Byrddau Iechyd Arbennig
Sefydlu
Rhoddodd adran 11 o'r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 y pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol sefydlu Awdurdodau Iechyd Arbennig (SHAs) at ddibenion cyflawni unrhyw swyddogaethau y cawsant eu cyfeirio i’w perfformio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ar ran yr awdurdod iechyd perthnasol. Darparodd adran 11 ymhellach y gallai gorchymyn sefydlu SHA gynnwys darpariaeth ynghylch aelodaeth, trosglwyddo swyddogion, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i’r SHA, yn ogystal â’r enw yr oedd yr SHA i’w ddefnyddio. Gwnaeth Rhan 3 Atodlen 5 i'r Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ddarpariaeth bellach ynghylch aelodaeth a swyddogaethau’r SHAs.
Diddymwyd adran 11 o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 gan y Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 ac ail-ddeddfwyd ei darpariaethau’n sylweddol yn adran 22 o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Cyn ei diddymu, defnyddiwyd y pŵer adran 11 i sefydlu nifer o SHAs i weithredu ar sail Cymru a Lloegr, a sawl Awdurdod Iechyd Strategol ar gyfer Cymru’n unig. Mae pob un o’r SHAs ar gyfer Cymru wedi’u diddymu ers hynny.
O’r Awdurdodau Iechyd Arbennig ar gyfer Cymru a Lloegr a sefydlwyd o dan adran 11, mae dau yn parhau’n weithredol:
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (a sefydlwyd gan Gorchymyn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (The NHS Business Services Authority) (Sefydliad a Chyfansoddiad) 2005); a
- Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG (a sefydlwyd gan Gorchymyn Cyfarwyddiadau Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG (Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG) (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2005).
Mae’r gorchymyn sefydlu ar gyfer Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG wedi’i ddiwygio ers hynny gan orchymyn pellach a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru. Gofal piau hi wrth ddarllen y gorchymyn sefydlu i sicrhau mai’r fersiwn ddiwygiedig ydyw.
Dywed adran 4 a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 y Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 bod y ddau orchymyn sefydlu, er iddynt gael eu gwnaed yn wreiddiol o dan adran 11 y Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, yn cael yr un effaith â phe baent wedi’u gwneud o dan y ddarpariaeth gyfatebol yn y Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
Mae adrannau 22 i 25 o'r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn gwneud darpariaeth ynghylch SHAs. Ymhlith pethau eraill, mae’r adrannau’n ailddeddfu’n sylweddol ddarpariaethau adran 11 o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae crynodeb byr o’r darpariaethau sy’n berthnasol i gyfansoddiad a swyddogaethau SHAs yng Nghymru yn dilyn. Yn wahanol i’r sefyllfa gyda Byrddau Iechyd Lleol, darperir ar gyfer SHAs yn Lloegr hefyd o dan y Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006.
Cyfansoddiad
Dywed adran 22 o NHSWA 2006 y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, sefydlu Awdurdodau Iechyd Arbennig er mwyn arfer unrhyw swyddogaethau y gellir eu rhoi iddynt gan neu o dan y Ddeddf. Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth arall yn ymwneud ag SHA fel yr ystyriant yn briodol, a gall unrhyw orchymyn y maent yn ei wneud, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch aelodaeth y SHA, trosglwyddo swyddogion, eiddo a rhwymedigaethau i’r SHA, ac enw’r SHA.
Mae adran 22 yn cyflwyno Atodlen 5 i’r Ddeddf hefyd, sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch SHAs. Yn benodol, mae Atodlen 5 yn darparu:
- paragraff 1 – mae SHA yn gorff corfforaethol;
- paragraff 2 - caiff Gweinidogion Cymru dalu i’r Cadeirydd ac unrhyw aelod o SHA unrhyw gydnabyddiaeth ariannol a bennir gan Weinidogion Cymru;
- paragraff 3 - caiff SHA gyflogi unrhyw staff y credant sy’n briodol a gallant dalu cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau i’w staff a’u cyflogi ar delerau ac amodau eraill fel y maent yn eu hystyried yn briodol. Wrth arfer y pwerau hyn, mae’n rhaid i SHA weithredu yn unol ag unrhyw reoliadau a chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru. Cyn gwneud rheoliadau neu gyfarwyddiadau o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â chyrff sy’n cynrychioli personau sydd, yn eu barn hwy, yn debygol o gael eu heffeithio gan y rheoliadau;
- paragraff 8 – caiff SHA dderbyn rhoddion o eiddo;
- paragraff 9 - caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddarparu ar gyfer penodi ymddiriedolwyr ar gyfer SHA i ddal eiddo ar ymddiriedolaeth;
- paragraff 11 – mae gan SHA y pŵer, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i’w gwneud yn ofynnol i gleifion dalu am eu llety ysbyty.
