Skip to main content

Gwasanaethau fferyllol a gwasanaethau fferyllol lleol

Mae rhannau 4 i 7 o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y gwahanol wasanaethau iechyd sydd i’w darparu o dan y Ddeddf:

Rhan 4 – Gwasanaethau Meddygol (adrannau 41 – 55)

Rhan 5 – Gwasanaethau Deintyddol (adrannau 56 – 70)

Rhan 6 – Gwasanaethau Offthalmig (adrannau 71 – 79)

Rhan 7 – Gwasanaethau Fferyllol (adrannau 80 – 103) 

Darparu gwasanaethau fferyllol

Mae adran 80(1) o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn datgan bod rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) wneud trefniadau, yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, i ddarparu’r canlynol i unigolion yn ardal BILl:

  • cyffuriau a meddyginiaethau priodol a digonol a chyfarpar rhestredig sy’n cael eu harchebu ar gyfer yr unigolion hynny gan ymarferydd meddygol yn unol â’i swyddogaethau iechyd,
  • cyffuriau a meddyginiaethau priodol a digonol a chyfarpar rhestredig sy’n cael eu harchebu ar gyfer yr unigolion hynny gan ymarferydd deintyddol yn unol â’i swyddogaethau iechyd,
  • cyffuriau a meddyginiaethau a chyfarpar rhestredig a benderfynir gan Weinidogion Cymru ac sy’n cael eu harchebu ar gyfer yr unigolion drwy ddisgrifiad o unigolyn a bennir yn rheoliadau Gweinidogion Cymru yn unol â swyddogaethau iechyd, a
  • gwasanaethau eraill fel a bennir.

Mae adran 80(2) yn datgan bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau at ddibenion adran 80(1). Mae adran 80(4) yn datgan mai’r disgrifiadau o unigolion y gall Gweinidogion Cymru eu nodi at ddiben y rheoliadau yw:

  • unigolion sydd wedi’u cofrestru ar y gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o’r Gorchymyn Proffesiynau Iechyd 2001,
  • fferyllwyr cofrestredig,
  • unigolion sydd wedi’u cofrestru ar y gofrestr gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol a sefydlwyd o dan adran 36B o’r Deddf Deintyddion 1984,
  • optometryddion,
  • osteopathiaid cofrestredig,
  • ceiropractyddion cofrestredig,
  • nyrsys neu fydwragedd cofrestredig,
  • unigolion nad ydynt wedi’u crybwyll uchod ond sydd wedi’u cofrestru ar unrhyw gofrestr a gynhelir o dan Orchymyn mewn Cyngor o dan adran 60(1) o’r Deddf Iechyd 1999, ac
  • unrhyw ddisgrifiad arall o unigolion sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru fel pe bai’n ddisgrifiad o unigolion y mae eu proffesiwn wedi’i reoleiddio gan neu o dan Ddeddf Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon.

Mae adrannau 83 a 84 NHSWA 2006 yn darparu rhagor o fanylion am y rheoliadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru eu gwneud o dan adran 80.

Mae adran 83(1) yn datgan bod rhaid i reoliadau Gweinidogion Cymru ddarparu y bydd trefniadau a wneir gan BILl o dan adran 80:

  • yn galluogi unigolion yr archebir cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar ar eu cyfer i’w derbyn gan yr unigolion y gwnaed y trefniadau â nhw, a
  • sicrhau bod unrhyw wasanaethau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 80(3)(e) yn cael eu darparu gan unigolion y gwneud y cyfryw drefniadau â nhw.

Mae’n rhaid i’r rheoliadau gynnwys darpariaeth:

  • i bob BILl baratoi a chyhoeddi un rhestr neu fwy o unigolion, heblaw ymarferwyr meddygol ac ymarferwyr deintyddol, sy’n barod i ddarparu gwasanaethau fferyllol o safleoedd yn ardal y BILl. Gwelir y rhestr hon yn ‘rhestr fferyllol’,
  • bod rhaid i gais i BILl am ymuno â rhestr fferyllol gael ei wneud mewn modd a bennir gan y rheoliadau a datgan y gwasanaethau y bydd yr ymgeisydd yn ymgymryd i’w darparu a’r safle y bydd yn darparu’r gwasanaethau ohonynt,
  • sy’n nodi, ac eithrio mewn achosion a bennwyd, y bydd cais am fod yn aelod o restr fferyllol pan nad yw’r unigolyn yn aelod eisoes, a chais gan unigolyn sydd eisoes yn aelod o restr fferyllol am gael ei gynnwys mewn perthynas â gwasanaethau neu safle gwahanol i’r rhai sydd eisoes wedi’u rhestru ar ei gyfer, ond yn cael ei ganiatáu pan fydd y BILl yn fodlon, yn unol â’r rheoliadau, ei bod hi’n angenrheidiol neu’n fanteisiol i ganiatáu’r cais er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol o’r gwasanaethau neu rai o’r gwasanaethau a nodwyd yn y cais yn y gymdogaeth lle mae’r safle wedi’i leoli gan unigolion sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr,
  • ar gyfer dileu safle o restr fferyllol os penderfynwyd yn y modd a bennwyd nad yw’r unigolyn y mae’r cofnod yn berthnasol iddo erioed wedi darparu’r gwasanaethau y rhestrwyd ei fod yn eu darparu o’r safle hwnnw, neu wedi rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaethau o’r safle hwnnw.

Mae adran 83(3) yn datgan y gall y rheoliadau nodi i ba raddau y dylid ystyried darpariaeth gwasanaethau fferyllol lleol wrth benderfynu a ddylid derbyn cais am gynnwys unigolyn neu safle ar restr fferyllol.

Mae adrannau 83(4) a (5) yn datgan y gall y rheoliadau ddarparu ar gyfer dull o benderfynu rhwng dau gais neu fwy a dderbynnir ar gyfer yr un gymdogaeth, pan fo’r BILl yn eu hystyried gyda’i gilydd ac yn fodlon y byddai’r ceisiadau yn cael eu cymeradwyo fel rhai angenrheidiol neu fanteisiol pe baent yn cael eu hystyried ar eu pen eu hunain, ond nad yw’n fodlon eu bod yn angenrheidiol neu’n fanteisiol o’u hystyried gyda’i gilydd. Mewn achosion o’r fath, gall rheoliadau ddatgan y gall y BILl ystyried cynigion yn y ceisiadau ar gyfer gwerthu cyffuriau a chynhyrchion eraill, trwy ddulliau gwahanol i wasanaethau fferyllol neu bresgripsiwn preifat.

Ymhellach, mae adran 83(6) yn datgan y gall y rheoliadau wneud darpariaeth:

  • i ganiatáu rhai o’r gwasanaethau a nodir mewn cais yn unig,
  • mai dim ond pan fo’r BILl yn fodlon bod yr ymgeisydd wedi bodloni amodau a bennir yn y rheoliadau y gellir caniatáu cais i ddarparu gwasanaethau o ddisgrifiad penodedig,
  • na ellir caniatáu cais gan unigolyn a gymhwysodd i gael ei enw wedi’i gofrestru fel fferyllydd ar gofrestr a gynhelir o dan erthygl 19 y Gorchymyn Fferylliaeth 2010 drwy rinwedd cymhwyster a ddyfarnwyd mewn gwladwriaeth EEA arall heblaw’r DU, neu yn y Swistir, oni bai fod yr ymgeisydd yn bodloni’r BILl fod ganddo ddigon o sgiliau Saesneg ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol,
  • i gynnwys unigolyn am gyfnod penodol,
  • na ellir cynnwys ymgeisydd ar y rhestr os yw’r safle y bydd yn bwriadu darparu gwasanaethau ohono mewn ardal o ddisgrifiad penodedig, oni bai fod y BILl yn cymeradwyo cynnwys yr ymgeisydd drwy gyfeirio at feini prawf a bennir yn y rheoliadau,
  • er mwyn i’r BILl allu rhoi cymeradwyaeth amodol,
  • ynglŷn â rhesymau eraill lle y gall neu lle mae’n rhaid i BILl wrthod cais,
  • ynglŷn â’r wybodaeth y mae’n rhaid i unigolyn sydd wedi’i gynnwys neu sydd am gael ei gynnwys ar restr ei darparu i BILl,
  • i unigolyn sydd wedi’i gynnwys neu sydd am gael ei gynnwys ar restr fferyllol, neu sydd ar gorff rheoli corfforaeth sydd wedi’i chynnwys neu am gael ei chynnwys ar restr, gyflwyno tystysgrif collfarn droseddol, tystysgrif cofnod troseddol manwl neu wybodaeth gyfredol i’r BILl,
  • ar gyfer y rhesymau lle y gall BILl ohirio penderfyniad,
  • i BILl ddatgelu gwybodaeth o ddisgrifiad penodedig i unigolion penodedig am ymgeiswyr i’w cynnwys ar restr fferyllol, ac achosion o wrthod ceisiadau,
  • ar gyfer meini prawf i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau o dan y rheoliadau,
  • ar gyfer gwneud datganiadau am fuddiannau ariannol, rhoddion sy’n fwy na gwerth penodedig a buddion eraill a dderbyniwyd.

