Skip to main content

Gwasanaethau meddygol

Mae rhannau 4 i 7 o’r Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y gwahanol wasanaethau iechyd sydd i’w darparu o dan y Ddeddf:

Rhan 4 – Gwasanaethau Meddygol (adrannau 41 – 55)

Rhan 5 – Gwasanaethau Deintyddol (adrannau 56 – 70)

Rhan 6 – Gwasanaethau Offthalmig (adrannau 71 – 79)

Rhan 7 – Gwasanaethau Fferyllol (adrannau 80 – 103) 

Mae adran 41 o'r NHSWA 2006 yn dweud bod rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl), i’r graddau mae’n ystyried yn angenrheidiol i fodloni’r holl ofynion rhesymol, ddefnyddio ei bwerau i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn ei ardal, neu sicrhau bod gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu. Yn ogystal ag unrhyw bŵer arall a roddwyd iddo, gall BILl ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol ei hun (boed y tu mewn neu’r tu allan i’w ardal), a gwneud trefniadau ar gyfer eu darparu fel y mae’n ystyried yn briodol. Gall Byrddau Iechyd Lleol wneud trefniadau cytundebol gydag unrhyw berson i’r diben hwn. Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu bod yn rhaid i wasanaethau o ddisgrifiad penodol gael eu hystyried, neu beidio cael eu hystyried, fel gwasanaethau meddygol sylfaenol.

Mae adran 42 yn darparu y caiff BILl ymrwymo i gontract, a elwir yn Gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, a bydd gwasanaethau meddygol cyffredinol yn cael eu darparu o dan y contract hwn. Gall y contract wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n cael ei chytuno rhwng y partïon mewn perthynas â’r gwasanaethau i’w darparu, cydnabyddiaeth ariannol o dan y contract, ac unrhyw faterion eraill. Gall y gwasanaethau sydd i’w darparu o dan gontract o’r fath gynnwys gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau meddygol sylfaenol a chynnwys gwasanaethau sydd i’w darparu y tu allan i ardal y BILl. Mae Adran 43 yn darparu bod rhaid i’r contract ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n llofnodi contract gyda’r BILl (y contractwr) ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol fel y rhai a nodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliadau 15 ac 16 o'r Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 (GMSCR 2004) yn darparu ar gyfer gwasanaethau ‘hanfodol’ ac ‘ychwanegol’ sydd i’w darparu o dan y contract. Drwy rinwedd adran 4, a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006, mae GMSCR 2004 yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 42 NHSWA 2006. Darperir crynodeb o’r gwasanaethau hanfodol ac ychwanegol isod. Fodd bynnag, dylid darllen GMSCR 2004 i gael manylion llawn y gwasanaethau meddygol sylfaenol sydd i’w darparu o dan y contractau.

Gwasanaethau hanfodol

Mae’n rhaid i gontractwyr, yn ystod yr oriau craidd (dydd Llun i ddydd Gwener 8.00-18.30), ddarparu gwasanaethau ar gyfer rheoli cleifion neu breswylwyr dros dro sydd neu sydd yn credu eu bod yn sâl, sydd â salwch terfynol, neu’n dioddef o glefyd cronig, mewn dull a bennir gan y practis meddygol mewn trafodaeth â’r claf, a darparu triniaeth a gofal parhaus i bob claf cofrestredig a phreswylydd dros dro gan gynnwys darparu cyngor mewn cysylltiad ag iechyd y claf, ac atgyfeirio’r claf at wasanaethau eraill o dan NHSWA 2006.

Mae’n rhaid i gontractwr ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol hefyd yn ystod oriau craidd ar gyfer rhoi triniaeth sy’n angenrheidiol yn syth i unrhyw berson y gofynnwyd i’r contractwr ei drin yn sgil damwain neu argyfwng mewn unrhyw le yn ei ardal ymarfer, ac, mewn rhai amgylchiadau, darparu’r un driniaeth i bobl nad ydynt wedi cofrestru gyda darparwr yn ardal y BILl.

