Skip to main content

Codi tâl deintyddol

Mae adran 125 o'r Ddeddf Gwasanath Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn dweud y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am 'wasanaethau deintyddol perthnasol'. Mae 'gwasanaethau deintyddol perthnasol' yn golygu gwasanaethau deintyddol a ddarperir yn uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd Lleol, o dan gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol neu dan gontract Gwasanaethau Deintyddol Personol, a chyflenwi dannedd gosod ac offer deintyddol arall o dan NHSWA 2006.

Gall y rheoliadau yn arbennig gynnwys darpariaeth:

  • sy’n nodi'r swm, neu uchafswm, unrhyw swm a godir,
  • ar gyfer cyfrifo swm unrhyw swm a godir,
  • ar gyfer amrywio'r swm, neu uchafswm, unrhyw swm a godir mewn achosion a ddisgrifir yn benodol,
  • i unrhyw swm a godir beidio â bod yn daladwy mewn achosion penodol,
  • ar gyfer pŵer i gyfarwyddo nad yw tâl yn daladwy mewn achos penodol,
  • ar gyfer ad-dalu unrhyw dâl.

Caiff rheoliadau dan adran 125(1) ddarparu ar gyfer gostwng symiau a fyddai fel arall yn daladwy gan Fwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig i bersonau sy'n darparu gwasanaethau deintyddol perthnasol, yn unol â swm y taliadau a awdurdodwyd gan y rheoliadau.

Mae adran 126 yn darparu na ellir codi tâl o dan reoliadau a wnaed dan adran 125 am wasanaeth deintyddol a ddarperir ar gyfer unrhyw berson a oedd ar y pryd:

  • o dan 18 oed,
  • o dan 19 oed ac yn derbyn addysg llawn amser gymwys,
  • yn feichiog, neu
  • wedi rhoi genedigaeth i blentyn o fewn y 12 mis blaenorol.

Dywed adran 126 ymhellach na ellir codi tâl dan reoliadau a wnaed dan adran 125 am drwsio neu ailosod unrhyw gyfarpar a roddwyd i glaf sy’n breswylydd mewn ysbyty, neu mewn perthynas ag atal gwaedu.

Mae'r Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud dan adran 125 o NHSWA 2006. Mae'r rheoliadau’n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am ddarparu triniaeth ddeintyddol a chyflenwi offer deintyddol o dan NHSWA 2006. Maent yn darparu ar gyfer codi tâl am:

  • darparu triniaeth ddeintyddol, gan gynnwys triniaeth frys a thriniaeth orthodontig, a chyflenwi offer deintyddol ac orthodontig gan ddarparwr gwasanaethau deintyddol sylfaenol,
  • cyflenwi offer deintyddol o dan NHSWA 2006 gan rywun heblaw darparwr gwasanaethau deintyddol sylfaenol perthnasol,
  • cyfnewid, fel rhan o wasanaethau deintyddol sylfaenol perthnasol, cyfarpar deintyddol neu orthodontig a gollwyd neu a ddifrodwyd gan weithred neu anwaith gan y claf.

Mae Rheoliad 3(2) yn nodi nifer o amgylchiadau lle na ellir codi tâl am ddarparu gwasanaethau deintyddol o dan NHSWA 2006. Mae Rheoliad 4 yn nodi'r taliadau perthnasol a'r system ar gyfer cyfrifo’r taliadau hynny. Mae rheoliad 5 yn dweud mai dim ond un tâl y gellir ei godi a’i adennill hyd yn oed os caiff ei ddarparu gan fwy nag un darparwr. Mae rheoliad 8 yn darparu gweithdrefnau ar gyfer codi ac adennill taliadau sy'n ddyledus o dan y rheoliadau. Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer gostwng ad-daliad darparwr gwasanaethau deintyddol sylfaenol yn unol â swm y taliadau sy'n daladwy o dan y rheoliadau.

Yn olaf, mae adran 141 (1) NHSWA 2006 yn dweud y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i gyflwyno hysbysiad cosb i berson sy’n methu â thalu unrhyw swm y gellir ei adennill ganddo am wasanaethau a ddarperir o dan NHSWA 2006. Mae gweddill adran 141 yn rhoi rhagor o fanylion am y rheoliadau y caiff Gweinidogion Cymru eu gwneud mewn perthynas â'r weithdrefn i'w dilyn ar ôl cyflwyno’r hysbysiad cosb.

Mae'r Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Tâl Cosb) (Cymru) 2001 yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 141 NHSWA 2006. Maent yn berthnasol i daliadau am wasanaethau deintyddol ac yn darparu ar gyfer cyflwyno cosb sifil pan fydd person yn methu talu ffi’r GIG, a hynny ar gam.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
15 Mehefin 2021