Mae adrannau 83(7)-(9) yn datgan y gall y rheoliadau ddarparu ar gyfer achosion lle mae’r ffordd o ddarparu gwasanaeth yn golygu bod yr unigolyn sy’n derbyn y gwasanaeth yn gwneud hynny mewn man gwahanol i’r safle lle mae’n cael ei ddarparu. Mewn achosion o’r fath, gall y rheoliadau gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r unigolion gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru (neu unigolyn arall a bennir yn y rheoliadau) at ddibenion darparu gwasanaeth o’r fath, neu ei gwneud hi’n ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol gynnwys amodau a bennir yn y rheoliadau gyda’r gymeradwyaeth.

Apeliadau ac ati

Mae adran 84(1) yn datgan bod rhaid i reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 83 gynnwys darpariaeth sy’n rhoi hawliau i unigolion a bennir yn y rheoliadau apelio yn erbyn penderfyniadau a wnaed drwy rinwedd adran 83. Yn arbennig, os yw rheoliadau a wnaed o dan adran 83 yn datgan y gall BILl wrthod cais, mae’n rhaid i’r rheoliadau ddarparu ar gyfer apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf hefyd.

Rheoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 (OS 2013/898)

Cafodd Rheoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 (NHS PS 2013) eu gwneud yn rhannol drwy ddefnyddio pwerau Gweinidogion Cymru o dan adrannau 83 ac 84 NHSWA 2006. Mae’r Rheoliadau’n rheoli darpariaeth gwasanaethau fferyllol fel rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mae’r paragraffau isod yn rhoi crynodeb o’r prif ddarpariaethau.

Mae Rhan 2 o NHS PS 2013 yn gofyn i bob BILl baratoi a chynnal y canlynol ar gyfer ei ardal:

  • rhestri fferyllol o fferyllwyr y GIG a chontractwyr cyfarpar y GIG sy’n ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fferyllol o safle yn yr ardal,
  • rhestri meddygon fferyllol o feddygon sy’n ymgymryd i ddarparu gwasanaethau fferyllol o safle yn yr ardal.

Mae Rhan 2 yn nodi hefyd ar ba delerau mae unigolion yn cael eu cynnwys ar restr fferyllol neu restr meddygon fferyllol ac ar ba delerau y byddant yn ymgymryd i ddarparu gwasanaethau fferyllol.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer “ardaloedd rheoledig”. Mae’n datgan y gall BILl benderfynu, ei hunan neu ar gais Pwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, pa un a yw ardal benodol, o fewn yr ardal y sefydlwyd y BILl ar ei chyfer, oherwydd ei natur wledig, yn “ardal reoledig’. Arwyddocâd penderfyniad am fod yn ardal reoledig yw y caiff meddygon, mewn amgylchiadau penodol, ddarparu gwasanaethau fferyllol i gleifion cymwys. Mae’r gweithdrefnau sy’n rhaid i BILl eu dilyn wrth benderfynu’r cwestiwn a yw ardal yn ardal reoledig i’w gweld yn Atodlen 2 i NHS PS 2013. Mae’r hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn y cyswllt hwn wedi’i gynnwys yn Atodlen 3.

Mae Rhan 4 o NHS PS 2013 yn nodi’r gwahanol fathau o geisiadau am gynnwys unigolion ar restri fferyllol, neu ddiwygio rhestri fferyllol, a’r profion y mae’n rhaid i BILl eu cyflawni wrth benderfynu’r ceisiadau hynny. O dan reoliad 8 (ceisiadau am gynnwys unigolyn ar restr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol) a rheoliad 12 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) ni chaiff BILl ganiatáu ceisiadau oni fodlonir ef fod caniatáu’r cais yn angenrheidiol neu fanteisiol er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol o’r cyfan, neu rai, o’r gwasanaethau a bennir yn y cais (y prawf angenrheidiol neu fanteisiol). Yn ychwanegol, os yw’r safle mewn ardal reoledig, mae’n rhaid, yn gyffredinol, bodloni’r BILl na fyddai caniatáu’r cais yn niweidio’r ddarpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, neu wasanaethau dosbarthu neu fferyllol mewn unrhyw ardal (y prawf niweidio). Gwneir eithriad i hyn os yw’r BILl yn penderfynu bod y safle a bennir yn y cais mewn lleoliad neilltuedig o dan reoliad 11. 

Nid yw rhai ceisiadau sy’n golygu gwneud mân newidiadau i’r rhestr yn cael eu hasesu yn unol â’r prawf angenrheidiol neu fanteisiol neu’r prawf niweidio (gweler rheoliadau 13 - 16).

