan weithdrefnau gwerthu gorfodol. Gellir codi llog ar gostau heb eu talu hefyd. Mae gan y perchennog yr hawl i apelio yn erbyn y costau.
Hysbysiad trwsio a phrynu gorfodol
Gall awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad trwsio yn nodi'r gwaith a ystyrir ganddo yn rhesymol angenrheidiol er mwyn dod ag adeilad rhestredig i’r cyflwr sydd ei angen i'w gadw'n ddiogel. Nid oes darpariaeth i gyflawni gwaith pan nad yw’n cael ei wneud. Fodd bynnag, gall yr awdurdod gychwyn achos prynu gorfodol os nad oes unrhyw newid materol yng nghyflwr yr adeilad ar ôl dau fis o leiaf.
Rhaid i orchmynion prynu gorfodol gael eu cadarnhau gan Weinidogion Cymru. Os prynir eiddo trwy orchymyn prynu gorfodol neu gytundeb, bydd y perchennog yn derbyn iawndal. Fodd bynnag, os oes rheswm dros gredu bod adeilad wedi cael ei adael yn fwriadol i ddadfeilio i gyfiawnhau ei ddymchwel a gwaith i ddatblygu neu ailddatblygu’r safle neu unrhyw safle cyfagos, gall yr awdurdod lleol ofyn i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd ar gyfer lleiafswm iawndal.
Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyflwyno hysbysiadau trwsio a chaffael adeiladau drwy orchymynion prynu gorfodol.
Pwerau statudol eraill sydd ar gael i awdurdodau cynllunio lleol
Caiff awdurdodau cynllunio lleol droi at fesurau statudol eraill i fynd i’r afael â chyflwr adeilad neu sicrhau defnydd buddiol. Caiff y mesurau hyn eu crynhoi yn Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru, y gellir ei lawrlwytho o wefan Cadw, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru.