Bathodynnau ar gyfer pobl anabl
Y prif ddarpariaeth mewn perthynas â bathodynnau i bobl anabl yng Nghymru yw adran 21 o'r Ddeddf Gleifion Gronig a Phersonau Anabl 1970(CSDPA 1970). Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dan adran 21 bellach yn nwylo Gweinidogion Cymru.
Mae adran 21 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi:
- y personau sy'n gymwys i dderbyn bathodyn person anabl;
- y dull a'r amgylchiadau ar gyfer arddangos y bathodyn;
- beth i'w wneud gyda bathodyn unwaith y caiff ei gadw gan gwnstabl neu swyddog gorfodi;
- cyfnod cyhoeddi bathodyn;
- yr amgylchiadau sy'n golygu bod rhaid dychwelyd bathodyn i'r awdurdod cyhoeddi;
- y ffi sy'n cael ei godi am fathodyn;
- yr amgylchiadau sy'n golygu bod awdurdod lleol yn gallu gwrthod rhoi bathodyn;
- yr amgylchiadau sy'n golygu bod person yn gallu apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol mewn perthynas â bathodyn.
Mae adran 21 hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n llywodraethu sut y gweithredir cynllun bathodyn person anabl (sydd hefyd yn cael ei alw'n gynllun 'Bathodyn Glas') gan awdurdodau lleol. Y rheoliadau cyfredol yw'r Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 sydd wedi cael eu diwygio sawl gwaith ers 2000 i adlewyrchu polisi sy'n esblygu yn y maes hwn.
Cyflwynodd y Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2011 ddosbarthiadau cymhwyster newydd yn cynnwys plant dan 3 oed sy'n teithio gydag offer meddygol swmpus, pobl ag anabledd difrifol yn y ddwy fraich sy'n methu defnyddio rhai mathau o beiriant talu am barcio a'r rhai sy'n derbyn budd-dal penodol dan y Gorchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011 sydd wedi eu hardystio i fod ag anabledd parhaol a sylweddol sy'n achosi anallu i gerdded neu anhawster mawr wrth gerdded.
Cyflwynodd y Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2012 fanylebau technegol newydd ar gyfer bathodynnau i leihau'r perygl o ffugio, dileodd y ffi am fathodyn i geiswyr newydd a galluogodd awdurdodau lleol i wrthod rhoi bathodyn neu i dynnu bathodyn yn ôl yn dilyn un euogfarn dan y ddeddfwriaeth a ddefnyddir i erlyn camddefnydd twyllodrus o fathodynnau.
Cyflwynodd y Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2013 ddosbarth cymhwyster newydd i bobl sy'n derbyn y budd-dal Taliad Annibyniaeth Bersonol newydd a dileodd hefyd y gofynion ffotograffig i bobl y mae eu hanabledd yn eu hatal rhag agor eu llygaid, cau eu cegau neu edrych yn syth at y camera.
Mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â 'Badges for display on motor vehicles used by disabled persons' (gweler paragraff 15 Rhan 1, Atodlen 7 i'r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006). Nid oes Deddf wedi ei wneud yn y maes hwn gan Senedd Cymru hyd yn hyn.