Cyfraith priffyrdd
Deddf Priffyrdd 1980
Mae'r gyfraith sy'n ymwneud â phriffyrdd i'w gweld yn bennaf mewn Deddfau Seneddol y DU, a'r un mwyaf arwyddocaol yw'r Deddf Priffyrdd 1980 (Deddf 1980).
Diffinnir y term 'priffordd' at bwrpas y Ddeddf 1980 fel y cyfan neu ran o briffordd ar wahân i fferi neu ddyfrffordd (ar wahân i lle mae'r cyd-destun yn gofyn fel arall). Lle mae priffordd yn mynd dros bont neu drwy dwnnel, bydd y bont neu'r twnnel hwnnw, at bwrpas y Ddeddf, yn cael eu hystyried yn rhan o'r briffordd. Yn ymarferol, rhaid cyfeirio at reolau'r gyfraith gyffredin ynghylch ystyr priffordd, sydd yn ei hanfod yn golygu’r ffordd y mae gan aelodau'r cyhoedd hawl i deithio ac ail-deithio ar hyd llwybr wedi'i ddiffinio.
At bwrpas deddfwriaeth priffyrdd, mae rhai termau penodol wedi eu diffinio, yn cynnwys lôn gerbydau, cefnffyrdd, troetffyrdd, llwybrau troed, llwybrau ceffylau, llwybrau cyhoeddus a llwybrau beiciau.
Mae dyletswydd ar bob awdurdod priffyrdd, yn rhinwedd adran 130(1) y Ddeddf 1980 i gadarnhau ac i amddiffyn hawliau'r cyhoedd i ddefnyddio a mwynhau unrhyw briffordd lle mai hwy yw'r awdurdod priffyrdd. Mae Rhan IX o'r Ddeddf 1980 yn cynnwys darpariaethau amrywiol parthed ymyrryd â phriffyrdd, yn cynnwys cosbau am rwystro bwriadol ac am achosi mathau penodol o berygl neu darfu.
Yn amodol ar eithriadau sy'n ymwneud â Phontydd Hafren a'u cyffiniau, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod priffyrdd yng Nghymru ar gyfer:
- cefnffyrdd - mae'r rhain yn ffyrdd o bwysigrwydd cenedlaethol y mae adran 10 o Gymdeithas Tai 1980 yn gymwys iddynt
- ffyrdd arbennig a ddarperir ganddynt,
- priffyrdd y maent yn gyfrifol amdanynt dan unrhyw ymddeddfiad,
- priffyrdd wedi eu trosglwyddo iddynt a phriffyrdd wedi eu hadeiladu ganddynt nad ydynt wedi cael eu trosglwyddo i unrhyw awdurdod priffyrdd arall (gweler a1(1) o'r Ddeddf 1980).
Pob cyngor sir neu fwrdeistref sirol yw'r awdurdod priffyrdd yr holl briffyrdd yn ei ardal, boed yn cael eu cynnal ar gost y cyhoedd ai peidio, lle nad yw Gweinidogion Cymru yn awdurdod priffyrdd.
Mae'r Ddeddf 1980 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal priffyrdd sy'n cael eu cynnal ar gost y cyhoedd lle mai hwy yw'r awdurdod priffyrdd. Mae priffyrdd o'r fath yn cynnwys cefnffyrdd fel ffordd yr A470 o Dde i Ogledd Cymru a ffyrdd arbennig megis traffordd yr M4 yn Ne Cymru. Mewn perthynas â phriffyrdd eraill, y cyngor sir fydd yr awdurdod priffyrdd bron bob amser, ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol, er enghraifft lle mae Gweinidogion Cymru yn adeiladu priffordd heb fod yn gefnffordd gan ddefnyddio eu pwerau dan adran 24(1) Deddf 1980.
Mae'r rhan fwyaf o briffyrdd yn cael eu cynnal ar gost y cyhoedd (drwy rinwedd adran 36 o’r Ddeddf 1980): Mae llwybrau cyhoeddus yn atgyweiriadwy ar gost y cyhoedd oni bai bod unigolyn yn gyfrifol am ei hatgyweirio oherwydd ei fod yn dal buddiant yn y tir neu fel arall. Mae priffyrdd a gafodd eu creu gan awdurdodau priffyrdd yn cael eu cynnal ar gost y cyhoedd yn yr un modd â:
- phob llwybr a neilltuwyd cyn 16 Rhagfyr 1949,
- pob llwybr a grëwyd ers y dyddiad hwnnw yn rhinwedd gorchmynion neu gytundebau creu llwybrau cyhoeddus, a
- phob llwybr sydd fel arall wedi cael ei fabwysiadu gan yr awdurdod priffyrdd yn rhinwedd un o'r gweithdrefnau mabwysiadu yn y Ddeddf 1980 a'i ragflaenwyr.
