Skip to main content

Ymddiriedolaethau’r GIG

Sefydlu cychwynnol

Sefydlwyd Ymddiriedolaethau’r GIG yn wreiddiol yng Nghymru dan adran 5 o'r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (Deddf 1990). Fel y’i gweithredwyd, roedd adran 5(1) yn pennu y gallai’r Ysgrifennydd Gwladol, drwy is-ddeddfwriaeth, sefydlu Ymddiriedolaethau GIG i gymryd cyfrifoldeb am berchnogaeth a rheolaeth ysbytai neu sefydliadau neu gyfleusterau eraill a oedd yn cael eu rheoli yn flaenorol, mewn perthynas â Chymru, gan Awdurdodau Iechyd Dosbarth neu Arbennig, neu i ddarparu a rheoli ysbytai neu sefydliadau neu gyfleusterau eraill. O’u dechreuad, roedd yr Ymddiriedolaethau GIG yn gyfrifol i bob pwrpas am ddarparu gwasanaethau meddygol, ac, fel y cyfryw, roeddynt yn gyfrifol am gyflogi’r staff meddygol sy’n gweithio yn ysbytai Cymru.

Roedd pob Ymddiriedolaeth GIG i fod yn gorff corfforaethol, gyda bwrdd cyfarwyddwyr a swyddogaethau fel y rhoddwyd iddi gan orchymyn sefydlu a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol a chan Atodlen 2 i Ddeddf 1990. Mae paragraffau 6 a 7 o Atodlen 2 i Ddeddf 1990 yn nodi dyletswyddau cyffredinol a phwerau cyffredinol a phenodol yr Ymddiriedolaethau GIG, ac mae’r gorchmynion sefydlu yn darparu rhagor o fanylion am ddyletswyddau penodol yr Ymddiriedolaethau GIG. Yn nodweddiadol, mae’r gorchmynion sefydlu yn pennu mai eiddo'r Ymddiriedolaeth GIG dan sylw oedd y llety a gwasanaethau ysbyty ar safleoedd ysbytai penodol ac y dylai eu rheoli, yn ogystal â rheoli gwasanaethau iechyd cymunedol a ddarperir o safleoedd penodol.

Gallai’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau hefyd mewn perthynas â bwrdd y cyfarwyddwyr, y dull o’u penodi, nifer y cyfarwyddwyr, hyd cyfnod gwasanaeth ac ati.

Mewn perthynas â Chymru, defnyddiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru'r pŵer adran 5 i sefydlu nifer o Ymddiriedolaethau GIG ac erbyn 1998, roedd 26 o Ymddiriedolaethau GIG yn gweithredu yng Nghymru. Cafodd y rhan fwyaf ohonynt eu diddymu wrth i’r Ysgrifennydd Gwladol/ y Cynulliad Cenedlaethol/ Gweinidogion Cymru ddefnyddio’u pŵer o dan baragraff 29 Atodlen 2 Deddf 1990.

Yn benodol, gwnaed newidiadau sylweddol yn 2009 i nifer a swyddogaethau Ymddiriedolaethau GIG Cymru. Gwnaed y newidiadau o ganlyniad i’r ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu ‘Cymru’n Un’ yn 2007. Cyn y newidiadau, a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2009, roedd gan Ymddiriedolaethau GIG Cymru’r swyddogaeth o ddarparu gwasanaethau meddygol ‘rheng flaen’ yng Nghymru, gyda’r Byrddau Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru yn gweithredu fel cyrff comisiynu i bob pwrpas. Fodd bynnag, cyflwynodd newidiadau 2009 system gofal iechyd integredig yng Nghymru, ac o dan y system honno roedd y Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol i bob pwrpas am gomisiynu gwasanaethau meddygol yn ogystal â darparu gwasanaethau meddygol rheng flaen mewn ysbytai yng Nghymru. Felly newidiodd rôl Ymddiriedolaethau’r GIG yn sylweddol, a diddymwyd y saith Ymddiriedolaeth GIG ‘ranbarthol’, gan ddod i rym o 1 Hydref 2009, gyda’u gweithwyr, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yn trosglwyddo i’r Byrddau Iechyd Lleol newydd.

Diddymwyd adran 5 o Ddeddf 1990 gan y Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 ac ail-ddeddfwyd ei darpariaethau’n sylweddol yn adran 18 y Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Deddf 2006).

