Skip to main content

Hedfan

Mae pennawd E4 (“Air transport”) o fewn Atodlen 7A i’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006) yn cadw cymhwysedd deddfwriaethol yn benodol dros hedfan, trafnidiaeth awyr, meysydd awyr a meysydd glanio. Mae hyn yn golygu nad yw Senedd Cymru yn meddu ar y pŵer yn gyffredinol i wneud deddfwriaeth mewn perthynas â'r materion hyn. Fodd bynnag, darperir rhai eithriadau penodol o fewn GoWA 2006 mewn perthynas â'r pennawd hwn. Yn amodol ar y materion a gedwir yn ôl, mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol a gallai, yn arbennig, ddeddfu mewn perthynas â'r canlynol:

  • Cymorth ariannol i ddarparwyr neu ddarparwyr arfaethedig gwasanaethau trafnidiaeth awyr neu gyfleusterau neu wasanaethau meysydd awyr.
  • Strategaethau gan Weinidogion Cymru neu awdurdodau lleol neu gyhoeddus eraill ynghylch darparu gwasanaethau awyr.
  • Rheoliadau yn ymwneud â chludo anifeiliaid ar awyrennau at ddibenion gwarchod iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid, neu'r amgylchedd.

Mae adran 11 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru roi cymorth ariannol i rai sy'n darparu gwasanaethau trafnidiaeth awyr sy'n cychwyn neu'n gorffen mewn maes awyr yng Nghymru ac i'r rhai sy'n darparu cyfleusterau neu wasanaethau maes awyr yng Nghymru, ond dim ond dan amgylchiadau lle na fyddai'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau yn cael eu darparu heb y cymorth ariannol hwnnw ym marn Gweinidogion Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mehefin 2021