Mae’r gweithdrefnau y mae’n rhaid i BILl eu dilyn wrth benderfynu ceisiadau o dan Ran 4 yn Atodlen 2 i NHS PS 2013, a’r hawliau i apelio i Weinidogion Cymru ynghylch penderfyniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn Atodlen 3.

Mae Rhan 5 yn pennu’r broses ymgeisio i feddygon sydd am ddarparu gwasanaethau fferyllol i‘w cleifion mewn ardaloedd rheoledig. Rhaid i feddygon wneud cais am gydsyniad amlinellol (o dan reoliad 24) a rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ystyried ceisiadau o‘r fath yn unol â‘r prawf angenrheidiol neu fanteisiol, y prawf niweidio a‘r pellter rhwng y safle y mae‘r meddyg yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol ohono a fferyllfeydd cyfagos. Pennir y gweithdrefnau y mae‘n rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol eu dilyn wrth benderfynu ceisiadau o dan Ran 5 yn Atodlen 2 i‘r Rheoliadau, a‘r hawliau i apelio i Weinidogion Cymru ynghylch penderfyniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn Atodlen 3.

Mae Rhan 6 o NHS PS 2013 yn ymwneud â seiliau addasrwydd, ac â chynnwys personau mewn rhestri fferyllol a’u tynnu ymaith o‘r rhestri. Mae‘n darparu ar gyfer gohirio a gwrthod, ar sail addasrwydd, geisiadau am gynnwys unigolyn ar restr fferyllol (rheoliadau 31 a 32), ac ar gyfer cynnwys unigolyn ar restr fferyllol yn ddarostyngedig i amodau (rheoliad 33). Mae Rheoliad 35 yn datgan bod rhaid i’r BILl, mewn rhai amgylchiadau sy’n berthnasol i addasrwydd, dynnu enw’r unigolyn oddi ar y rhestr fferyllol (e.e. os yw wedi ei gael yn euog o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod o fwy na chwe mis).

Mae Rhan 7 yn ymwneud â thaliadau i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG. Yn arbennig, mae rheoliad 41 yn darparu ar gyfer cyhoeddi Tariff Cyffuriau, sef y prif ddatganiad o hawliadau ariannol fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG, sy‘n nodi‘r penderfyniadau ar faterion o‘r fath a wnaed gan Weinidogion Cymru fel yr awdurdod penderfynu. Mae rheoliad 42 yn gwneud darpariaeth i‘r Byrddau Iechyd Lleol fod yn awdurdodau penderfynu pan bennir hynny yn y Tariff Cyffuriau. Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau yn ymdrin hefyd â materion atodol, gan gynnwys gordaliadau a thaliadau i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG. 

Gwasanaethau fferyllol ychwanegol

Mae adran 81 yn datgan y gall Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i BILl yn ei gwneud yn ofynnol iddo drefnu i ddarparu gwasanaethau fferyllol ychwanegol i bobl y tu mewn neu y tu allan i’w ardal, neu drwy roi cyfarwyddiadau o’r fath i BILl, yn ei awdurdodi i drefnu darpariaeth o’r fath os yw’n dymuno gwneud hynny. Gall y cyfarwyddiadau ei gwneud hi’n ofynnol neu awdurdodi BILl i drefnu ar gyfer darparu gwasanaeth fel bod y sawl sy’n derbyn y gwasanaeth yn gwneud hynny yn rhywle heblaw’r safle lle y darperir ef.

Mae adran 82 yn datgan y gall cyfarwyddiadau o dan adran 81 ei gwneud hi’n ofynnol i’r BILl, wneud y canlynol wrth wneud trefniadau:

  • cynnwys telerau penodol,
  • gosod amodau penodol ar unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaeth yn unol â’r trefniadau.

Mae adran 82(2) yn datgan bod rhaid i’r trefniadau sicrhau bod unrhyw wasanaeth y maent yn berthnasol iddo yn cael ei ddarparu gan unigolyn sydd wedi’i gynnwys ar restr fferyllol yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau gofal fferyllol yn yr Alban.

Mae’n rhaid i’r BILl ddarparu manylion trefniadau arfaethedig i unrhyw un sy’n gofyn amdanynt, ac ar ôl gwneud trefniadau o’r fath, mae’n rhaid iddo gyhoeddi manylion o’r trefniadau yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru mewn modd sy’n unol â’u cyfarwyddyd.