Gwasanaethau ychwanegol

Fe all fod yn ofynnol i gontractwyr ddarparu gwasanaeth sgrinio serfigol, gwasanaethau atal cenhedlu, brechiadau ac imiwneiddiadau i oedolion a/neu blant, goruchwylio iechyd plant, gwasanaethau meddygol mamolaeth a mân lawdriniaethau.

Cymhwysedd

Mae adran o 44 NHSWA 2006 yn darparu y gall BILl, yn amodol ar amodau a all gael eu pennu mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ymrwymo i gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol gydag ymarferydd meddygol, dau neu fwy o unigolion sy’n ymarfer mewn partneriaeth lle mae amodau statudol adran 44(2) wedi’u bodloni, neu gwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau lle mae amodau statudol adran 44(3) wedi’u bodloni. Mae adran 206 o NHSWA 2006 ac adran 5, ac Atodlen 1 i'r Ddeddf Dehongli 1978 yn diffinio ‘ymarferydd meddygol’ fel unigolyn sydd wedi cofrestru’n llawn o fewn ystyr y Ddeddf Feddygol 1983 sy’n dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno.

Mae Rheoliadau 3 i 8 o GMSCR 2004 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cymhwysedd i ymrwymo i gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Mae’r Rheoliadau yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 44 NHSWA 2006. Darperir crynodeb byr o ofynion eraill GMSCR 2004 isod.

Mae Rheoliad 4 yn datgan pan fydd contract yn cael ei wneud gydag ymarferydd meddygol (neu ymarferwyr meddygol sy’n ymarfer mewn partneriaeth, neu gwmni sy’n eiddo yn llawn neu’n rhannol i ymarferydd meddygol), bod rhaid i’r ymarferydd hwnnw fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol, h.y. ymarferydd meddygol y mae ei enw wedi’i gynnwys ar y Gofrestr Ymarferwyr Meddygol a gedwir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Yn amodol ar eithriadau a nodir yn rheoliadau 5(3)-(5), mae Rheoliad 5 yn datgan na ellir ymrwymo i gontractau gydag ymarferydd meddygol, partneriaeth, neu gwmni, pan fo unrhyw un o’r ymarferwyr (neu bartner neu gydberchennog arall, neu’r bartneriaeth/cwmni ei hun):

  • wedi cael gwaharddiad cenedlaethol,
  • wedi’i wahardd,
  • wedi’i ddiswyddo o swydd gyda chorff gwasanaeth iechyd yn y pum mlynedd cyn llofnodi’r contract,
  • wedi’i ddileu o restr gofal sylfaenol neu heb gael ymuno,
  • wedi cael ei ddyfarnu’n euog o lofruddiaeth,
  • wedi cael ei ddyfarnu’n euog o gyflawni trosedd ac eithrio llofruddiaeth ers mis Awst 2002 a’i ddedfrydu i dros chwe mis o garchar,
  • wedi cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd yn rhywle arall a fyddai, pe bai wedi’i chyflawni yng Nghymru a Lloegr yn gyfystyr â llofruddiaeth, neu pe bai wedi’i chyflawni yng Nghymru a Lloegr ers 2002, wedi arwain at dros chwe mis o garchar,
  • wedi cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd yn erbyn plant neu bobl ifanc o dan y Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933,
  • wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu'n destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu gorchymyn cyfyngu rhyddhad dyled,
  • wedi’i symud o’i swydd fel ymddiriedolwr elusen, neu
  • yn diarddel o fod yn gyfarwyddwr cwmni.

Mae Rheoliadau 6 a 7 yn datgan pan fo BILl o’r farn nad yw’r amodau a nodir yn rheoliadau 4 a/neu 5 wedi’u bodloni, bod rhaid iddo ysgrifennu at yr unigolyn sydd wedi gwneud cais i ymrwymo i’r contract, yn nodi’r rheswm dros wrthod a hysbysu’r unigolion am yr hawl i apelio i dribiwnlys Haen Gyntaf a ddarperir gan reoliad 7.

Taliadau

Mae adran 45 o NHSWA 2006 yn datgan y gall Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau ynghylch y taliadau sydd i’w gwneud o dan gontractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Mae’n rhaid i gontract ei gwneud hi’n ofynnol i daliadau gael eu gwneud yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd o dan adran 45.