O’r 45 Ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd cyn diddymu adran 5, dim ond dau sy’n parhau i fod ar waith, sef Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (a sefydlwyd gan Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993) ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (a sefydlwyd gan Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998). Mae'r gorchmynion sefydlu i'r Ymddiriedolaethau hyn wedi’u diwygio ers hynny gan yr Ysgrifennydd Gwladol, y Cynulliad Cenedlaethol, a/neu y Weinidogion Cymru. Dylid bod yn ofalus wrth ddarllen a defnyddio gorchmynion sefydlu er mwyn sicrhau mai’r fersiynau cywir ydynt.

Mae adran 4 a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 yn darparu bod y gorchmynion sefydlu i'r Ymddiriedolaethau GIG, er iddynt gael eu gwneud yn wreiddiol o dan adran 5 o Ddeddf 1990, yn cael effaith fel petaent wedi’u gwneud o dan y ddarpariaeth gyfatebol yn y Ddeddf 2006. Mae trydedd Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cael ei sefydlu gan arfer pwerau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf 2006.

Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

Mae adrannau 18 i 21 y Ddeddf 2006 yn gwneud darpariaeth ynghylch Ymddiriedolaethau’r GIG. Ymhlith pethau eraill, mae’r adrannau’n ailddeddfu’n sylweddol ddarpariaethau perthnasol y Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990. Mae’r paragraffau isod yn rhoi crynodeb byr o’r darpariaethau sy’n berthnasol i gyfansoddiad a swyddogaethau Ymddiriedolaethau’r GIG.

Cyfansoddiad

Dywed adran 18 o Ddeddf 2006 y caiff Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i sefydlu Ymddiriedolaethau GIG i ddarparu nwyddau a gwasanaethau at ddibenion y gwasanaethau iechyd (Gorchmynion Ymddiriedolaethau GIG). Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 3 i’r Ddeddf hefyd, sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch Ymddiriedolaethau’r GIG. Yn arbennig, mae Atodlen 3 yn darparu bod:

  • paragraffau 1 a 2 – mae Ymddiriedolaethau GIG yn gyrff corfforaethol ac nid ydynt yn weision nac yn asiantau’r Goron. Ni ddylid ystyried eiddo Ymddiriedolaeth GIG yn eiddo i’r Goron;
  • paragraff 3 - mae gan bob Ymddiriedolaeth GIG fwrdd o gyfarwyddwyr sy’n cynnwys cadeirydd a chyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol;
  • paragraff 4 - dywed y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch, ymhlith pethau eraill, y cymwysterau ar gyfer y swydd a hyd y cyfnod y gellir dal swydd y cadeirydd a’r cyfarwyddwyr (yn cynnwys atal neu symud o swydd), penodi, nifer y cyfarwyddwyr, trafodion Ymddiriedolaeth GIG ac unrhyw bwyllgorau Ymddiriedolaeth GIG. Mae Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer hwn i wneud darpariaeth benodol ynglŷn ag aelodaeth, cyfansoddiad a thrafodion Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009) ac ar gyfer sefydlu, swyddogaethau, cyfansoddiad ac aelodaeth Pwyllgor Gwasanaethau a Rennir Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre Pwyll gan gynnwys ei weithdrefnau a’i drefniadau gweinyddol (Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012);
  • paragraff 5 – rhaid i unrhyw orchmynion a wneir o dan adran 18 i sefydlu Ymddiriedolaethau GIG, ymhlith pethau eraill, nodi enw’r Ymddiriedolaeth GIG, ei swyddogaethau, nifer y cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol, a’r dyddiad y gall yr Ymddiriedolaeth GIG ymgymryd â’i swyddogaethau.
  • Mae’r swyddogaethau y gellir eu nodi yn y gorchymyn yn cynnwys dyletswydd i ddarparu nwyddau neu wasanaethau fel y nodir mewn ysbyty neu le arall;
  • paragraff 6 -gall gorchymyn Ymddiriedolaeth GIG ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Iechyd Arbennig neu Fwrdd Iechyd Lleol drefnu bod staff, adeiladau a chyfleusterau eraill ar gael i’r Ymddiriedolaeth GIG hyd nes y trosglwyddir neu y penodir staff i’r Ymddiriedolaeth GIG ac y trosglwyddir eiddo neu gyfleusterau eraill i’r Ymddiriedolaeth GIG (er enghraifft, o dan baragraff 9 isod);
  • paragraff 9 - caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, drosglwyddo, neu ddarparu ar gyfer trosglwyddo, unrhyw eiddo a rhwymedigaethau sydd gan Awdurdod Iechyd Arbennig, Bwrdd Iechyd Lleol neu Weinidogion Cymru i Ymddiriedolaeth GIG;
  • paragraff 10 - caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddarparu ar gyfer penodi ymddiriedolwyr ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG i ddal eiddo ar ymddiriedolaeth;
  • paragraff 11 - rhaid i Ymddiriedolaeth GIG dalu cydnabyddiaeth ac ati i’r cadeirydd ac unrhyw gyfarwyddwr anweithredol yn unol â swm a bennir gan Weinidogion Cymru;
  • paragraff 25 - gall Ymddiriedolaeth GIG gyflogi staff fel yr ystyria’n briodol. Gall Ymddiriedolaeth GIG dalu cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau i’w staff, a’u cyflogi ar delerau ac amodau eraill a ystyria’n briodol. Wrth arfer ei bwerau i benderfynu cyflogau, lwfansau, telerau ac amodau, rhaid i Ymddiriedolaeth GIG weithredu yn unol â rheoliadau ac unrhyw gyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru. Cyn gwneud rheoliadau neu gyfarwyddiadau o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â chyrff sy’n cynrychioli personau sydd, yn eu barn hwy, yn debygol o gael eu heffeithio gan y rheoliadau;
  • paragraff 28 - caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiddymu Ymddiriedolaeth GIG. Gall gorchymyn gael ei wneud ar gais yr Ymddiriedolaeth GIG dan sylw neu os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol er budd y gwasanaeth iechyd. Mae paragraff 29 yn darparu, os yw Ymddiriedolaeth GIG yn cael ei diddymu, y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, drosglwyddo, neu ddarparu ar gyfer trosglwyddo, iddynt hwy eu hunain neu unrhyw gorff GIG, unrhyw eiddo a rhwymedigaethau sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