Pŵer i godi tâl am geisiadau i ymuno â rhestr fferyllol

Mae adran 85 NHSWA 2006 yn datgan y gall Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i BILl yn ei gwneud yn ofynnol iddo godi ffi mewn achosion a bennir yn y cyfarwyddiadau ar unigolion sy’n gwneud cais am gael eu cynnwys ar restr fferyllol, neu unigolion sydd eisoes ar y rhestr ond sy’n ymgeisio mewn perthynas â safle neu wasanaeth gwahanol i’r hyn a restrwyd eisoes ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddiadau maent yn eu rhoi o dan adran 85.

Mae adrannau 85(2)-(3) yn datgan y gall Gweinidogion Cymru wneud y canlynol yn y cyfarwyddiadau:

  • pennu’r ffi eu hunain (ar ôl ymgynghori â sefydliadau sy’n cynrychioli unigolion sy’n darparu gwasanaethau fferyllol a Byrddau Iechyd Lleol), neu
  • ei gwneud hi’n ofynnol i’r BILl bennu’r ffi yn unol â gofynion a nodwyd yn y cyfarwyddiadau (ar ôl cynnal unrhyw ymgynghoriad ffordd sy’n ofynnol gan y cyfarwyddiadau). Mae’n rhaid i’r BILl gyhoeddi’r ffi a bennir ganddo.

Unigolion a awdurdodir i ddarparu gwasanaethau fferyllol

O dan adran 86(1) o NHSWA 2006, ac eithrio yr hyn y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ni all BILl wneud trefniadau gydag ymarferydd meddygol neu ymarferydd deintyddol lle y byddai ymarferydd yn gorfod neu’n cytuno i ddarparu gwasanaethau fferyllol i unrhyw unigolyn y mae’r ymarferydd yn darparu gwasanaethau sylfaenol iddo.

O dan adran 86(2), ac eithrio yr hyn y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau, ni ellir gwneud trefniadau ar gyfer dosbarthu meddyginiaethau o dan Bennod 1 o Ran 7 o NHSWA 2006 gydag unigolion ac eithrio unigolion sydd:

  • yn fferyllwyr cofrestredig neu’n unigolion sy’n cynnal busnes fferylliaeth manwerthol yn gyfreithlon yn unol ag adran 69 o’r Deddf Meddyginiaethau 1968, ac
  • yn ymgymryd y bydd yr holl feddyginiaethau a gyflenwir ganddynt o dan y cytundebau yn cael eu dosbarthu naill ai gan neu o dan oruchwyliaeth fferyllydd cofrestredig.

Mae adrannau 86(3)-(4) yn datgan bod rhaid i reoliadau wneud darpariaeth i bob BILl baratoi a chyhoeddi un neu fwy o restri o ymarferwyr meddygol sy’n ymgymryd i ddarparu cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar rhestredig o dan drefniadau gyda’r BILl. Gall y rheoliadau, yn arbennig, gynnwys darpariaeth:

  • ynglŷn â’r rhesymau lle y gall neu lle mae’n rhaid i BILl wrthod cais am ymuno â rhestr o ymarferwyr meddygol sy’n ymgymryd i ddarparu cyffuriau, meddyginiaethau ac ati,
  • ynglŷn â’r wybodaeth y mae’n rhaid i ymarferydd meddygol sydd wedi’i gynnwys neu sydd am gael ei gynnwys ar restr o’r fath ei darparu i BILl,
  • i ymarferydd meddygol sydd wedi’i gynnwys neu sydd am gael ei gynnwys ar restr o’r fath,  gyflwyno tystysgrif collfarn droseddol, tystysgrif cofnod troseddol manwl neu wybodaeth gyfredol i’r BILl,
  • ar gyfer y rhesymau lle y gall BILl ohirio penderfyniad i ganiatáu cais ai peidio,
  • i BILl ddatgelu gwybodaeth o ddisgrifiad penodedig i unigolion penodedig am ymgeiswyr i’w cynnwys ar restr o’r fath, ac achosion o wrthod ceisiadau gan y BILl,
  • am y meini prawf i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau o dan y rheoliadau.

Mae adran 86(5) yn datgan os yw’r rheoliadau yn pennu y gall BILl wrthod cais am gael ymuno â rhestr o’r fath, mae’n rhaid i’r rheoliadau ddarparu ar gyfer apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf hefyd.

Mae’n rhaid i’r rheoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer tynnu enw unigolyn oddi ar restr mewn amgylchiadau penodol hefyd.

Mae adran 83(7) yn datgan na ellir gwneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol a ddaw o fewn adran 80(3)(e) neu wasanaethau ychwanegol a ddarperir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 81 gydag unigolion ac eithrio fferyllwyr cofrestredig neu unigolion o ddisgrifiad penodedig.

