Skip to main content

Codi tâl am offer optegol

Mae adran 128 o'r Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn dweud y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ar gyfer codi ac adennill ffioedd am gyflenwi teclynnau optegol o dan NHSWA 2006. Gall cyfraddau’r taliadau gael eu pennu yn y rheoliadau neu gan neu yn unol â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru. Gall rheoliadau neu gyfarwyddiadau amrywio'r swm neu uchafswm y taliadau, neu ddweud nad oes angen talu’r ffioedd.

Dywed adran 136(2) y caiff rheoliadau a wnaed o dan adran 128 ddarparu ar gyfer gostwng symiau a fyddai fel arall yn daladwy gan Fwrdd Iechyd Lleol (neu Awdurdod Iechyd Arbennig) i'r darparwyr gwasanaeth yn unol â swm y taliadau a awdurdodwyd gan y rheoliadau mewn perthynas â’r gwasanaethau hynny.

Dan adran 129, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu, drwy reoliadau, bod taliadau’n cael eu gwneud iddyn nhw neu Fwrdd Iechyd Lleol (neu Awdurdod Iechyd Arbennig) er mwyn talu, neu gyfrannu at, gost teclynnau optegol y mae presgripsiwn wedi’i roi ar ei gyfer o dan NHSWA 2006 ar gyfer profi llygaid plentyn (o dan 16 oed neu o dan 19 ac mewn addysg llawn amser), person heb adnoddau digonol, neu berson penodedig arall.

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau:

  • darparu eu bod nhw neu Fwrdd Iechyd Lleol (neu Awdurdod Iechyd Arbennig) yn cyfrannu at gost prawf golwg y maen nhw neu gorff penodedig yn derbyn bod person y mae ei adnoddau yn fwy na’i ofynion wedi talu amdano ond dim ond gan swm a gyfrifwyd o dan y rheoliadau,
  • darparu i daliadau gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru neu BILl (neu Awdurdod Iechyd Arbennig) er mwyn talu, neu gyfrannu at, unrhyw gost y maent yn derbyn a dalwyd am gyfnewid neu drwsio teclynnau optegol a roddwyd dan bresgripsiwn yn sgil cynnal prawf golwg ar blentyn (o dan 16 oed neu o dan 19 ac mewn addysg llawn amser), person heb ddigon o adnoddau, neu berson penodedig arall.

Os yw'r rheoliadau’n darparu bod rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Fwrdd Iechyd Arbennig wneud taliadau, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm penodol a nodir dan y rheoliadau i'r Bwrdd Iechyd Lleol neu’r Bwrdd Iechyd Arbennig, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol.

Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 yn cael yr un effaith yng Nghymru â phetaent wedi'u gwneud o dan adrannau 128 a 129 o NHSWA 2006.

Yn olaf, mae adran 141 (1) o NHSWA 2006 yn dweud y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i gyflwyno hysbysiad cosb ar rywun sy’n methu â thalu unrhyw swm y gellir ei adennill oddi wrtho am ddarparu gwasanaethau. Mae gweddill adran 141 yn rhoi rhagor o fanylion am y rheoliadau y caiff Gweinidogion Cymru eu gwneud mewn perthynas â'r weithdrefn i'w dilyn ar ôl cyflwyno’r hysbysiad cosb.

Mae Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Tâl Cosb) (Cymru) 2001 yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 141 NHSWA 2006. Maent yn berthnasol i daliadau am wasanaethau offthalmig ac yn darparu ar gyfer cyflwyno cosb sifil lle mae person yn methu â thalu ffi GIG, a hynny ar gam.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021