Skip to main content

Trafnidiaeth forol ac ar ddyfrffyrdd

Mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â phorthladdoedd a harbyrau sy'n gyfan gwbl yng Nghymru, ac eithrio porthladdoedd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl. Mae nifer o faterion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth forol yng Nghymru yn cael eu cadw yn ôl o dan Atodlen 7A i'r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn benodol:

  •  Hawliau a rhyddid mordwyo.
  • Safonau morgludiant a thechnegol a diogelwch cerbydau môr nad ydynt yn llongau (p'un a ydynt yn gallu mordwyo ai peidio), gan gynnwys pwnc

a) adran 2 o’r Deddf Diogelu Llongddrylliadau 1973, sy’n rhoi gwaharddiad ar fynd yn agos at longddrylliadau peryglus ("Prohibition on approaching dangerous wrecks")

b) y Ddeddf Llongau Peryglus 1985, ac

c) y Ddeddf Llongau Masnach 1995.

  •  Porthladdoedd a harbyrau ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl nad ydynt yn gyfan gwbl yng Nghymru.
  •  Arweiniad ar wahân i arweiniad datganoledig.
  •  Gwasanaethau gwylwyr y glannau a chwilio ac achub morol.
  •  Hofranlongau.

Yn amodol ar y mesurau a gedwir yn ôl, gall Senedd Cymru, yn arbennig, ddeddfu mewn perthynas â'r canlynol:

  • Rheoleiddio gwaith a allai rwystro neu beryglu mordwyo ar wahân i waith mewn perthynas â phorthladdoedd neu harbyrau ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, neu ar gyfer eu hadeiladu, nad ydynt yn llwyr yng Nghymru.
  • Cyfranogiad awdurdodau achub a thân Cymru at ymatebion chwilio ac achub morol.
  • Cymorth ariannol i wasanaethau llongau i Gymru, oddi yno ac oddi mewn iddi.
  • Rheoliadau yn ymwneud â chludo anifeiliaid ar gwch neu long at ddibenion gwarchod iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid, neu'r amgylchedd.

Mae swyddogaethau gweithredol mewn perthynas â harbyrau o dan y Ddeddf Harbyrau 1964 wedi cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru. Mae'r rhain yn adlewyrchu cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru ac yn ymwneud â llywodraethu porthladdoedd a harbyrau o ddydd i ddydd sy’n gyfan gwbl yng Nghymru (ac eithrio porthladdoedd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl).

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau cydredol â'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 17 o’r Ddeddf y Weinyddiaeth Drafnidiaeth 1919 i roi grantiau neu fenthyciadau i unrhyw awdurdod neu berson er mwyn adeiladu, gwella neu gynnal a chadw camlesi neu ddyfrffyrdd mewndirol, gwasanaethau trafnidiaeth ar ddŵr, harbyrau, dociau, neu bierau. Gellir cyflawni pwerau o'r fath naill ai gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mehefin 2021