Yn arbennig, gall y cyfarwyddiadau:

  • ddarparu ar gyfer gwneud taliadau drwy gyfeirio at gydymffurfio â safonau neu gyflawni lefelau perfformiad,
  • darparu ar gyfer gwneud taliadau drwy gyfeirio at unrhyw gynllun neu raddfa a bennir yn y cyfarwyddyd, neu benderfyniad a wnaed gan unrhyw unigolyn yn unol â ffactorau a bennir yn y cyfarwyddyd,
  • darparu ar gyfer gwneud taliadau mewn perthynas ag ymarferwyr unigol,
  • darparu bod y cyfan neu unrhyw ran o daliad yn destun amodau, a
  • gwneud darpariaeth a ddaw i rym o ddyddiad cyn dyddiad y cyfarwyddyd, cyn belled nad yw’r ddarpariaeth, mewn perthynas â’r cyfarwyddyd yn ei gyfanrwydd, yn niweidiol i gydnabyddiaeth ariannol yr unigolion y mae’n berthnasol iddynt.
  • Cyn cyhoeddi cyfarwyddyd, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw gorff sydd yn eu barn hwy yn cynrychioli unigolion y byddai’r cyfarwyddyd yn ymwneud â’u cydnabyddiaeth ariannol, a gallant ymgynghori ag unigolion eraill fel y maent yn ystyried yn briodol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno’r Cyfarwyddiadau i Fyrddau Iechyd Lleol ar Ddatganiad o Hawliau Ariannol 2013 (2013 Rhif 8) (SFE 2013) wrth ddefnyddio eu pŵer o dan adran 45 o NHSWA 2006. Mae SFE 2013 yn gwneud darpariaeth fanwl am gynnwys contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol mewn perthynas â thaliadau.

Diwygiwyd SFE 2013 ymhellach gan gyfarwyddiadau eraill gan Weinidogion Cymru. Dylid bod yn ofalus i sicrhau mai’r fersiwn ddiweddaraf o SFE 2013 a ddefnyddir, gan ei fod yn offeryn anstatudol, nid yw’r cyfarwyddiadau’n ymddangos ar wefan legislation.gov.uk ond gellir ei weld yn adran ‘Deddfwriaeth’ gwefan Llywodraeth Cymru.

Rhagnodi cyffuriau

Mae adran 46 o NHSWA 2006 yn datgan bod rhaid i gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i gontractwr gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chyffuriau, meddyginiaethau neu sylweddau eraill y gellir neu na ellir eu harchebu ar gyfer cleifion. Mae Adran 46(2) yn datgan bod rhaid i reoliadau roi cyfarwyddyd adran 46 i wneud hyn fel rheol. Gellir ei wneud drwy offeryn ysgrifenedig, yn hytrach na rheoliadau, lle mae’n gweithredu cais a wnaed i Weinidogion Cymru gan unigolyn sydd ag awdurdodiad marchnata y Gymuned neu awdurdodiad marchnata’r DU mewn perthynas â’r cyffur neu’r feddyginiaeth y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004 yn gwneud darpariaeth bellach am ragnodi cyffuriau o dan gontractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, ac yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 46 NHSWA 2006. Mae Rheoliadau 2 a 3 a’r Atodlenni i’r Rheoliadau yn nodi pa gyffuriau a meddyginiaethau y gellir eu rhagnodi o dan Gontractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, a’r amgylchiadau penodol lle y gellir rhagnodi rhai cyffuriau.

Telerau contract gofynnol eraill

Mae Adran 47 NHSWA 2006 yn datgan y dylai contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol gynnwys darpariaeth o’r fath y gellir eu pennu gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau. Yn arbennig, gall unrhyw reoliadau o’r fath wneud darpariaeth ar gyfer:

  • sut y dylid darparu gwasanaethau ac i ba safonau,
  • yr unigolion sy’n darparu gwasanaethau,
  • yr unigolion sy’n derbyn y gwasanaethau,
  • amrywiadau mewn telerau contractau,
  • hawliau mynediad ac archwilio,
  • o dan ba amgylchiadau y gellir terfynu contract a sut y gellir gwneud hynny,
  • gorfodi a datrys anghydfod.

