Ardaloedd cadwraeth
Ardal gadwraeth yw ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y byddai’n ddymunol cadw neu wella ei gymeriad neu ei olwg. Mae dynodiad ardal gadwraeth yn rhoi gwarchodaeth ehangach na rheoli adeiladau rhestredig.
Awdurdodau cynllunio lleol sy’n dynodi ardaloedd cadwraeth. Mae’r ddyletswydd i ddynodi yn un barhaus, sy’n gofyn i’r awdurdod ystyried o dro i dro pa rannau o’u hardal ddylai barhau i gael eu dynodi ac a ddylid dynodi unrhyw rannau pellach.
Bydd dynodi ardal yn un gadwraeth yn esgor ar nifer o ganlyniadau, gan gynnwys:
- ni cheir dymchwel rhai adeiladau heb ganiatâd yr awdurdod priodol
- bydd yn drosedd torri i lawr, blaendorri, tocio, diwreiddio, difrodi neu ddinistrio yn fwriadol unrhyw goeden yn yr ardal heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio lleol
- bydd dyletswydd ar yr awdurdod i ddatblygu polisïau sy’n nodi’n glir pa rai o nodweddion yr ardal y dylid eu cadw neu eu gwella, a dangos sut y gellir gwneud hyn
- bydd dyletswydd ar yr awdurdod i roi sylw arbennig i ystyried pa mor ddymunol fyddai cadw neu wella cymeriad neu olwg yr ardal wrth ddefnyddio eu pwerau cynllunio.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
08 Mehefin 2021