Skip to main content

Dynodiad

Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ofyniad newydd ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol gyda'r perchennog/meddiannydd, yr awdurdod lleol a phersonau eraill â diddordeb arbennig os yw Gweinidogion Cymru yn cynnig:

  • rhestru adeilad, neu 
  • dynnu adeilad oddi ar y rhestr. 

O ddechrau ymgynghoriad ar gynnig i restru adeilad, bydd yr adeilad dan sylw yn destun gwarchodaeth interim fel petai wedi'i restru’n barod. O ganlyniad, bydd yn drosedd ymgymryd ag unrhyw waith a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig heb ganiatâd adeilad rhestredig. Bydd gwarchodaeth interim yn para hyd nes bydd Gweinidogion Cymru yn dod i benderfyniad ar y dynodiad. Ceir rhestr o adeiladau o dan warchodaeth interim ar wefan Cadw

Gall perchennog neu feddiannydd adeilad sydd newydd gael ei ddynodi ofyn am adolygiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru, ond dim ond ar y sail nad oedd modd cyfiawnhau'r penderfyniad. Mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi'i benodi er mwyn ymgymryd â phob adolygiad ar ran Gweinidogion Cymru a bydd yn penderfynu ar y dull neu gyfuniad o ddulliau mwyaf priodol ar gyfer cynnal yr adolygiad. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
08 Mehefin 2021