Cynllunio trafnidiaeth
Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 yn gosod dyletswydd trafnidiaeth gyffredinol ar Weinidogion Cymru i:
- ddatblygu polisïau ar gyfer hyrwyddo ac annog cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth diogel, integredig, cynaliadwy, effeithlon ac economaidd i Gymru, o Gymru ac o fewn Cymru, ac
- i gyflawni eu swyddogaethau er mwyn gweithredu'r polisïau hynny. Mae Adran 2 y Ddeddf yn galw ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi, ac i gadw golwg ar Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Rhaid i'r strategaeth osod allan y polisïau hyn a sut y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gweithredu eu dyletswydd trafnidiaeth gyffredinol. Cafodd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ei chyhoeddi ym mis Ebrill 2008.
Mae adran 108 o'r Deddf Trafnidiaeth 2000 yn galw ar gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i ddatblygu polisïau ar gyfer hyrwyddo ac annog trafnidiaeth ddiogel, integredig, effeithlon ac economaidd i mewn ac allan ac oddi fewn i'w hardal. Mae gofyn hefyd iddynt ddatblygu polisïau ar gyfer gweithredu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn eu hardal. Rhaid iddynt gyflawni eu swyddogaethau er mwyn gweithredu'r polisïau hynny. Mae galw arnynt i gynhyrchu cynllun trafnidiaeth lleol yn cynnwys y polisïau hynny. Rhaid i'r cynllun hwnnw gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Gall gael ei baratoi gan awdurdod trafnidiaeth lleol mewn perthynas â'i ardal gyfan, mewn perthynas â rhan yn unig o'i ardal neu ar y cyd gydag un neu ragor o awdurdodau trafnidiaeth lleol eraill.