Gall Gweinidogion Cymru gaffael tir sydd ei angen ar gyfer adeiladu cefnffordd; a gall unrhyw awdurdod priffyrdd gaffael tir sydd ei angen ar gyfer adeiladu priffordd a fydd yn briffordd sy'n cael ei chynnal ar gost y cyhoedd, ar wahân i gefnffordd. Gall awdurdod priffyrdd gaffael tir sydd ei angen arno ar gyfer gwella priffordd, gyda'r gwelliant hwnnw yn un y mae wedi'i awdurdodi i'w wneud mewn perthynas â'r briffordd. Mae'r pwerau'n ymestyn i greu a chaffael hawliau.
Mae pŵer caffael awdurdodau priffyrdd a ddisgrifiwyd uchod yn ymarferadwy naill ai'n orfodol neu drwy gytundeb.
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn Ddeddf Senedd Cymru ac mae'n ei wneud yn ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i fapio llwybrau teithio llesol a chyfleusterau perthynol. Mae'r Ddeddf hefyd yn wneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chynghorau lleol i gymryd camau rhesymol i wella'r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr a beicwyr, ac i ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr.
Swyddogaethau Gweinidogion Cymru
Mae swyddogaethau gwreiddiol y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Mae swyddogaethau canlynol yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn unol â'r Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006), yn amodol ar yr eithriadau a'r cyfarwyddiadau a nodwyd, sydd wedi eu nodi yn y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999:
Deddf Priffyrdd 1980 ar wahân i:
- swyddogaeth y Trysorlys dan adran 327(4);
- swyddogaethau sy'n ymarferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag Adran 329(5); a
- swyddogaethau sy'n ymarferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â'r rhan honno o Draffordd yr M4 yng Nghymru sy'n cynnwys "The new Toll Plaza area" a'r "New Bridge" fel y'i diffinnir yn adran 39(1) y Ddeddf Pontydd Hafren 1992 (c 3).
- Deddf Llwybrau Beiciau 1984 (c 38) adran 3.
- Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, adrannau 247 i 261.
Yn ogystal â'r statudau cynradd sy'n ymdrin â phriffyrdd, mae llawer iawn o is-ddeddfwriaeth gafodd ei gwneud dan y Deddfau hynny (megis gorchmynion, rheoliadau, cynlluniau a chodau).
Cyn datganoli pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, roedd llawer o is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud ar wahân i Gymru gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a chafodd peth ei gwneud i Gymru a Lloegr gan Ysgrifenyddion Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar y cyd. Mae rhai o'r offerynnau cyn-datganoli hyn yn dal mewn grym. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1990 gan y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac roedd hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud is-ddeddfwriaeth o dan y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â phriffyrdd a fodolai bryd hynny. O hynny ymlaen, defnyddiodd y Cynulliad Cenedlaethol y pwerau a drosglwyddwyd i wneud is-ddeddfwriaeth i Gymru tan 2007 pan gafodd y pwerau eu trosglwyddo ymhellach i Weinidogion Cymru wrth i'r GoWA 2006 ddod i rym.
Mae'r llysoedd domestig hefyd wedi cynhyrchu llawer iawn o gyfraith achos ar faterion priffyrdd.
Mae cyfraith yr UE hefyd yn cael effaith ar gyfraith trafnidiaeth yng Nghymru. Er enghraifft, mae Senedd Ewrop wedi cyhoeddi cyfarwyddeb (2008/96/EC) ar reoli isadeiledd diogelwch ffyrdd a hefyd mewn perthynas â gofynion diogelwch ar gyfer twnelau yn y rhwydwaith ffyrdd traws Ewropeaidd (2004/54/EC). Mae cyfarwyddebau Ewropeaidd ym maes yr amgylchedd hefyd yn cael effaith, megis Cyfarwyddeb 2011/92/EU (fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2014/52/EC) ar yr asesiadau o effeithiau rhai prosiectau cyhoeddus a phreifat ar yr amgylchedd. Cafodd y Gyfarwyddeb ei throsi i gyfraith priffyrdd Cymru a Lloegr gan Rhan VA y Ddeddf Priffyrdd 1980, sy'n cynnwys gofyniad am asesiad effaith amgylcheddol rhai prosiectau ar gyfer adeiladu gwelliannau ffyrdd.