Swyddogaethau
Mae adrannau 23 i 25 o NHSWA 2006 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau SHA. Dywed adran 23 y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i SHA ynghylch arfer ei swyddogaethau. Dywed adran 24 y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo SHA i arfer unrhyw un o swyddogaethau Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd, gan gynnwys swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a chartrefi gofal. Dywed adran 31(2) o NHSWA 2006 bod yn rhaid i unrhyw gyfarwyddiadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 24 beidio atal Gweinidogion Cymru rhag gallu arfer y swyddogaeth a gyfarwyddir eu hunain.
Dywed adran 25 y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau fel bod unrhyw un o swyddogaethau SHA a gyfarwyddir o dan adran 24 yn cael eu harfer gan SHA arall neu ar y cyd ag un SHA arall neu fwy , neu i’r swyddogaethau a gyfarwyddir gael eu harfer gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog yr SHA.
Awdurdodau Iechyd Strategol sy’n weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd
Mae dau SHAs yn gweithredu ar sail Cymru a Lloegr ar hyn o bryd ac fe'u sefydlwyd drwy orchmynion a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Y SHAs hynny yw:
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (a sefydlwyd gan Gorchymyn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (The NHS Business Services Authority) (Sefydliad a Chyfansoddiad) 2005); a
- Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG (a sefydlwyd gan Gorchymyn Cyfarwyddiadau Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG (Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG) (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2005).
Yn ogystal, sefydlodd Gweinidogion Cymru, gan arfer eu pŵer o dan adran 22 o NHSWA 2006, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) (a sefydlwyd gan Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017).
Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
Mae Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yn cynnwys cadeirydd, a dim llai na dau a dim mwy na phum aelod ychwanegol nad ydynt yn swyddogion Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, a dim mwy na chwe aelod sydd yn swyddogion Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG. Yn amodol ar gyfarwyddiadau a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol a/neu Weinidogion Cymru, mae’n rhaid i Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG gyflawni swyddogaethau mewn cysylltiad â materion gan gynnwys gweinyddu cynlluniau sy’n ymwneud â thaliadau a godir gan y GIG, asesiad o berfformiad deintyddion sy’n darparu gwasanaethau o dan gytundebau gwasanaethau deintyddol cyffredinol neu bersonol, coladu gwybodaeth am wasanaethau deintyddol sylfaenol a gwasanaethau fferyllol, ac atal a chanfod twyll mewn perthynas â chytundebau gwasanaethau deintyddol cyffredinol neu bersonol a gwasanaethau fferyllol.
Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG
Mae Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn cynnwys cadeirydd, dim mwy nag wyth aelod ychwanegol nad ydynt yn swyddogion Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG, a dim mwy nag wyth o aelodau sy’n swyddogion Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG. Yn amodol ar gyfarwyddiadau a roddir i Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG gan yr Ysgrifennydd Gwladol a/neu Weinidogion Cymru, mae’n rhaid i Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG, er mwyn hybu neu sicrhau darpariaeth effeithiol o wasanaethau iechyd, gyflawni swyddogaethau mewn cysylltiad â chasglu, sgrinio, dadansoddi, prosesu a chyflenwi gwaed, cynhyrchion gwaed, plasma, bôn-gelloedd a meinweoedd eraill i’r gwasanaeth iechyd, paratoi adweithyddion a chydrannau gwaed a hwyluso, darparu a sicrhau darpariaeth gwasanaethau i gynorthwyo gyda’r broses o drawsblannu meinweoedd ac organau.
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Yn amodol ar gyfarwyddiadau a roddir i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) gan Weinidogion Cymru, mae prif swyddogaethau HEIW yn ymwneud â chynllunio, comisiynu a darparu addysg a hyfforddiant i bersonau sy'n gyflogedig, neu sy'n ystyried cael eu cyflogi, mewn gweithgaredd sy'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae HEIW yn cynnwys cadeirydd, dim mwy na chwe aelod arall nad ydynt yn swyddogion HEIW yn ogystal â'r cadeirydd; a dim mwy na 5 aelod arall sy'n swyddogion HEIW gan gynnwys y sawl sy'n dal swydd prif weithredwr.