Swyddogaethau

Mae adrannau 19 a 20 o Ddeddf 2006 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Ymddiriedolaethau’r GIG. Dywed adran 19 y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i Ymddiriedolaeth GIG am arfer unrhyw rai o’i swyddogaethau. Dywed adran 20 bod rhaid i Ymddiriedolaeth GIG arfer ei swyddogaethau yn effeithiol, yn effeithlon ac yn ddarbodus. Dywed paragraff 5 bod yn rhaid i orchymyn sefydlu Ymddiriedolaeth GIG bennu ei swyddogaethau.

Mae Atodlen 3 i Ddeddf 2006 yn gwneud darpariaeth sy’n berthnasol i swyddogaethau Ymddiriedolaethau’r GIG hefyd. Dywed paragraff 14 y gall Ymddiriedolaeth GIG wneud unrhyw beth sy’n ymddangos yn angenrheidiol neu’n hwylus iddo er mwyn cyflawni neu mewn cysylltiad â’i swyddogaethau, a gall, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, gaffael a gwaredu eiddo, llunio cytundebau ac yn derbyn rhoddion o eiddo. Dywed paragraff 16 y gall Ymddiriedolaethau’r GIG gynnal, comisiynu neu gynorthwyo i gynnal ymchwil. Dywed paragraff 18 y gall Ymddiriedolaeth GIG wneud trefniadau ar gyfer cyflawni unrhyw un o’i swyddogaethau ar y cyd ag unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig, Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG arall, neu unrhyw gorff neu unigolyn arall. O dan baragraff 19 mae gan Ymddiriedolaethau’r GIG bŵer, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i’w gwneud yn ofynnol i gleifion dalu am eu llety mewn ysbyty.

Mae adran 21 o Ddeddf 2006 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyllid Ymddiriedolaeth GIG. Ceir mwy o fanylion am hyn yma.

Ymddiriedolaethau’r GIG sy’n weithredol ar hyn o bryd yng Nghymru

Mae tair Ymddiriedolaeth GIG yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd, sef:

  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (a sefydlwyd gan Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993);
  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (a sefydlwyd gan Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998);
  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (a sefydlwyd gan Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009).

Mae’r gorchmynion sefydlu ar gyfer yr Ymddiriedolaethau GIG hyn wedi cael eu diwygio ers hynny gan Orchmynion pellach a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol, y Cynulliad Cenedlaethol a/neu y Weinidogion Cymru. Felly dylid bod yn ofalus i sicrhau yr ymgynghorir â’r gorchmynion, fel y’u diwygiwyd, am fanylion llawn aelodaeth a swyddogaethau Ymddiriedolaethau’r GIG. Mae crynodeb bras o’r aelodaeth a’r prif swyddogaethau isod.