Mae’n rhaid i unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 47 wneud darpariaeth ynghylch hawl cleifion i ddewis gan bwy maent am dderbyn gwasanaethau.

Mae Rheoliadau 11 i 26 o'r Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004 (GMSCR 2004) yn gwneud darpariaeth am y telerau contract gofynnol eraill. Mae’r Rheoliadau yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 47 NHSWA 2006 ac yn ei gwneud hi’n ofynnol i gontractau gynnwys telerau ar:

  • enwau’r partïon,
  • a yw’r contract i’w ystyried yn gontract GIG,
  • a yw contract gyda phartneriaeth i’w ystyried yn gontract gyda’r bartneriaeth fel y’i ffurfir o dro i dro,
  • hyd y contract,
  • y gwasanaethau hanfodol ac ychwanegol (gweler uchod),
  • darpariaeth y tu allan i oriau,
  • rhoi tystysgrifau meddygol am ddim,
  • taliadau, yn cynnwys bod rhaid i’r contract gynnwys holl ddarpariaethau SFE 2013,
  • ffioedd a thaliadau,
  • terfynu.

Datrys anghydfod

Mae adran 48 o NHSWA 2006 yn datgan y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â datrys anghydfod ynghylch telerau contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol arfaethedig, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer atgyfeirio telerau contract arfaethedig i Weinidogion Cymru, ac i Weinidogion Cymru, neu unigolyn a benodir ganddynt, benderfynu ar delerau ymrwymo’r contract.

Gall rheoliadau wneud darpariaeth hefyd i unigolyn sy’n ymrwymo i gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol gael ei ystyried fel corff gwasanaeth iechyd mewn amgylchiadau lle mae’r unigolyn yn dymuno hynny, ac i gontract gyda phartneriaeth gael ei ystyried yn gontract GIG lle mae’r partneriaid yn dewis dod yn gorff gwasanaeth iechyd a bod newid yn aelodaeth y bartneriaeth. Os yw'r darparwr yn gorff gwasanaeth iechyd, bydd hyn yn effeithio'r ffordd mae delio âg anghydfod sy'n berthnasol i gontract.

Mae Rheoliad 9 o GMSCR 2004 yn gwneud darpariaeth am ddatrys anghydfod, ac mae'r Rheoliadau hyn yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 48 NHSWA 2006. Mae Rheoliad 9 yn datgan, oni bai bod y ddau barti a fydd yn rhan o’r contract arfaethedig yn gyrff gwasanaeth iechyd (ac os felly, bydd adran 4(4) o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 yn berthnasol), os na all y partïon gytuno ar un o delerau penodol y contract, gall y naill barti neu’r llall atgyfeirio’r anghydfod i Weinidogion Cymru i’w ystyried ac i wneud penderfyniad cyfrwymol ar y mater. Efallai y bydd y penderfyniad yn pennu’r telerau i’w cynnwys yn y contract, yn ei gwneud yn ofynnol i’r BILl fwrw ymlaen â’r contract arfaethedig, ond efallai na fydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr arfaethedig fwrw ymlaen â’r contract arfaethedig, a bydd yn gyfrwymol ar y ddau barti.

Rhestru perfformwyr

Mae adran 41 o NHSWA 2006 yn gosod dyletswydd ar bob BILl i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu i sicrhau bod gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu. Mae Adran 49 o’r un Ddeddf yn datgan y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau yn nodi na all gweithiwr gofal iechyd proffesiynol o ddisgrifiad a nodir yn y rheoliadau gyflawni unrhyw wasanaeth meddygol sylfaenol y mae BILl yn gyfrifol amdano oni bai fod y gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’i gynnwys ar restr sy’n cael ei chynnal gan BILl o dan y rheoliadau.

