Skip to main content

Gwasanaethau bysiau a choetsys

Ceir prif gorff y gyfraith mewn perthynas â gwasanaethau bysiau a choetsys yng Nghymru i'w chael yn y:

 

Deddf Trafnidiaeth 1985 (TA 1985)
Deddf Trafnidiaeth 2000 (TA 2000)
Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (TWA 2006)

Mae adran 63 o TA 1985 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau darpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus y maent yn ystyried yn briodol i'w sicrhau er mwyn bodloni unrhyw ofynion trafnidiaeth gyhoeddus na fyddai'n cael eu diwallu fel arall. Mae hyn yn cynnwys y pŵer i wneud cytundeb yn darparu am gymorthdaliadau gwasanaeth lle na fyddai'r gwasanaeth dan sylw'n cael ei ddarparu, neu lle na fyddai'n cael ei ddarparu i safon benodol, heb gymhorthdal.

Mae adrannau 114 i 123 o TA 2000 yn caniatáu i awdurdod trafnidiaeth lleol, neu ddau neu ragor o awdurdodau'n gweithio ar y cyd, sefydlu cynllun partneriaeth ansawdd. Cytundeb ffurfiol yw hwn rhwng awdurdod trafnidiaeth lleol (neu awdurdodau) a gweithredwr (neu weithredwyr) bysiau i ddarparu gwell gwasanaethau. Dan gynllun o'r fath bydd awdurdod trafnidiaeth lleol (neu ddau neu ragor o awdurdodau trafnidiaeth ar y cyd) yn cytuno i fuddsoddi mewn gwell cyfleusterau mewn lleoliadau penodedig ar hyd llwybrau bysiau (er enghraifft, arosfannau bws neu lonydd bws) a gweithredwyr sy'n dymuno defnyddio'r cyfleusterau hynny'n ymgymryd i ddarparu gwasanaethau o safon benodedig (er enghraifft, bysiau newydd, neu safonau hyfforddi gyrwyr).

Mae adrannau 124 i 134 o TA 2000 yn caniatáu i awdurdod trafnidiaeth lleol, neu ddau neu ragor o awdurdodau'n gweithredu ar y cyd, sefydlu cynlluniau ansawdd contractau. Mae hyn yn cynnwys atal y farchnad ddadreoleiddiedig ar gyfer gwasanaethau bysiau, gyda'r awdurdod trafnidiaeth lleol yn gosod contract egsgliwsif i weithredwr redeg y gwasanaethau sy'n cael eu nodi yn y cynllun. 
 
Mae adran 6 o TWA 2006 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cymorth ariannol i awdurdodau lleol ac awdurdodau trafnidiaeth ar y cyd yng Nghymru er mwyn eu galluogi neu eu hwyluso i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â thrafnidiaeth. Gallant osod amodau ar gymorth ariannol dan yr adran hon.

Mae adran 7 o TWA 2006 yn caniatáu i Weinidogion Cymru sicrhau darpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus y maent yn eu hystyried yn briodol er mwyn bodloni unrhyw ofynion cludiant cyhoeddus na fyddent yn cael eu diwallu fel arall.  Mae hyn yn cynnwys y pŵer i wneud cytundeb yn darparu ar gyfer cymorthdaliadau gwasanaeth. Ni chânt wneud cytundeb cymorthdaliadau gwasanaeth pe na bai’r  gwasanaeth dan sylw'n cael ei ddarparu, neu na fyddai’n cael ei ddarparu i safon benodol (er enghraifft, mewn perthynas â mynychder neu amseru'r gwasanaeth neu'r cerbydau a ddefnyddir i ddarparu'r gwasanaeth), heb gymhorthdal.

Mae adran 139 o TA 2000 yn galw ar awdurdodau lleol i bennu, o bryd i'w gilydd, gan dalu sylw i'w polisïau trafnidiaeth lleol, pa wybodaeth ar fysiau lleol ddylai fod ar gael i'r cyhoedd a sut y dylai'r wybodaeth honno fod ar gael.

Mae adran 145B o TA 2000 yn ymwneud â chynlluniau gorfodol teithio rhatach ar fysiau. Mae'n galluogi unrhyw berson sydd wedi derbyn cerdyn teithio rhatach statudol gan awdurdod lleol yng Nghymru ac sy'n teithio ar wasanaeth cymwys ar daith, o ddangos y cerdyn, i gael consesiwn sy'n golygu hepgor y tâl am y daith gan weithredwr y gwasanaeth.  Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ad-dalu gweithredwyr sy'n darparu consesiynau dan adran 149 y Ddeddf. Mae adran 154 o TA 2000 yn caniatáu i Weinidogion Cymru dalu grantiau i weithredwyr gwasanaethau bws cymwys tuag at eu costau o weithredu'r gwasanaethau hynny. 

Teithio rhatach ar fysiau

Gwnaeth y Ddeddf Trafnidiaeth Bws Consesiynol 2007 newidiadau pellgyrhaeddol i'r darpariaethau teithio rhatach ar fysiau yn TA 2000, gan ddisodli'r prif adrannau sy'n ymwneud â theithio rhatach, adrannau 145 i 150, gydag adrannau newydd sbon sy'n cyfeirio'n benodol at bwerau Gweinidogion Cymru. Mae'r cynllun gorfodol teithio rhatach ar fysiau yn cael ei weithredu yng Nghymru yn rhinwedd adrannau 145B i 150 y TA 2000 a rheoliadau cysylltiedig a wnaed dan adrannau 149(3) a 150(6) y TA 2000 gweler y Rheoliadau Consesiynau Teithio Gorfodol (Trefniadau Ad-Dalu) (Cymru) 2001 (Rheoliadau MTC 2001).

Mae adran 145B o TA 2000 yn darparu bod rhaid rhoi tocyn teithio rhad i unrhyw berson oedrannus neu anabl yng Nghymru sy'n gwneud cais i'w awdurdod lleol. Gall y tocyn gael ei ddefnyddio i deithio unrhyw bryd ar unrhyw wasanaeth cymwys yng Nghymru a hefyd ar wasanaethau rhwng Cymru a thu hwnt, ond yng nghyffiniau, Cymru. Mae'n rhaid i weithredwyr bysiau, yn rhinwedd adran 145B(1) i gludo deiliaid tocynnau rhad a hynny heb godi tâl ar ddeiliad y tocyn. Mae'n drosedd (dan adran 148 o TA 2000) i weithredwr wrthod cydymffurfio â'r rhwymedigaeth i gludo teithwyr â thocyn bws rhad.

Mae adran 149(1) o TA 2000 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ad-dalu gweithredwyr bysiau am ddarparu teithio rhad. Mae Adran 149 (3) y TA 2000 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn perthynas â'r penderfyniad gan awdurdodau lleol ynghylch y symiau i'w talu fel ad-daliadau i'r gweithredwyr bysiau gweler y Rheoliadau MTC 2001. Heb y rheoliadau hyn, byddai trefniadau ad-dalu'n fater o negydu rhwng awdurdodau lleol unigol a'r gweithredwyr bysiau.

Mae adran 150 o TA 2000 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi amrywiadau i'r trefniadau ad-dalu o leiaf bedwar mis cyn iddynt ddod i rym. Mae Adran 150(3) yn darparu y gall gweithredwr sy'n teimlo ei fod yn cael ei effeithio'n niweidiol gan newidiadau arfaethedig i'r trefniadau ad-dalu wneud cais i Weinidogion Cymru newid y trefniadau hynny ar y sail bod rhesymau arbennig pam na ddylai'r newidiadau hynny fod yn gymwys mewn perthynas â'r gweithredwr hwnnw.

Mae Rheoliadau 3 o Rheoliadau MTC 2001, yn dweud mai un o amcanion awdurdod lleol wrth ffurfio trefniadau ad-dalu yw darparu nad yw gweithredwyr yn gwneud yn well nac yn waeth o ganlyniad i'r cynllun consesiynau gorfodol (ond nid yw hyn yn ddyletswydd arno).
 