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Mae Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn cynnwys cadeirydd, chwe chyfarwyddwr anweithredol a phum cyfarwyddwr gweithredol. Mae’r cyfarwyddwyr anweithredol ar y Bwrdd yn cael eu penodi i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn cyflawni’r swyddogaethau canlynol:

  • mae’n berchen ar Ysbyty Felindre ac ysbytai ac adeiladau cysylltiedig ac yn eu rheoli, ac yno i ddarparu a rheoli llety a gwasanaethau ysbyty;
  • mae’n berchen ar Bencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru a safleoedd cysylltiedig ac yn eu rheoli, ac yn darparu ac yn rheoli gwasanaethau sy’n ymwneud â chasglu, sgrinio a phrosesu gwaed a’i gyfansoddion ac i baratoi a chyflenwi gwaed, plasma a chynhyrchion gwaed eraill;
  • mae’n rheoli ac yn darparu systemau technoleg gwybodaeth amrywiol a systemau cymorth cysylltiedig a gwasanaethau ymgynghori, gwasanaethau bwrdd gwaith, datblygu gwefannau, gwasanaethau telathrebu, gwasanaethau gwybodaeth gofal iechyd a gwasanaethau sy’n ymwneud â rhagnodi a dosbarthu;
  • mae’n rheoli ac yn darparu cydwasanaethau i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru; ac
  • mae’n prydlesu neu’n berchen ar yr eiddo sy’n gysylltiedig â darparu cydwasanaethau.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn ‘lletya’ nifer o sefydliadau allanol hefyd. Mae statws ‘lletya’ yn golygu bod gan y sefydliadau eu ‘Bwrdd’ eu hunain lle mae trafodaethau mwy manwl yn cael eu cynnal, neu lle mae yna nawdd uniongyrchol gan gorff statudol arall er enghraifft, Llywodraeth Cymru. Yn sgil y trefniadau ychwanegol hyn mae’r sefydliad y tu allan i drefniadau rheoli arferol Ymddiriedolaeth. Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn lletya’r sefydliadau canlynol:

  • Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol ar gyfer Canser;
  • Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru;
  • Canolfan Genedlaethol Cydweithredu dros Ganser;
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG; a
  • Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Canolfan Ymchwil Clinigol.

Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnwys cadeirydd, saith cyfarwyddwr anweithredol a phum cyfarwyddwr gweithredol.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu dau fath o wasanaeth - gofal heb ei drefnu a gwasanaethau gofal cleifion a gynlluniwyd, a gwasanaethau cynghori ar y we dros y ffôn drwy ei Wasanaeth Galw Iechyd Cymru.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni’r swyddogaethau canlynol:

  • mae’n rheoli gwasanaethau ambiwlans a gwasanaethau trafnidiaeth cysylltiedig;
  • mae’n rheoli gwasanaethau eraill (gan gynnwys cyfathrebu a hyfforddiant) sy’n ymwneud â darparu gofal y gellir yn rhesymol ei gyflawni ar y cyd â rheoli gwasanaethau ambiwlans a gwasanaethau trafnidiaeth cysylltiedig o’r Pencadlys Ambiwlans;
  • mae’n berchen yr eiddo sy’n gysylltiedig â darpariaeth y gwasanaeth ambiwlans a gwasanaethau trafnidiaeth cysylltiedig; ac
  • mae’n cyflawni swyddogaethau’r Pwynt Cyswllt Cenedlaethol yng Nghymru at ddibenion Cyfarwyddeb 2011/24/EU (ar Ofal Trawsffiniol)

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Bwrdd Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys cadeirydd, chwe chyfarwyddwr anweithredol a phum cyfarwyddwr gweithredol. Mae’r Bwrdd yn gweithredu fel corff gwneud penderfyniadau corfforaethol, gyda’r cyfarwyddwyr anweithredol a gweithredol yn aelodau llawn a chyfartal, gan rannu cyfrifoldeb corfforaethol dros y penderfyniadau y mae’n eu gwneud.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflawni’r swyddogaethau canlynol:

  • mae’n darparu ac yn rheoli amrywiaeth o wasanaethau iechyd cyhoeddus, diogelu iechyd, gwella gofal iechyd, ymgynghori ar iechyd, amddiffyn plant a labordai microbiolegol a gwasanaethau’n ymwneud â goruchwylio, atal a rheoli clefydau trosglwyddadwy;
  • mae’n datblygu ac yn cynnal trefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru; yn ymgymryd â chomisiynau ymchwil i faterion o’r fath ac yn cyfrannu at ddarparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o’r fath;
  • mae’n ymgymryd â chasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth am iechyd pobl Cymru mewn ffordd systematig, gan gynnwys yn enwedig achosion o ganser, nifer y marwolaethau a’r nifer sy’n goroesi, a nifer yr achosion o anomaleddau cynhenid; ac
  • mae’n eu darparu, rheoli, monitro, gwerthuso ac yn cynnal gwaith ymchwil i sgrinio cyflyrau iechyd a sgrinio materion yn ymwneud ag iechyd.