Yn olaf, mae adran 83(8) yn datgan pan fo trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol wedi’u gwneud gyda fferyllydd cofrestredig, a bod cofrestriad y fferyllydd wedi’i atal dros dro yn rhinwedd cyfarwyddyd neu orchymyn o dan y Gorchymyn Fferylliaeth 2010, ni all y fferyllydd hwnnw ddarparu gwasanaethau fferyllol yn bersonol yn ystod y cyfnod mae wedi’i atal dros dro.

Darpariaeth annigonol o wasanaethau fferyllol

Mae Adran 87 NHSWA 2006 yn berthnasol pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl cynnal ymchwiliad priodol,  nad oes digon o enwau wedi’u cynnwys ar restr fferyllol mewn ardal neu ran o ardal BILl i allu darparu digon o wasanaethau fferyllol cyffredinol, neu am unrhyw reswm arall nid yw nifer sylweddol o unigolion yn yr ardal yn derbyn gwasanaethau boddhaol. Mewn achosion o’r fath, gall Gweinidogion Cymru awdurdodi’r BILl i wneud trefniadau eraill y gall Gweinidogion Cymru eu cymeradwyo, neu wneud trefniadau eu hunain i ddarparu gwasanaethau digonol. Gall Gweinidogion Cymru hepgor unrhyw un o ofynion y rheoliadau a wnaed o dan Bennod 1 o Ran 6 a Rhan 8 NHSWA 2006 hefyd i fodloni amgylchiadau eithriadol ac er mwyn gwneud y trefniadau.

Cydnabyddiaeth ariannol i unigolion sy’n darparu gwasanaethau fferyllol

Mae adran 88 o NHSWA 2006 yn datgan y dylai’r gydnabyddiaeth ariannol sydd i’w thalu i unigolion sy’n derbyn gwasanaethau fferyllol gael ei phennu gan Weinidogion Cymru, neu cyn belled ag y maent wedi’u hawdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru drwy gyfrwng ‘offeryn penodi’, gan BILl neu unrhyw unigolyn arall. Gall offeryn penodi gynnwys gofynion y mae’n rhaid i awdurdod penodi gydymffurfio â nhw ac efallai y bydd wedi’i gynnwys mewn rheoliadau. Mae’n rhaid ei gynnwys mewn rheoliadau yn yr amgylchiadau y darparwyd ar eu cyfer yn adran 88(4A).

Mae adran 88(6) yn datgan y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau am bennu cydnabyddiaeth ariannol i ddarparwyr gwasanaethau fferyllol. Mae adran 88(7) yn datgan y gall y rheoliadau nodi bodd modd gwneud penderfyniadau drwy gyfeirio at:

  • gyfraddau neu amodau talu sefydlog neu a benderfynwyd, ac eithrio drwy benderfyniad o dan adran 88 o NHSWA 2006,
  • graddfeydd, mynegeion neu ddata arall o unrhyw ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.

Mae adran 88(9) yn datgan y gall y rheoliadau ddarparu bod modd i’r awdurdodau penderfynu wneud penderfyniadau sy’n cael effaith mewn perthynas â chyfnod sy’n dechrau cyn dyddiad y penderfyniad, ond y gallant ond wneud hynny os nad yw’n andwyol i’r unigolion y mae’r gydnabyddiaeth ariannol yn ymwneud ag ef o ystyried y penderfyniad yn ei gyfanrwydd.

Yn olaf, mae adran 89 yn datgan bod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â chorff sy’n ymddangos iddynt hwy ei fod yn cynrychioli unigolion y byddai’r penderfyniad yn effeithio ar eu cydnabyddiaeth ariannol, ac ymgynghori ag unigolion eraill y maent yn eu hystyried yn briodol cyn mynd ati i bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer yr holl unigolion sy’n darparu gwasanaethau fferyllol. Gall penderfyniadau wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, gan gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer unrhyw achos penodol, dosbarth o achos neu ardal.

Mae adran 89(6) yn datgan y gall cydnabyddiaeth ariannol gael ei phennu o bryd i’w gilydd a gall gynnwys taliadau ar ffurf cyflog, ffioedd, lwfansau ac ad-daliadau. Mae Adran 89(10) yn darparu ar gyfer rhai o’r ffactorau perthnasol y bydd gofyn i’r awdurdod penderfynu eu hystyried, yn cynnwys:

  • y swm neu’r swm amcangyfrifedig o dreuliau a wariwyd yn y gorffennol neu sy’n debygol o gael eu gwario yn y dyfodol mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fferyllol,
  • y swm neu’r swm amcangyfrifiedig o unrhyw gydnabyddiaeth ariannol a dalwyd neu sy’n debygol o gael ei thalu i unigolion sy’n darparu gwasanaethau o’r fath,
  • y swm neu’r swm amcangyfrifiedig o unrhyw daliadau neu ad-daliadau neu fudd-daliadau eraill a dderbyniwyd neu sy’n debygol o gael eu derbyn gan unigolion o’r fath,
  • i ba raddau y mae’n ddymunol annog darparu gwasanaethau fferyllol, naill ai’n gyffredinol neu mewn mannau penodol,
  • y dymuniad i hyrwyddo gwasanaethau fferyllol sy’n ddarbodus, effeithlon ac o safon briodol.

