Iechyd a gwasanaethau iechyd
Mae gwasanaethau iechyd wedi’u datganoli bron yn gyfan gwbl yng Nghymru, sy’n golygu mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol yn y pen draw am y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) yng Nghymru. Gweinidogion Cymru sy’n gosod y fframwaith polisi lefel uchel a thargedau ar gyfer y gwasanaeth iechyd, sydd wedyn yn cael eu darparu gan y 7 bwrdd iechyd lleol a 3 ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru.
Mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn eu hardaloedd. Mae’r gwasanaethau iechyd hyn yn cynnwys:
- deintyddol
- optegol
- fferyllol
- iechyd meddwl
Hefyd maen't yn gyfrifol am:
- wella canlyniadau corfforol ac iechyd meddwl
- hyrwyddo llesiant
- lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws eu poblogaethau
- comisiynu gwasanaethau oddi wrth sefydliadau eraill er mwyn bodloni anghenion eu preswylwyr
Mae ymddiriedolaethau’r GIG yn gyfrifol am wasanaethau iechyd y cyhoedd a gwasanaethau ambiwlans, ynghyd â gwasanaethau canser a gwaed.
Hefyd mae nifer o sefydliadau cysylltiedig sy’n cefnogi GIG Cymru.
Mae’r byrddau iechyd lleol yn cael eu cyllido’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gyflawni blaenoriaethau Gweinidogion Cymru ar ran pobl Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd gwahaniaethau cynyddol yn y ffordd y mae’r pedwar gwasanaeth iechyd ledled y DU (yn Lloegr, Cymru, Yr Alban, a Gogledd Iwerddon) wedi’u trefnu ac yn gweithredu o ddydd i ddydd.
Gall Senedd Cymru basio deddfau sy’n ymwneud ag iechyd a’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er enghraifft Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 sy’n golygu o fis Rhagfyr 2015, bydd system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau yng Nghymru, tra bydd gweddill y DU yn cadw system ‘optio i mewn’.
Mae nifer fach o feysydd sy’n ymwneud ag iechyd yn dal i gael eu trin ar lefel y DU. Mae’r rhain yn cynnwys rheoleiddio meddyginiaethau, geneteg, ffrwythloni ac embryoleg.
Mae yna gyfreithiau ar wahân ar gyfer y gwasanaethau canlynol yng Nghymru: