Gwaith stryd
O ganol y 19eg Ganrif rhoddwyd pwerau i gyfleustodau cyhoeddus (ymgymerwyr statudol) agor tyllau mewn priffyrdd a strydoedd er mwyn gosod eu hoffer o dan y briffordd ac i gael mynediad er mwyn cynnal a chadw wedi hynny. Heb awdurdod statudol clir byddai amharu o'r fath ar hawl tramwy cyhoeddus yn gyfystyr â niwsans cyhoeddus dan y gyfraith gyffredin.
Cafodd y Cod Gwaith Stryd 1950 a sefydlwyd dan y Ddeddf Cyfleustodau Cyhoeddus a Gwaith Stryd 1950 ei ddefnyddio am dros 40 mlynedd i gadw cydbwysedd rhwng hawliau croes awdurdodau priffyrdd ac ymgymerwyr statudol. Mae hwn wedi cael ei ddisodli gan Rhan III y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (NRSWA 1991) sy'n ceisio cyrraedd lefel o symlrwydd a hyblygrwydd drwy osod allan y fframwaith deddfwriaethol yn unig a gadael y rheoleiddio manwl mewn achosion penodol i reoliadau a chodau ymarfer. Mae Rhan III NRSWA 1991 yn cychwyn drwy sefydlu diffiniad o'r term "stryd" sydd i fod yn berthnasol nid yn unig at ddibenion NRSWA 1991 ond hefyd ar gyfer y Ddeddf Priffyrdd 1980.
Diffinnir 'stryd' fel:
- ‘the whole or any part of the following irrespective of whether it is a thoroughfare:
- any highway and any road, lane, footway, alley or passage
- any square or court, and
- any land laid out as a way whether it is for the time being formed as a way or not’
Daeth NRSWA 1991 â'r holl waith a allai olygu agor twll mewn stryd (ar wahân i waith ffordd sy'n cael ei wneud gan neu ar ran yr awdurdod priffyrdd) dan yr un maes rheoli. O ganlyniad, mae gofyn i bersonau neu gyrff a allai gael trwydded gan awdurdod stryd i dorri twll yn y stryd ddilyn yr un drefn ag ymgymerwyr sy'n gweithredu dan bwerau statudol.
Mae NRSWA 1991 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod stryd (sef yr awdurdod priffyrdd fel arfer) i gydlynu gwaith stryd o bob math ar y briffordd. Cafodd ymgymerwyr statudol hefyd eu gosod dan ddyletswydd i gydweithredu yn y broses hon. Fodd bynnag, methodd NRSWA 1991 â chyflawni'r lefel a fwriadwyd o gydweithredu o ystyried y lliaws o gyfleustodau sydd â'r hawl bellach i dorri twll yn y ffordd. Mae'r Ddeddf Rheoli Traffig 2004 wedi ceisio delio â'r broblem o fethiannau i gydweithredu drwy gyflwyno system hawlenni newydd ar gyfer cynnal gwaith stryd.
Mae ymgymerwyr yn cael eu gosod dan ddyletswydd glir dan NRSWA 1991 i weithredu mesurau diogelwch wrth gyflawni eu dyletswyddau ac i osgoi oedi a rhwystro, i sicrhau arolygu priodol ac i ddarparu cyfleusterau digonol ar gyfer arolygu i awdurdodau stryd.
Mae'n ofynnol iddynt adfer y stryd i safon barhaol ac i fodloni safon sy'n cael ei chydnabod yn genedlaethol wedi ei sefydlu'n glir. Mae ffioedd yn daladwy am archwiliadau gan yr awdurdod stryd ac mae costau rheoli trafnidiaeth dros dro a'r defnydd o lwybrau amgen yn rhai y gellir eu hadennill gan yr awdurdod stryd.
Mae swyddogaethau gweithredol yr Ysgrifennydd Gwladol dan NRSWA 1991 bellach yn nwylo Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru ac eithrio'r swyddogaeth a geir yn adran 167(3).