Trafnidiaeth rheilffyrdd yng Nghymru
Mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol cyfyngedig mewn perthynas â gwasanaethau rheilffyrdd, fel yr esbonnir eisoes yn yr adran Trafnidiaeth - beth sydd wedi ei ddatganoli?
Mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau weithredol mewn perthynas â drafnidiaeth rheilffyrdd o dan y Ddeddf Rheilffyrdd 2005 ac yn rhinwedd Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rheilffyrdd) 2018, a drosglwyddwyd swyddogaethau i Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf Rheilffyrdd 1993 a Ddeddf Rheilffyrdd 2005.
Mae'r swyddogaethau hyn, yn bennaf, yn gysylltiedig â chyllid, masnachfreintiau gwasanaethau i deithwyr ar y rheilffyrdd, a diddymu neu gau gwasanaethau rheilffyrdd ac asedau rheilffyrdd penodol. Nid yw swyddogaethau gweithredol yn gysylltiedig â’r rhwydwaith rheilffyrdd wedi'u trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
Yn amodol ar eithriadau penodol, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud gorchmynion (Gorchmynion TWA) o dan adran 1 o’r Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 mewn perthynas ag adeiladu a gweithredu rheilffyrdd, tramffyrdd, cerbydau tram a rhai systemau trafnidiaeth cyfeiriedig eraill. Gall Gorchmynion TWA awdurdodi materion ategol i'r systemau trafnidiaeth cyfeiriedig hyn, megis caffael tir yn orfodol, creu neu ddiddymu hawliau dros dir, a chodi pris tollau a thocynnau cosb. Fodd bynnag, os ymwneir cais â Chymru a Lloegr (er enghraifft, rheilffordd newydd arfaethedig sy’n croesi'r ffin), byddai'n cael ei bennu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.