Rheoli traffig
Mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau gweithredol mewn perthynas â rheoli traffig dan y Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (TMA 2004). Dan adran 92 y Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi'n 'appropriate national authority' mewn perthynas â Chymru.
Mae TMA 2004 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â:
- chreu a gweithredu swyddogion traffig sy'n helpu'r heddlu i ddelio gyda materion traffig megis damweiniau, cerbydau'n torri i lawr, cyfeirio traffig a chludo llwythi annormal;
- penodi Cyfarwyddwr Traffig, lle mae awdurdod traffig lleol yn methu yn ei ddyletswydd rheoli rhwydwaith a chynhyrchu canllawiau i awdurdodau traffig lleol mewn perthynas â thechnegau rheoli rhwydwaith;
- creu cynlluniau hawlenni, yn rheoli gwaith stryd penodol mewn ardal benodol;
- creu gweithdrefn orfodi sifil i ddisodli sancsiynau troseddol i awdurdodau lleol mewn perthynas â thramgwyddau traffig ffyrdd, i gynnwys troseddau parcio, traffig sy'n symud a lonydd bysiau.
Mae is-ddeddfwriaeth a gafodd ei gwneud dan y TMA 2004 wedi cyflwyno’r cysyniad o ardaloedd gorfodi sifil ac ardaloedd gorfodi arbennig mewn perthynas ag ardaloedd llywodraeth leol. Nid yw tramgwyddau traffig ffyrdd penodol sy'n digwydd o fewn ardaloedd o'r fath bellach yn destun erlyniadau troseddol sy’n cyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig. Yn hytrach, tâl cosb (sifil) sy'n daladwy gan berchennog y cerbyd sy'n tramgwyddo ac mae gorfodaeth yn gyfrifoldeb ar adennill sifil. Caiff ardaloedd gorfodi sifil ac ardaloedd gorfodi arbennig yng Nghymru eu creu gan awdurdodau lleol yn gwneud cais i Weinidogion Cymru i gael gwneud Gorchymyn Dynodi (gan Weinidogion Cymru) dan bwerau a roddwyd iddynt gan adran 74 o, ac Atodlen 8 i TMA 2004.
Gall yr awdurdod lleol ddarparu ar gyfer gorfodi tramgwyddau traffig ffyrdd gan swyddogion gorfodi sifil. Mae gweithdrefnau manwl yn bodoli mewn perthynas â gorfodi sifil tramgwyddau pacio sy'n caniatáu cyflwyno eiriolaeth ac apeliadau drwy wasanaeth dyfarnu.
Yn ogystal â'r TMA 2004, mae'r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar hyn o bryd mewn perthynas â rheoli trafnidiaeth wedi'i rhestru o dan ddeddfwriaeth allweddol.