Mae Rhan 7 o Reoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu darparwyr gwasanaethau fferyllol. Gwnaed y rheoliadau yn rhannol drwy ddefnyddio pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 88 o NHSWA 2006.

Mae Rheoliad 41(2) o Reoliadau NHS PS yn datgan y gall Gweinidogion Cymru wneud penderfyniadau ynglŷn â’r gydnabyddiaeth ariannol i’w thalu i ddarparwyr gwasanaethau fferyllol drwy gyfeirio at raddfeydd, mynegeion neu fformiwlâu o unrhyw fath, a gallant ddod i rym o ddyddiad cynharach na dyddiad cyhoeddi’r penderfyniad, os nad yw’n andwyol i’r unigolion y mae’r gydnabyddiaeth ariannol yn ymwneud ag ef, o ystyried y penderfyniad yn ei gyfanrwydd. Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru wedi’i gynnwys yn y ‘Tariff Cyffuriau’, a lunnir gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG ar ran Gweinidogion Cymru. 

Mae Rheoliad 41(4) yn datgan bod rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau i’r Tariff Cyffuriau mewn fersiwn gyfunol o’r Tariff Cyffuriau sy’n cynnwys y diwygiadau.

Mae Rheoliad 42 yn darparu y gall Gweinidogion Cymru ddatgan yn y Tariff Cyffuriau mai’r BILl yw’r awdurdod penderfynu ar gyfer ffi, lwfans neu gydnabyddiaeth ariannol benodol arall. Nid yw Gweinidogion Cymru wedi defnyddio’r pŵer hwn i wneud Byrddau Iechyd Lleol yn awdurdodau penderfynu.

Dylid edrych ar y Tariff Cyffuriau i weld manylion llawn y taliadau i’w talu i ddarparwyr gwasanaethau fferyllol. Mae Rhannau VIA a VIB yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau hanfodol a ddarperir gan gontractwyr fferyllol a chontractwyr cyfarpar, ac mae rhan VID yn gwneud darpariaeth ar gyfer taliadau am wasanaethau uwch i gontractwyr fferyllol a chontractwyr cyfarpar.

Pwyllgorau Fferyllol lleol

Mae adran 90 o NHSWA 2006 yn datgan y gall BILl gydnabod pwyllgor a ffurfiwyd ar gyfer ei ardal, ac un sy’n cynnwys un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol eraill, os yw’n fodlon ei fod yn cynrychioli unigolion sy’n darparu gwasanaethau fferyllol yn yr ardal honno. Gelwir y pwyllgor cydnabyddedig yn Bwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y ffurfiwyd ef ar ei gyfer.

Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i BILl ymgynghori ag unrhyw bwyllgor a gydnabyddir ganddo ar adegau o’r fath ac i’r graddau y gellir eu pennu, ac mae gan bwyllgor swyddogaethau eraill o’r fath fel y gellir eu pennu gan Weinidogion Cymru. Nid yw Gweinidogion Cymru wedi defnyddio eu pŵer i wneud rheoliadau yn y cyswllt hwn.

Rhestri atodol

Mae Rhan 8 o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn gwneud darpariaeth bellach am gymhwysedd i ymarfer. Mae adran 105 yn datgan y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i bob BILl baratoi a chyhoeddi un rhestr neu fwy o unigolion sydd wedi’u cymeradwyo gan y BILl ar gyfer helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau fferyllol. Gelwir rhestr o’r fath yn ‘rhestr atodol’. Dylid gwahaniaethu rhwng y rhestr hon a’r rhestr fferyllol, gan fod rhestr atodol yn ymwneud ag unigolion sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau (h.y. nid yn brif weithwyr yn y cyswllt hwnnw).

