Skip to main content

Trafnidiaeth

Mae’r cyfrifoldeb am ofalu am briffyrdd a sawl agwedd ar drafnidiaeth yng Nghymru yn cael ei rannu rhwng Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol. Er enghraifft, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priffyrdd a’r awdurdod traffig ar gyfer prif ffyrdd Cymru, tra bod yr awdurdodau lleol yn perfformio’r rolau hyn ar gyfer ffyrdd llai.

Mae Gweinidogion Cymru yn llunio Strategaeth Drafnidiaeth Cymru er mwyn sicrhau ymagwedd integredig wrth ddatblygu cynigion ar gyfer ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn rheoleiddio’r cynllun Bathodyn Glas ar gyfer pobl anabl.

Er bod gan Senedd Cymru'r pŵerau i basio deddfau mewn perthynas â phriffyrdd a thrafnidiaeth, mae nifer fawr o feysydd rheoleiddio lle na all basio deddfau. Er enghraifft, yn gyffredinol nid yw hedfan, cludiant morwrol a rheilffyrdd yn bynciau datganoledig.
 

Deddfwriaeth trafnidiaeth allweddol
Rhestr o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth allweddol
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Hydref 2021

Rhagor o wybodaeth