Mae Rheoliad 4 o Rheoliadau MTC 2001 yn darparu bod rhaid i daliadau gan yr awdurdod lleol dalu'r costau i weithredwyr am ddarparu'r cynllun consesiwn gorfodol.

Yn unol â rheoliad 4 (2) caiff y gost i weithredwyr ei chyfrifo drwy bennu'r refeniw a gollwyd gan y gweithredwr wrth gludo teithwyr â thocyn teithio, llai unrhyw refeniw ychwanegol a gafodd ei greu o ganlyniad i'r cynllun, ynghyd ag unrhyw gostau ar ben y costau gweithredu sylfaenol llai unrhyw leihad yn y costau gweithredu sylfaenol a gyflawnwyd drwy weithredu'r cynllun. Y refeniw a gollwyd yw amcangyfrif o'r refeniw a fyddai wedi cael ei dderbyn pe na bai’r cynllun yn bodoli ac mae'n dibynnu ar nifer y teithiau a fyddai wedi cael eu gwneud gan deithwyr â thocyn teithio a'r prisiau y byddai'r gweithredwyr wedi eu cynnig i'r teithwyr hynny pe na byddai'r cynllun yn bodoli.

Mae Rheoliadau MTC 2001 yn darparu ynghylch dull a mynychder taliadau ad-dalu (rheoliad 5) ac yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol fabwysiadu dull safonol i bennu'r cyfanswm teithiau gafodd eu gwneud gan ddeiliaid tocynnau teithio a gwerth y prisiau i'w priodoli i'r teithiau hynny (rheoliad 6), er y gall gweithredwr gael ei eithrio o'r dull safonol os yw'r baich gweinyddol yn ormod. Mae Rheoliad 8 yn darparu bod rhaid i awdurdodau lleol barchu unrhyw ganllawiau a ddaw gan Weinidogion Cymru wrth fabwysiadu'r dull safonol yn unol â Rheoliad 6.

Gwasanaethau bysiau cymunedol

Gwasanaethau lleol yw gwasanaethau bysiau cymunedol sy'n cael eu darparu gan gorff sydd â chonsyrn am anghenion cymdeithasol a lles un neu ragor o gymunedau heb olwg ar elw, naill ai ar ran y corff hwnnw neu unrhyw un arall a drwy gyfrwng cerbyd wedi ei addasu i gludo mwy nag wyth teithiwr. Gall y comisiynydd trafnidiaeth lleol, dan adran 22(2) o'r Ddeddf Trafnidiaeth 1985, ganiatáu trwydded bws cymunedol mewn perthynas â'r defnydd o gerbyd gwasanaeth cyhoeddus yn darparu gwasanaeth bws cymunedol.

Rheoleiddio'r diwydiant bysiau

Nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau mewn perthynas â'r drefn reoleiddio ehangach ar gyfer y diwydiant bysiau. Mae hyn yn cynnwys y swyddogaethau trwyddedu a chofrestru gwasanaethau gweithredwyr sy'n cael ei wneud gan gomisiynwyr trafnidiaeth, yn ogystal â materion fel trwyddedu gyrwyr, yswiriant cerbydau a rheoleiddio'r defnydd o gerbydau. Mae'r pwerau hyn wedi eu cynnwys mewn amryw o Ddeddfau Trafnidiaeth ac amrywiaeth o ddeddfwriaeth arall mwy penodol megis y Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981, y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, y Ddeddf Trethu a Chofrestru Cerbydau 1994 a'r Ddeddf Cerbydau (Trwyddedu Gweithredwyr) 1995.

Comisiynwyr trafnidiaeth

Mae Comisiynwyr trafnidiaeth yn cael eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth dan adran 4 o'r Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981 ac mae ganddynt gyfrifoldeb yn eu hardal dros drwyddedu gweithredwyr cerbydau nwyddau trwm (HGVau) a bysiau a choetsys (cerbydau gwasanaeth cyhoeddus neu PSVau); cofrestru gwasanaethau bws lleol; a chamau disgyblu yn erbyn gyrwyr HGVau a PSVau.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mehefin 2021