Gall rheoliadau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â rhestri atodol yn arbennig wneud darpariaeth ar gyfer y materion a restrwyd yn adran 105(3) a (4). Mae yna bŵer i wneud darpariaeth ar gyfer:

  • y BILl y dylid cyflwyno cais iddo ar gyfer cynnwys rhywun ar restr atodol,
  • y weithdrefn ar gyfer gwneud cais,
  • y rhesymau lle y gall neu lle mae’n rhaid i BILl wrthod cais unigolyn,
  • gofynion y mae’n rhaid i unigolyn ar restr atodol gydymffurfio â nhw,
  • y rhesymau lle y gall neu lle mae’n rhaid i BILl atal unigolyn o restr atodol dros dro neu ei ddileu o’r rhestr, y gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny, a’r canlyniadau,
  • taliadau i unigolion sydd wedi’u hatal dros dro o restr atodol,
  • ymgeisydd yn cyflwyno tystysgrif o gollfarn droseddol a/neu dystysgrif cofnod troseddol manwl i’r BILl,
  • yr amgylchiadau lle na all unigolyn dynnu ei enw oddi ar y rhestr atodol,
  • y meini prawf i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau o dan y rheoliadau,
  • apeliadau yn erbyn penderfyniadau Byrddau Iechyd Lleol,
  • y BILl i ddatgelu i unigolion penodedig o ddisgrifiad penodedig, gwybodaeth am ddisgrifiad penodedig am ymgeiswyr i’w cynnwys ar y rhestr atodol.

Gall y rheoliadau ddarparu ar gyfer y canlynol hefyd:

  • amodau a bennir gan BILl ar gyfer cynnwys unigolyn ar restr atodol,
  • pŵer y BILl i amrywio’r amodau,
  • canlyniad methu â chydymffurfio ag amod, ac
  • adolygiad o’i benderfyniadau gan y BILI.

Os yw’r rheoliadau’n datgan y gall BILl atal unigolyn dros dro o restr atodol neu ddileu’r unigolyn o’r rhestr, mae’n rhaid iddynt gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i BILl roi’r canlynol i’r unigolyn:

  • hysbysiad o unrhyw gyhuddiad yn ei erbyn,
  • y cyfle i gyflwyno ei achos gerbron y BILl mewn gwrandawiad, a
  • hysbysiad o benderfyniad y BILl a’r rhesymau drosto a’r hawl i apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf.

Yn olaf, mae adran 106 yn datgan y gall rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 105 ei gwneud hi’n ofynnol i unigolyn, ‘A’, sydd wedi’i gynnwys ar restr fferyllol (neu restr offthalmig) beidio â chyflogi neu gael unigolyn arall, ‘B’, i’w helpu i ddarparu’r gwasanaeth y mae’r rhestr yn ymwneud ag ef oni bai fod B wedi’i gynnwys ar restr, yn cynnwys:

  • rhestr offthalmig neu fferyllol,
  • rhestr atodol,
  • rhestr feddygol neu ddeintyddol.

Os yw rheoliadau’n cael eu gwneud i’r perwyl hwnnw, nid oes rhaid iddynt ei gwneud hi’n ofynnol i unigolion A a B fod yn aelodau o’r rhestr a baratowyd gan yr un BILl, ond gallant ei gwneud hi’n ofynnol i A a B fod yn aelodau o restri a baratowyd gan BILl. Y bwriad yn yr achos hwn yw helpu’r rhai sy’n gweithio ar draws ffiniau BILl drwy ei gwneud hi’n ofynnol iddynt ymuno ag un, yn hytrach na sawl, rhestr atodol.

Nid oes unrhyw reoliadau mewn grym ar gyfer rhestri gwasanaethau fferyllol atodol.

Cynlluniau peilot

Rhagnodwyr annibynnol

Mae adran 80 (3)(d) o NHSWA 2006 yn datgan bod pob BILl o dan ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer, ymysg pethau eraill, darparu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar i unigolion yn ardal y BILl fel y gellir ei bennu gan Weinidogion Cymru, sy’n cael eu harchebu ar gyfer yr unigolion hynny gan unigolyn o ddisgrifiad penodedig, o’r enw contractwyr annibynnol.

Mae Adran 80(4) yn darparu rhestr o’r disgrifiadau o unigolion y gellir eu pennu fel contractwyr annibynnol. Maent yn cynnwys proffesiynau a reoleiddir o dan yr Gorchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (yn cynnwys podiatryddion, ciropodyddion a ffisiotherapyddion), fferyllwyr cofrestredig, nyrsys, optometryddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi defnyddio eu pŵer o dan adran 80(3)(d) i ddarparu y gall rhai disgrifiadau o unigolion weithredu fel contractwyr annibynnol. Yn fwyaf diweddar, lluniwyd Rheoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffisiotherapyddion, Podiatryddion neu Geiropractyddion sy’n Rhagnodi’n Annibynnol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014 er mwyn gwneud darpariaeth i ffisiotherapyddion, podiatryddion a chiropodyddion allu gweithredu fel rhagnodwyr annibynnol.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
15 Mehefin 2021