Skip to main content

Darpariaethau codi tâl yn y GIG yng Nghymru

Mae adran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru 2006 (NHSWA 2006) yn dweud bod rhaid i Weinidogion Cymru barhau i hyrwyddo gwasanaeth iechyd cynhwysfawr yng Nghymru gyda’r nod o sicrhau gwelliant yn iechyd corfforol a meddyliol pobl Cymru, ac er mwyn atal, gwneud diagnosis a thrin salwch. Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu neu sicrhau darpariaeth gwasanaethau yn unol â darpariaethau NHSWA 2006.

Mae adran 1(3) yn dweud bod rhaid darparu’r gwasanaethau hynny’n ddi-dâl ac eithrio mewn achosion lle mae darpariaeth benodol ar gyfer codi ac adennill ffioedd wedi’i gwneud gan neu dan ddeddfiad, pryd bynnag y’i pasiwyd.

Mae Rhan 9 o NHSWA 2006 yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud â phwerau codi ffioedd.

Codi tâl am gyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar, neu wasanaethau fferyllol

Mae adran 121 o NHSWA 2006 yn dweud y gall Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ar gyfer codi ac adennill ffioedd am gyflenwi cyffuriau, meddyginiaethau neu offer o dan NHSWA 2006, gan gynnwys newid a thrwsio’r cyfarpar hwnnw, ac unrhyw wasanaethau fferyllol y gellir a ragnodir. Gall y rheoliadau wneud darpariaethau yn benodol ynghylch cyflenwi sylweddau a chyfarpar atal cenhedlu. Ni all y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n gysylltiedig â darparu unrhyw wasanaeth deintyddol (gwneir darpariaeth benodol ynglŷn â hyn gan adran 125).

Dywed adran 122 na ellir codi ffi dan reoliadau adran 121 mewn perthynas â’r canlynol:

  • cyflenwi unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu offer ar gyfer claf sy'n preswylio mewn ysbyty,
  • cyflenwi unrhyw gyffur neu feddyginiaeth ar gyfer trin clefyd a drosglwyddir yn rhywiol (ac eithrio wrth ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol),
  • cyflenwi unrhyw gyfarpar i unigolyn dan 16 mlwydd oed neu os yw o dan 19 oed ac mewn addysg llawn amser gymwys, neu
  • newid neu drwsio unrhyw offer o ganlyniad i ddiffyg yn y peiriant fel y'i darparwyd.

Dywed adran 123 y gall y rheoliadau ddarparu ar gyfer rhoi tystysgrif ragdalu wrth dalu unrhyw symiau a bennir. Mae tystysgrif ragdalu yn caniatáu i unigolyn gael ei eithrio rhag talu ffioedd a fyddai’n daladwy fel arall o dan y rheoliadau mewn perthynas â chyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar a gyflenwir yn ystod y cyfnod a bennir.

Dywed adran 136 (2) y gall rheoliadau a wnaed dan adran 121 ddarparu ar gyfer gostwng symiau y byddai Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) (neu Awdurdod Iechyd Arbennig) yn eu talu i'r darparwyr gwasanaeth, yn unol â swm y taliadau a awdurdodwyd gan y rheoliadau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny.

Mae Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007) yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud yn rhannol dan adran 121 o NHSWA 2006. Mae'r rheoliadau yn dweud na chodir unrhyw dâl mewn perthynas â chyffuriau a chyfarpar a gyflenwir i gleifion sydd wedi'u cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru, neu wedi'u cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr ond sydd â chardiau hawl dilys, lle mae cyffuriau a chyfarpar o'r fath yn cael eu cyflenwi gan fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol (rheoliad 3), gan feddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol (rheoliad 4), gan Fyrddau Iechyd Lleol (rheoliad 5) a chan ragnodwyr (gan gynnwys rhai annibynnol) mewn canolfannau galw heibio (rheoliad 6). Ehangodd Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Parafeddyg-Ragnodydd Annibynnol a Pharafeddyg-Ragnodydd Atodol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 y diffiniad o ragnodwyr i ragnodwyr annibynnol parafeddygol.

Taliadau a godir mewn perthynas â phobl nad ydynt yn breswylwyr

Yn ôl adran 124, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd mewn perthynas â'r gwasanaethau a ddarperir o dan NHSWA 2006 i bobl nad ydynt arfer yn preswylio ym Mhrydain fel arfer. Caiff rheoliadau ddarparu mai dim ond mewn achosion a benderfynir yn unol â'r rheoliadau y gellir codi tâl.

Mae'r Rheoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 yn cael yr un effaith yng Nghymru â phetaent wedi'u gwneud dan adran 124 o NHSWA 2006.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
15 Mehefin 2021