Adeiladau rhestredig
Mae Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio rhestr o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Cyfrifoldeb arolygwyr Cadw yw asesu adeileddau i'w rhestru, ac maent yn defnyddio meini prawf a nodwyd yn Atodiad B i Nodyn Cyngor Technegol 24:Yr Amgylchedd Hanesyddol.
Yn dilyn arolwg systematig o gymunedau Cymru a gwblhawyd yn 2005, mae dros 30,000 o adeiladau yng Nghymru wedi cael eu rhestru. Mae'r holl adeiladau a adeiladwyd cyn 1700 sydd mewn unrhyw beth tebyg i'w cyflwr gwreiddiol yn gymwys i'w rhestru, fel y bo’r rhan fwyaf o adeiladau sy’n deillio o’r cyfnod rhwng 1700 a 1840. Ymhlith yr adeiladau a adeiladwyd rhwng 1840 a 1914, dim ond y rhai o ansawdd a chymeriad pendant sy'n gymwys (yn arbennig gwaith arwyddocaol prif benseiri). Mae rhai adeiladau o'r cyfnod rhwng 1914 a 1939 a nifer fach o adeiladau ar ôl y rhyfel hefyd wedi cael eu rhestru. Mae adeilad â theilyngdod, beth bynnag fo'i oedran, yn gymwys i'w ystyried ar gyfer rhestru.
Mae adeiladau rhestredig yn cael eu graddio o dan dri chategori, sef:
Gradd I — adeiladau o ddiddordeb eithriadol
Gradd II* — adeiladau o bwysigrwydd arbennig
Gradd II — adeiladau o ddiddordeb arbennig.
Mae'r mwyafrif llethol o adeiladau rhestredig yn Radd II ac mae llai na 10% wedi cael eu gosod yn y categorïau uwch.