Gorfodi a throseddau
Os oes gwaith anawdurdodedig yn cael ei gyflawni ar adeilad rhestredig, caiff awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi hysbysiad stop dros dro i'w wneud yn ofynnol terfynu'r gwaith penodedig ar unwaith am gyfnod o 28 diwrnod. Os na ellir cytuno ar ddatrysiad i'r sefyllfa o fewn y cyfnod hwnnw, caiff hysbysiad gorfodi ei ddefnyddio i'w wneud yn ofynnol adfer yr adeilad i'w gyflwr blaenorol neu, os nad yw hynny'n ymarferol neu'n ddymunol, i nodi mesurau i liniaru effaith y gwaith anawdurdodedig. Caiff hysbysiad gorfodi hefyd ei ddefnyddio i nodi gwaith pellach sy'n angenrheidiol i weithredu telerau ac amodau'r caniatâd adeilad rhestredig.
Mae'n drosedd cyflawni unrhyw waith ar adeilad rhestredig a fyddai'n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig heb y caniatâd adeilad rhestredig priodol, methu â chydymffurfio ag amod sydd ynghlwm â chaniatâd, neu gyflawni gweithred neu ganiatáu gweithred gyda'r bwriad o niweidio adeilad rhestredig. Mae methu â chydymffurfio â naill ai hysbysiad stop dros dro neu hysbysiad gorfodi yn drosedd yn ychwanegol at unrhyw drosedd sy'n codi o'r gwaith anawdurdodedig.
Pe bai erlyniad ar gyfer gwaith anawdurdodedig, gallai'r sawl a gyhuddir gynnig fel amddiffyniad fod y gwaith yn angenrheidiol ar frys o safbwynt iechyd a diogelwch neu gadwraeth yr adeilad. Er mwyn i amddiffyniad o'r fath lwyddo, rhaid i'r gwaith fod yn gyfyngedig i'r hyn a oedd yn angenrheidiol ar unwaith a, chyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid i hysbysiad ysgrifenedig yn cyfiawnhau'r gwaith fod wedi cael ei roi i'r awdurdod cynllunio lleol.
Yn y rhan fwyaf o enghreifftiau, bydd unigolyn a geir yn euog o un o'r troseddau a grybwyllir uchod yn agored i ddirwy. Fodd bynnag, gallai cyfnod o garchar hefyd gael ei roi wrth dderbyn euogfarn am waith anawdurdodedig.