Skip to main content

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Sefydlwyd Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru a Sir Fynwy gan Warant Brenhinol ym 1908, er mwyn llunio rhestr o henebion a phennu pa rai oedd yn werth eu cadw. Cafodd ei ailenwi yn Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ym 1974.

Mae'r Gwarant Brenhinol yn nodi dibenion a phwerau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sef darparu ar gyfer arolygu a chofnodi henebion ac adeileddau hynafol a hanesyddol sy'n dangos, neu’n gysylltiedig â diwylliant, gwareiddiad ac amodau byw cyfoes pobl Cymru o’r cyfnodau cynharaf (gan gynnwys henebion ac adeileddau hynafol a hanesyddol ar wely'r môr neu oddi tano ym môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig oddi ar arfordir Cymru). Gwneir hyn drwy:

  • gasglu, cynnal a churadu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru fel y cofnod cenedlaethol sylfaenol o'r amgylchedd archaeolegol a hanesyddol;
  • nodi, arolygu, dehongli a chofnodi pob adeilad, safle a heneb o ddiddordeb archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol yng Nghymru neu yn y môr tiriogaethol oddi ar arfordir Cymru, er mwyn gwella a diweddaru Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru;
  • darparu cyngor a gwybodaeth sy’n berthnasol o ran cadw a gwarchod adeiladau, safleoedd a henebion o’r fath sydd o ddiddordeb archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol;
  • casglu a chyfnewid data gyda deiliaid cofnodion eraill a darparu mynegai i ddata o ffynonellau eraill;
  • hyrwyddo defnydd y cyhoedd o wybodaeth sydd ar gael yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru drwy bob dull priodol;
  • sefydlu a chynnal safonau cenedlaethol o ran arolygu, cofnodi a churadu cofnodion yn ymwneud ag archaeoleg a phensaernïaeth hanesyddol a darparu arweiniad ar y materion hyn i gyrff eraill;
  • arfer cyfrifoldeb dros oruchwylio Cofnodion Safleoedd a Henebion lleol.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021