Skip to main content

Trafnidiaeth - beth sydd wedi ei ddatganoli?

Mae Senedd Cymru yn meddu ar gymhwysedd eang dros faes eang trafnidiaeth. Fodd bynnag, mae rhai meysydd penodol na all Senedd Cymru ddeddfu mewn perthynas â nhw. Cyfeirir at y rhain fel “materion a gedwir yn ôl” (“Reserved Matters”) yn Atodlen 7A i’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“GoWA 2006”) sydd wedi’u hamlinellu isod.  

Trafnidiaeth ar y ffordd

O dan y pennawd hwn yn Atodlen 7A i GoWA 2006, mae rhestr gynhwysfawr o faterion a gedwir yn ôl yn ymwneud â chludiant ar y ffordd, nad oes gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â nhw. Mae hyn yn cynnwys (ymysg materion eraill a gedwir yn ôl) droseddau traffig ffyrdd, trwyddedu gyrwyr (gan gynnwys hyfforddi, profi ac ardystio), ac yswiriant cerbydau a chofrestru cerbydau.

Er bod y rhestr o faterion a gedwir yn ôl o dan y pennawd hwn yn ymddangos yn eithaf helaeth, darperir ar gyfer nifer o eithriadau nodedig yn GoWA 2006, sy'n golygu y gall Senedd Cymru ddeddfu nid yn unig mewn perthynas â materion na chedwir yn ôl yn benodol o dan y pennawd hwn, ond bod ganddo gymhwysedd pendant i ddeddfu mewn perthynas â'r canlynol:    

  • Pwnc Rhan 6 o'r Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (gorfodi sifil ar dramgwyddau traffig ffyrdd).
  • Rheoliadau yn ymwneud â chynlluniau codi tâl ar gefnffyrdd.
  • Rheoliadau yn ymwneud â’r disgrifiadau o gerbydau modur ac ôl-gerbydau a all gael eu defnyddio yn unol â'r trefniadau i bobl deithio i’r lleoedd ble maent yn derbyn addysg neu hyfforddiant ac oddi yno, oni bai fod y rheoliadau yn ymwneud â gosod safonau technegol ar gyfer adeiladu neu gyfarparu cerbydau modur neu ôl-gerbydau sy'n wahanol i'r safonau a fyddai’n berthnasol iddynt, neu a allai fod yn berthnasol iddynt, fel arall.
  • Rheoliadau yn ymwneud â chludo anifeiliaid mewn cerbydau modur neu ôl-gerbydau at ddibenion gwarchod iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid, neu'r amgylchedd.
  • Trwyddedu tacsis, gyrwyr tacsis, cerbydau hurio preifat, gyrwyr cerbydau hurio preifat a gweithredwyr cerbydau hurio preifat (ond nid gorfodaeth drwy bwyntiau cosb).

Trafnidiaeth rheilffyrdd

O dan y pennawd hwn yn Atodlen 7A i GoWA 2006, ni all Senedd Cymru ddeddfu mewn perthynas â gwasanaethau rheilffyrdd neu bwnc y Ddeddf Twnnel y Sianel 1987. Yn amodol ar y materion uchod a gedwir yn ôl, gall Senedd Cymru ddeddfu mewn perthynas â thrafnidiaeth rheilffyrdd ac, yn benodol, gall wneud hynny er mwyn rhoi cymorth ariannol cyn belled ag y bo'n ymwneud â gwasanaethau rheilffyrdd. Fodd bynnag, ni ellir rhoi'r fath gymorth ariannol mewn perthynas â'r canlynol:

  • cludo nwyddau;
  • gorchymyn gweinyddu rheilffordd; neu
  • Reoliad (EC) rhif 1370/2007 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ar y rheilffyrdd ac ar y ffyrdd.

