Darpariaethau eraill sy'n berthnasol i bwerau codi tâl
Dan adran 131 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru 2006 (NHSWA 2006), caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu bod Gweinidogion Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG yn talu costau teithio a ysgwyddir dan amgylchiadau penodol gan berson sy’n cael gwasanaethau a ddarperir o dan NHSWA 2006 neu unrhyw wasanaethau a ddarperir yn unrhyw wladwriaeth arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd mewn perthynas â chostau y gellir eu had-dalu.
Gall y rheoliadau hefyd ddarparu ar gyfer ad-dalu treuliau teithio gan Fwrdd Iechyd Lleol i Ymddiriedolaeth GIG ac, mewn achosion penodedig, i Fwrdd Iechyd Lleol arall, ac ar gyfer ad-dalu taliadau gan Fwrdd Iechyd Lleol i Ymddiriedolaeth GIG neu sefydliad GIG, a wneir yn rhinwedd adran 183(a) y Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru 2006.
Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 131 NHSWA 2006.
Dan adran 133 o NHSWA 2006, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd gan Weinidogion Cymru neu Ymddiriedolaeth GIG:
- mewn perthynas â chyflenwi unrhyw gyfarpar neu gerbyd sydd, ar gais y person a gyflenwir, yn ddrutach na’r math penodedig, neu
- o ran trwsio ac ailosod unrhyw gyfarpar o'r fath, neu gyfnewid unrhyw gerbyd o'r fath, neu gymryd unrhyw gamau o'r fath sy’n gysylltiedig â'r cerbyd a nodir ym mharagraff 10(2) o Atodlen 1 NHSWA 2006.
Dan adran 134 o NHSWA 2006, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd penodedig gan Weinidogion Cymru neu Ymddiriedolaeth GIG mewn perthynas â gwaith trwsio unrhyw offer neu gerbyd:
- lle’r oedd angen gwneud gwaith trwsio neu gyfnewid angenrheidiol oherwydd gweithred neu hepgoriad gan y person a gyflenwyd, neu
- mewn achos lle'r oedd y sawl a gyflenwyd o dan 16 oed, bod y gwaith trwsio neu gyfnewid yn angenrheidiol oherwydd gweithred neu hepgoriad, a ddigwyddodd tra’r oedd y person hwnnw o dan yr oedran hwnnw, gan y sawl oedd yn gyfrifol amdano neu amdani.
Mae’r Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyfarpar) 1974 yn cael yr un effaith mewn perthynas â Chymru â phetaent wedi'u gwneud yn rhannol o dan adran 133 a 134 o NHSWA 2006.
Dan adran 135 o NHSWA 2006, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd mewn perthynas â gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer gofalu am ferched beichiog, menywod sy'n bwydo ar y fron a phlant ifanc, ac ar gyfer atal salwch, gofalu am bobl sy’n dioddef o salwch ac ôl-ofal i bobl a fu’n dioddef o salwch.
Mae’r Rheoliadau Gwerthu Nwyddau i Famau a Phlant (Dynodi a Chodi Tâl) 1976 yn cael yr un effaith mewn perthynas â Chymru â phetaent wedi'u gwneud o dan adran 135 o NHSWA 2006.
Dan adran 137 o NHSWA 2006, caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi i lety fod ar gael i gleifion i'r graddau a bennir ganddynt, a gallant adennill taliadau fel a bennir ganddynt mewn perthynas â llety o'r fath a’u cyfrifo ar unrhyw sail y maent yn ei hystyried i fod y sail fasnachol briodol.
At ddibenion adran 137, mae 'llety' yn golygu llety mewn ystafelloedd sengl neu wardiau bach nad oes eu hangen ar unrhyw glaf ar sail feddygol, a llety mewn unrhyw ysbyty gwasanaeth iechyd, neu ysbyty lle caiff cleifion eu trin yn rhinwedd trefniadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, neu yn ysbytai’r gwasanaeth iechyd mewn ardal benodol neu ysbyty y mae cleifion yn cael eu trin felly.
Dan adran 138 o NHSWA 2006, gall Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n glaf preswyl mewn gwasanaethau a ddarperir gan Weinidogion Cymru o dan NHSWA 2006, ac sy'n absennol o'r ysbyty hwnnw yn ystod y dydd er mwyn mynd i weithio, i dalu rhan o gostau cynhaliaeth yn yr ysbyty ac unrhyw gostau cysylltiedig sy’n ymddangos yn rhesymol i Weinidogion Cymru, ar ôl ystyried cyflog yr unigolyn dan sylw.
Mae adran 139 yn dweud y gellir casglu’r holl daliadau y gellir eu hadennill o dan NHSWA 2006 gan Weinidogion Cymru, awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, neu unrhyw gorff a sefydlwyd o dan y Ddeddf, fel dyled sifil ar fyrder.
Mae adran 140 yn ymwneud â thriniaeth ac offer deintyddol, cyffuriau a meddyginiaethau, profion golwg, cyfarpar optegol, ac unrhyw offer arall a ddarperir yn unol â NHSWA 2006. Mae'r adran hon yn dweud os bydd unrhyw dâl sy'n daladwy gan unrhyw berson yn cael ei ostwng ac ati, ond nad yw’r person hwnnw’n gymwys i gael y gostyngiad, bod modd adennill y swm ar fyrder.