Skip to main content

Rheoliadau trafnidiaeth ffyrdd

Ceir y prif bwerau rheoleiddio a rheoli trafnidiaeth a roddir i awdurdodau trafnidiaeth yn y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (RTRA 1984) a'r Deddf Rheoli Traffig 2004 (TMA 2004).

Prif offeryn awdurdod trafnidiaeth ar gyfer rheoleiddio trafnidiaeth yw'r gorchymyn rheoleiddio trafnidiaeth ('TRO').

Mae'r pwrpasau y gall TRO gael ei wneud ar eu cyfer wedi eu gosod allan yn adran 1 o RTRA 1984:

  • osgoi perygl i bobl neu drafnidiaeth arall sy'n defnyddio'r ffordd neu unrhyw ffordd arall neu i atal y tebygolrwydd o unrhyw berygl o'r fath yn digwydd;
  • atal difrod i'r ffordd neu i unrhyw adeilad ar y ffordd neu'n agos ati;
  • hwyluso taith unrhyw ddosbarth o drafnidiaeth ar y ffordd (yn cynnwys cerddwyr);
  • atal defnyddio'r ffordd gan drafnidiaeth gerbydol mewn dull sydd, neu o fath sydd yn anaddas o ystyried nodweddion presennol y ffordd neu'r eiddo cyffiniol;
  • cadw nodweddion y ffordd mewn achos lle mae'n arbennig o addas i'w defnyddio gan bobl yn marchogaeth ceffylau neu ar droed;
  • cadw amwynderau'r ardal y mae'r ffordd yn rhedeg drwyddi;
  • rheoli a chyfyngu ar symudiadau cerbydau i wella ansawdd yr aer.

Wrth wneud TRO rhaid i'r awdurdod trafnidiaeth ymarfer ei bŵer mewn modd sy'n sicrhau symudiad cyflym, hwylus a diogel trafnidiaeth gerbydol a thrafnidiaeth arall a darpariaeth cyfleusterau parcio addas a digonol ar y briffordd ac oddi arni cyn belled â bod hynny'n ymarferol.  Effaith y ddeddfwriaeth yw rhoi disgresiwn eang iawn i'r awdurdod trafnidiaeth.

Gellir hefyd defnyddio y gorchmynion trafnidiaeth hyn:

  • gorchymyn trafnidiaeth arbrofol at bwrpas cynnal cynllun rheoli traffig arbrofol;
  • gorchymyn dros dro i gyfyngu ar neu i rwystro trafnidiaeth (yn cynnwys cerddwyr) neu i osod cyfyngiad cyflymder ar ffordd lle mae gwaith yn cael eu gwneud, neu lle mae bwriad i wneud gwaith, neu yn agos at ffordd neu oherwydd y tebygolrwydd o berygl i'r cyhoedd neu ddifrod difrifol i'r ffordd gan rywbeth arall. Yn gyffredinol dim ond am 18 mis y gall gorchmynion dros dro fel hyn bara yn achos ffyrdd a 6 mis yn achos llwybrau troed a llwybrau ceffyl, ond gellir ymestyn gorchmynion os yw'r awdurdod wedi'i fodloni y bydd y gwaith yn cymryd mwy o amser;
  • gorchmynion stopio sydd ar waith os yw awdurdod lleol wedi derbyn cais gan ddatblygwr,  sydd wedi cael caniatâd cynllunio, i ddileu rhan o'r briffordd er mwyn i'r datblygiad fynd yn ei flaen. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau dan adran 247 y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i wneud gorchymyn i'r perwyl hwn;
  • gall Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion terfyn cyflymder parhaol dan adran 84 (1) o RTRA 1984 yn amodol ar ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu lleol;
  • cyfyngiadau ar aros a wnaed dan adrannau 1(1) 2(1) 2(2) neu 4(2) o RTRA 1984; 
  • caiff gorchmynion dileu cyfyngiadau a wnaed dan orchmynion blaenorol eu gwneud dan adrannau 82(2) 83(1) 84(1) neu 84 (2) o RTRA 1984.

Y brif ffordd o gyfleu i yrwyr y cyfyngiadau sy'n cael eu gosod gan TROs yw drwy gyfrwng arwyddion a marciau ar y ffordd. Dan adran 65 o RTRA 1984 gall awdurdod trafnidiaeth achosi i arwyddion ffordd gael eu gosod ar neu gerllaw ffordd yn unol â'r Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002 (fel y'i diwygiwyd) ac mewn Rheoliadau a Chyfarwyddiadau sy'n benodol gymwys i wahanol fathau o groesfannau cerddwyr.

Yng Nghymru, yr awdurdodau trafnidiaeth yw Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol. Mae'n rhaid i orchmynion o'r fath a wnaethpwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru, fod yn unol â'r Rheoliadau Gorchmynion Traffig (Gweithdrefn) yr Ysgrifennydd Gwladol (Cymru a Lloegr) 1990, a gorchmynion a wnaethpwyd gan yr awdurdodau lleol, fod yn unol â'r Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996.

Y corff sydd wedi'i rymuso i wneud y gwahanol orchmynion sydd ar gael dan Ddeddf 1984 yw'r 'awdurdod trafnidiaeth' ar gyfer unrhyw ffordd benodol. Diffinnir yr 'awdurdod trafnidiaeth' fel a ganlyn:

(i) The Secretary of State or the Welsh Ministers for highways for which they are the highway authority and

(ii) The county or metropolitan district council outside Greater London

Mae swyddogaethau arwyddocaol wedi cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn cynnwys swyddogaethau RTRA 1984 gyda rhai eithriadau mewn perthynas â rheoleiddio ffyrdd arbennig yn gyffredinol (sy'n cynnwys rheoleiddio traffyrdd yn gyffredinol ond nid darnau penodol o draffordd). Mae eithriad arall yn atal Gweinidogion Cymru rhag newid siâp arwyddion ffyrdd ar wahân i'w gwneud yn fwy yn unol â pholisi iaith.

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021