Trafnidiaeth forol ac ar ddyfrffyrdd

Mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â phorthladdoedd yng Nghymru, ond ni all ddeddfu mewn perthynas â nifer o faterion a gedwir yn ôl, gan gynnwys hawliau a rhyddid mordwyo, gwasanaethau hofranlongau a gwylwyr y glannau, a phorthladdoedd a harbyrau ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl nad ydynt yn gyfan gwbl yng Nghymru.  

Er bod nifer o faterion a gedwir yn ôl mewn perthynas â thrafnidiaeth forol a dyfrffyrdd, mae hefyd nifer o eithriadau penodol y gall Senedd Cymru ddeddfu mewn perthynas â nhw. Er enghraifft:  

  • Rheoleiddio gwaith a allai rwystro neu beryglu mordwyo ar wahân i waith mewn perthynas â phorthladdoedd neu harbyrau ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, neu ar gyfer eu hadeiladu, nad ydynt yn gyfan gwbl yng Nghymru. 
  • Cyfranogiad awdurdodau achub a thân Cymru at ymatebion chwilio ac achub morol.
  • Cymorth ariannol i wasanaethau morgludiant i Gymru, oddi yno ac oddi mewn iddi.  
  • Rheoliadau yn ymwneud â chludo anifeiliaid ar gwch neu long at ddibenion gwarchod iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid, neu'r amgylchedd.

Trafnidiaeth awyr

O dan y pennawd hwn yn Atodlen 7A i GoWA 2006, ni all Senedd Cymru ddeddfu mewn perthynas â hedfan, trafnidiaeth awyr, meysydd awyr a meysydd glanio. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau ac mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â'r canlynol:

  • Cymorth ariannol i ddarparwyr neu ddarparwyr arfaethedig gwasanaethau trafnidiaeth awyr neu gyfleusterau neu wasanaethau meysydd awyr.
  • Strategaethau gan Weinidogion Cymru neu awdurdodau lleol neu gyhoeddus eraill ynghylch darparu gwasanaethau awyr.  
  • Rheoliadau yn ymwneud â chludo anifeiliaid ar awyrennau at ddibenion gwarchod iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid, neu'r amgylchedd.

Diogelwch trafnidiaeth

O dan y pennawd hwn yn Atodlen 7A i GoWA 2006, mae diogelwch trafnidiaeth yn fater a gedwir yn ôl yn benodol i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae gan Senedd Cymru gymhwysedd i ddeddfu mewn perthynas â rheoleiddio diogelwch trafnidiaeth sy'n ymwneud â chludo oedolion sy'n goruchwylio pobl sy'n teithio i’r lleoedd ble maent yn derbyn addysg neu hyfforddiant ac oddi yno. 

Materion eraill

Mae nifer o faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth o dan y pennawd hwn a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU:

  • Manylebau technegol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr anabl, gan gynnwys pwnc—

(a) adran 125(7) ac (8) o’r Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (canllaw ac ymgynghoriad yr Ysgrifennydd Gwladol â Phwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl), a

(b) Rhan 12 y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar drafnidiaeth pobl anabl (“Disabled persons: transport”).

  • Manylebau technegol ar gyfer tanwydd neu ffynonellau neu brosesau ynni eraill i'w defnyddio mewn trafnidiaeth ar y ffordd, trafnidiaeth forol, trafnidiaeth ar ddyfrffyrdd neu drafnidiaeth awyr.  
  • Cludo nwyddau peryglus (gan gynnwys cludo deunydd ymbelydrol).

Swyddogaethau gweithredol

Swyddogaethau gweithredol yw'r pwerau a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru o ddydd i ddydd i reoli'r wlad yn ddidrafferth. Mae'r pwerau hyn yn deillio o ffynonellau gwahanol. Archwilir y swyddogaethau gweithredol allweddol sy'n berthnasol i drafnidiaeth a'u sail gyfreithlon mewn manylder ar y tudalennau trafnidiaeth ar y wefan hon.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
07 Mehefin 2021