Mae’r rheoliadau’n gwneud darpariaeth ar gyfer y canlynol yn benodol:

  • y gwaith o baratoi, cynnal a chyhoeddi rhestr,
  • cymhwysedd,
  • ceisiadau ar gyfer bod ar y rhestr,
  • rhesymau dros dderbyn neu wrthod cais,
  • y gofynion y mae’n rhaid i unigolion ar y rhestr gydymffurfio â nhw,
  • atal dros dro neu dynnu enw oddi ar y rhestr,
  • amgylchiadau pan na ellir tynnu unigolyn oddi ar y rhestr,
  • taliadau i’w gwneud ar gyfer unigolyn sydd wedi’i atal dros dro o’r rhestr,
  • y meini prawf i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau o dan y rheoliadau,
  • apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan BILl o dan y rheoliadau,
  • datgelu gwybodaeth am ymgeiswyr i’w cynnwys yn y rhestr berfformwyr, derbyn neu wrthod ceisiadau, atal dros dro neu dynnu oddi ar y rhestr, a
  • diarddel ymarferwyr.

Gall y rheoliadau ddarparu ar gyfer y canlynol hefyd:

  • cynnwys unigolyn ar restr ond ar amodau a bennir gan BILl,
  • BILl i amrywio amodau neu osod rhai gwahanol,
  • canlyniadau methu â chydymffurfio ag amod, ac
  • adolygiad gan BILl o benderfyniadau a wnaed yn rhinwedd y rheoliadau.

Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) (Cymru) 2004 yn gwneud darpariaeth am restri perfformwyr ac yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 49 NHSWA 2006. Mae Rheoliad 3 o’r Rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol i BILl baratoi a chyhoeddi rhestr perfformwyr meddygol a rhestr perfformwyr deintyddol. Dylai’r rhestri hyn fod ar gael i’r cyhoedd eu gweld. Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer ceisiadau i’w cynnwys yn y rhestr, yn cynnwys y dogfennau a’r datganiadau sydd angen eu hanfon gyda’r cais. Mae Rheoliad 6 yn egluro’r rhesymau cyffredinol dros wrthod cais ymarferwyr meddygol a deintyddol i ymuno â’r rhestri, mae rheoliad 9 yn datgan yr amodau y mae’n rhaid i unigolyn ar restr berfformwyr gydymffurfio â nhw, mae rheoliadau 10 i 12 yn darparu ar gyfer dileu ymarferwyr o’r rhestri, mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer atal rhywun dros dro o’r rhestr, a rheoliad 15 yn darparu ar gyfer apeliadau yn erbyn penderfyniad BILl. Mae Rheoliadau 21 i 27 yn gwneud darpariaeth bellach a phenodol am restri perfformwyr meddygol.

Trefniadau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol – Cytundebau Gwasanaethau Meddygol Personol

Mae adran 50 o’r NHSWA 2006 yn datgan y gall BILl lunio cytundebau lle mae gwasanaethau meddygol sylfaenol yn cael eu darparu gan rywun (heblaw’r BILl). Mae’n rhaid i’r cytundebau fod yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 52 o’r Ddeddf honno. Mae cytundebau adran 50 yn cael eu galw’n Gytundebau Gwasanaethau Meddygol Personol (cytundebau PMS), ac yn ddewis amgen i’r Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a ddisgrifir uchod.

Y prif wahaniaeth rhwng y cytundebau PMS a’r Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yw bod cytundebau PMS yn cael eu cytuno’n lleol rhwng y BILl a’r practis cyffredinol, yn hytrach na’u trafod ar lefel genedlaethol. Mae yna gytundebau PMS ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae adran 50 yn datgan na all cytundebau PMS gyfuno trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol gyda threfniadau ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol neu fferyllol sylfaenol, ac mae adran 51 yn datgan mai dim ond gydag un neu fwy o’r canlynol y gellir ymrwymo i gytundeb PMS:

  • ymddiriedolaeth GIG neu Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG,
  • ymarferydd meddygol sy’n bodloni’r amodau a nodwyd yn rheoliadau Gweinidogion Cymru,
  • gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n bodloni’r amodau a nodwyd yn rheoliadau Gweinidogion Cymru,
  • unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o dan Gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol neu Gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (neu’r trefniadau cyfatebol yn Lloegr), neu yn unol â threfniadau tebyg, neu’n darparu gwasanaethau penodol yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon,
  • gweithiwr y GIG,
  • cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau sy’n eiddo’n llwyr i unigolyn y byddai BILl wedi gallu ymrwymo i gytundeb PMS ag ef fel arall, neu
  • BILl.

Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau am gytundebau PMS. Mae Adran 52 yn datgan bod rhaid i unrhyw reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer cyfranogwyr heblaw BILl i dynnu’n ôl o’r trefniadau os ydynt yn dymuno, bod rhaid iddynt ddarparu ar gyfer yr amgylchiadau lle mae’n rhaid a lle y gall y sawl sy’n darparu gwasanaethau o dan gytundeb PMS dderbyn unigolyn fel claf, y gallant wrthod derbyn unigolyn fel claf, a therfynu ei gyfrifoldeb am glaf, ac mae’n rhaid iddynt ddarparu ar gyfer hawliau cleifion i ddewis gan bwy maent am dderbyn gwasanaethau o dan gytundebu PMS.

Gall rheoliadau Gweinidogion Cymru wneud y canlynol yn benodol hefyd:

  • datgan mai dim ond mewn amgylchiadau neu feysydd penodedig y gellir llunio cytundebau PMS,
  • datgan mai dim ond gwasanaethau penodedig, neu gategorïau o wasanaeth, y gellir eu darparu o dan gytundebau PMS,
  • gosod amodau i’w bodloni gan unigolion sy’n cyflawni gwasanaethau o dan gytundebau PMS,
  • gofyn am gyhoeddi manylion cytundebau PMS,
  • gwneud darpariaeth ar gyfer amrywio a therfynu cytundebau PMS,
  • gwneud darpariaeth i’r partïon gael eu trin fel cyrff y gwasanaeth iechyd mewn amgylchiadau penodol,
  • darparu ar gyfer cyfarwyddiadau ynghylch taliadau i’w gorfodi mewn llys sirol fel pe baent yn ddyfarniadau neu orchmynion y llys hwnnw.

Gall y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol hefyd i daliadau gael eu gwneud o dan gytundebau PMS yn unol â chyfarwyddiadau a roddwyd gan Weinidogion Cymru, efallai mewn rhai amgylchiadau y bydd gofyn i BILl ymrwymo i gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol gydag unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o dan gytundeb PMS ac sy’n gofyn am hynny, a gall gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys anghydfod ynghylch telerau’r cytundeb.

Nid yw Gweinidogion Cymru wedi defnyddio eu pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cytundebau PMS, ac nid oes cytundebau PMS o’r fath yn cael eu gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Cymorth a chefnogaeth – Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a chytundebau PMS

Mae adran 53 o’r NHSWA 2006 yn datgan y gall BILl ddarparu cymorth neu gefnogaeth i unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol neu gytundeb PMS. Mae cymorth yn cynnwys cymorth ariannol.

Pwyllgorau meddygol lleol

Mae adran 54 NHSWA 2006 yn datgan y gall BILl gydnabod pwyllgor a ffurfiwyd ar gyfer ei ardal, ac un sy’n cynnwys un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol eraill, os yw’n fodlon ei fod yn cynrychioli:

  • pob ymarferydd meddygol sydd, o dan Gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn ardal y pwyllgor, a phob ymarferydd meddygol sy’n darparu gwasanaethau offthalmig, a
  • phob ymarferydd meddygol arall sy’n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal ac sydd wedi hysbysu’r BILl eu bod yn dymuno cael eu cynrychioli gan y pwyllgor.

Gelwir y pwyllgor cydnabyddedig yn Bwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer yr ardal y ffurfiwyd ef ar ei gyfer. Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i BILl ymgynghori ag unrhyw bwyllgor a gydnabyddir ganddo ar adegau o’r fath ac i’r graddau y gellir eu pennu, ac mae gan bwyllgor swyddogaethau eraill o’r fath fel y gellir eu pennu gan Weinidogion Cymru.

Mae Rheoliad 27 o Reoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 yn gwneud darpariaeth ar gyfer swyddogaethau Pwyllgorau Meddygol Lleol. Mae’r Rheoliadau yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 54 o NHSWA 2006.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
15 Mehefin 2021