Swyddogaethau perthnasol eraill Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) yn sefydlu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer trawsnewid y ffordd y caiff anghenion pobl am ofal a chymorth ac anghenion gofalwyr am gymorth eu diwallu. Mae'r Deddf 2014 yn gosod dyletswyddau cyffredinol a strategol ar awdurdodau lleol a BILlau i gael gwell dealltwriaeth o nodweddion ac anghenion eu poblogaethau lleol, er mwyn cynllunio a darparu ystod a lefel ddigonol o wasanaethau gofal a chymorth yn effeithiol.

Mae adran 14 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a BILlau asesu ar y cyd i ba raddau y mae pobl sydd angen gofal a chymorth, neu ofalwyr y mae angen cymorth arnynt yn eu hardal. Dylent hefyd asesu i ba raddau nad yw'r anghenion hyn yn cael eu diwallu, ac ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion a nodwyd.

Mae adran 14 hefyd yn ceisio sicrhau bod yr asesiad poblogaeth hwn yn cael ei ystyried fel rhan o fframweithiau cynllunio integredig ehangach, er enghraifft, o fewn Cynlluniau Llesiant Lleol (sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Chynlluniau Tymor Canolig Integredig y GIG sy'n ofynnol o dan adran 175 o'r Ddeddf 2006). Rhaid i awdurdodau lleol a BILlau lunio a chyhoeddi adroddiad ar y cyd ar ganlyniad eu hasesiadau poblogaeth.

Mae adran 14A yn ei gwneud yn ofynnol i BILlau ac awdurdodau lleol lunio cynllun ardal yn seiliedig ar ganlyniadau'r asesiad o anghenion y boblogaeth.

Mae adran 17(5) yn ei gwneud yn ofynnol i BILlau ac ymddiriedolaeth GIG roi gwybodaeth i'r awdurdod lleol am y gofal a'r cymorth y mae'n eu darparu yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol.

Mae adrannau 128 a 130 yn ei gwneud yn ofynnol i BILlau ac Ymddiriedolaethau'r GIG hysbysu awdurdodau lleol os oes ganddynt achos rhesymol dros amau bod oedolyn neu blentyn yn ei ardal mewn perygl. Mae adran 134 yn darparu ar gyfer sefydlu Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion y mae'n ofynnol i BILlau ac Ymddiriedolaethau GIG perthnasol ddarparu cynrychiolaeth ynddynt.

Mae Rhan 9 o'r Ddeddf 2014 (adrannau 162 i 169) yn ymwneud â chydweithredu a phartneriaeth, ac yn rhoi sawl pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau.  Mae rheoliadau'n darparu ar gyfer sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar lefel ardal BILl, sy'n dwyn ynghyd bob BILl, gwasanaethau cymdeithasol, trydydd sector a phartneriaid eraill. Rhaid i'r byrddau hyn asesu, cynllunio a darparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol ar y cyd. Eu diben yw gwella canlyniadau a lles pobl ag anghenion gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'n gosod diben cyffredin – y saith nod llesiant – ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus penodedig eraill. Mae'n manylu ar y ffyrdd y mae'n rhaid i'r cyrff cyhoeddus hyn weithio, a chydweithio, i wella llesiant Cymru.

Mae Adran 3 o'r Ddeddf yn gosod dyletswyddau penodol ar gyrff cyhoeddus (gan gynnwys BILlau ac Ymddiriedolaethau'r GIG) i weithredu yn unol â'r "Egwyddor Datblygu Cynaliadwy", gan sicrhau bod penderfyniadau'n dangos sut y maent wedi defnyddio dulliau hirdymor, ataliol, integredig a chydweithredol sy'n cynnwys pobl sy'n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth.

Yn ogystal, mae adran 13(1) ac Atodlen 1 paragraff 2(1) yn ei gwneud yn ofynnol i BILlau neu ymddiriedolaethau GIG gyhoeddi, mewn perthynas â phob blwyddyn gyfrifyddu, adroddiad ar y cynnydd y mae wedi'i wneud o ran cyflawni ei amcanion llesiant.

Mae adran 29 hefyd yn gosod dyletswydd ychwanegol ar gyrff cyhoeddus penodedig, gan gynnwys byrddau iechyd, i weithredu ar y cyd drwy fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i wella llesiant eu hardal drwy gyfrannu at gyflawni'r nodau llesiant.

Mae adran 30(3) yn ei gwneud yn ofynnol i asesiad llesiant y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ystyried yr asesiad a gynhelir gan BILlau ac Ymddiriedolaethau'r GIG o dan eu dyletswyddau a nodir yn adran 14 o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
24 Mehefin 2021