Gwasanaethau deintyddol
Mae rhannau 4 i 7 o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y gwahanol wasanaethau iechyd sydd i’w darparu o dan y Ddeddf:
Rhan 4 – Gwasanaethau Meddygol (adrannau 41 – 55)
Rhan 5 – Gwasanaethau Deintyddol (adrannau 56 – 70)
Rhan 6 – Gwasanaethau Offthalmig (adrannau 71 – 79)
Rhan 7 – Gwasanaethau Fferyllol (adrannau 80 – 103)
Gwasanaethau deintyddol sylfaenol - Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol
Mae adran 56 o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006yn dweud bod rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl), i’r graddau y mae’n ystyried hynny’n angenrheidiol i fodloni’r holl ofynion rhesymol, ddefnyddio ei bwerau i ddarparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol yn ei ardal, neu sicrhau bod gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu. Yn ogystal ag unrhyw bŵer arall a roddwyd iddo, gall BILl ddarparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol ei hun (boed y tu mewn neu’r tu allan i’w ardal). Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu bod yn rhaid i wasanaethau o ddisgrifiad penodol gael eu hystyried, neu beidio cael eu hystyried fel gwasanaethau deintyddol sylfaenol.
Mae adran 57 yn darparu y caiff BILl ymrwymo i gontract, a elwir yn Gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, a bydd gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu o dan y contract hwn. Gall y contract wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n cael ei chytuno rhwng y partïon mewn perthynas â’r gwasanaethau i’w darparu, cydnabyddiaeth ariannol o dan y contract, ac unrhyw faterion eraill. Gall y gwasanaethau sydd i’w darparu o dan gontract o’r fath gynnwys gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau meddygol sylfaenol a chynnwys gwasanaethau sydd i’w darparu y tu allan i ardal y BILl. Mae adran 58 yn darparu bod rhaid i’r contract ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n llofnodi contract gyda’r BILl (y contractwr) ddarparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol fel y rhai a nodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Mae rheoliadau 14 i 16 ac Atodlen 1 i'r Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 (GDSCR 2006) yn darparu ar gyfer gwasanaethau ‘gorfodol’ ac ‘ychwanegol’ sydd i’w darparu o dan y contract. Drwy rinwedd adran 4, a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 i’r Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006, mae’r Rheoliadau yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 58 NHSWA 2006. Darperir crynodeb o’r gwasanaethau gorfodol ac ychwanegol isod.
Gwasanaethau gorfodol
Yn ystod oriau meddygfa arferol (h.y. yr amseroedd sydd wedi’u nodi yn y contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol fel amseroedd agor y feddygfa i gleifion ar gyfer darparu gwasanaethau) mae’n rhaid i gontractwyr ddarparu’r holl ofal a thriniaeth ddeintyddol briodol ac angenrheidiol i’w cleifion (gweler y rhestr isod) sy’n cynnwys gofal y mae ymarferydd deintyddol yn ei ddarparu i glaf fel arfer, triniaeth frys, ac atgyfeirio’r claf i wasanaethau pellach.
Mae’n rhaid i'r contractwr ddarparu triniaeth frys a’r holl wasanaethau eraill a restrir isod sy’n angenrheidiol i ddiwallu anghenion rhesymol ei gleifion yn ystod oriau agor meddygfa arferol:
- archwilio,
- diagnosis,
- cyngor a chynllunio triniaeth,
- gofal ataliol a thriniaeth,
- triniaeth beriodontol,
- triniaeth gadwrol,
- triniaeth lawfeddygol,
- cyflenwi a thrwsio cyfarpar deintyddol,
- cymryd radiograffau,
- cyflenwi cyffuriau rhestredig a chyfarpar rhestredig, a
- darparu presgripsiwn
Gwasanaethau ychwanegol
Efallai y bydd angen i gontractwyr ddarparu gwasanaethau cartref neu wasanaethau llonyddu a thriniaeth orthodonteg.
Cymhwysedd
Mae adran 59 o NHSWA 2006 yn darparu y gall BILl, yn amodol ar amodau a all gael eu pennu mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ymrwymo i gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol gydag ymarferydd deintyddol, corfforaeth ddeintyddol, neu gyda dau neu fwy o unigolion sy’n ymarfer mewn partneriaeth lle mae amodau statudol adran 59(2) wedi’u bodloni. Mae Adran 206 NHSWA 2006 yn diffinio ‘ymarferydd deintyddol’ fel unigolyn sydd wedi cofrestru’n llawn ar gofrestr y deintyddion o dan y Ddeddf Deintyddion 1984. Mae adran 59(4) yn datgan bod ‘corfforaeth ddeintyddol’ yn golygu corfforaeth sy’n cyflawni busnes deintyddiaeth yn unol â’r Ddeddf Deintyddion 1984.
Mae Rheoliadau 3 i 7 o GDSCR 2004 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cymhwysedd i ymrwymo i gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol. Mae’r Rheoliadau’n cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 59 NHSWA 2006.
Yn amodol ar eithriadau a nodir yn rheoliad 4(4)-(6), mae Rheoliad 4 yn datgan na ellir ymrwymo i gontract gydag unigolyn, yn cynnwys unrhyw gyfarwyddwr, prif weithredwr neu ysgrifennydd corfforaeth ddeintyddol, os yw’r unigolyn hwnnw:
- wedi cael gwaharddiad cenedlaethol,
- wedi’i ddiarddel neu’i atal dros dro rhag ymarfer gan unrhyw gorff trwyddedu yn y byd,
- wedi’i ddiswyddo o swydd gyda chorff gwasanaeth iechyd yn y pum mlynedd diwethaf,
- wedi’i ddileu o restr gofal sylfaenol neu heb gael ymuno,
- wedi cael ei ddyfarnu’n euog o lofruddiaeth,
- wedi cael ei ddyfarnu’n euog o gyflawni trosedd ac eithrio llofruddiaeth ers mis Awst 2002 a’i ddedfrydu i dros chwe mis o garchar,
- wedi cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd yn rhywle arall a fyddai, pe bai wedi’i chyflawni yng Nghymru a Lloegr yn gyfystyr â llofruddiaeth, neu pe bai wedi’i chyflawni yng Nghymru a Lloegr ers 2002, wedi arwain at dros chwe mis o garchar,
- wedi cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd yn erbyn plant neu bobl ifanc o dan y Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 ,
- wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu'n destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu gorchymyn cyfyngu rhyddhad dyled,
- wedi’i symud o’i swydd fel ymddiriedolwr elusen, neu
- yn ddiarddel o fod yn gyfarwyddwr cwmni.
O ran contractau a wneir gyda chorfforaethau deintyddol ar ôl 19 Gorffennaf 2005, mae Rheoliad 5 yn cyflwyno amod nad oes trosedd wedi’i chyflawni neu’n cael ei chyflawni o dan adran 43 o Ddeddf Deintyddion 1984 ac nad oes cosb ariannol wedi’i chyflwyno o dan adran 43B o Ddeddf Deintyddion 1984.
Mae Rheoliadau 6 a 7 yn datgan pan fo BILl o’r farn nad yw’r amodau a nodwyd yn rheoliadau 4 a/neu 5 wedi’u bodloni, bod rhaid iddo ysgrifennu at yr unigolyn sydd wedi gwneud cais i ymrwymo i’r contract, yn nodi’r rheswm dros wrthod a hysbysu’r unigolion am yr hawl i apelio i dribiwnlys Haen Gyntaf a ddarperir gan reoliad 7.
Taliadau
Mae adran 60 NHSWA 2006 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y taliadau i’w gwneud o dan gontractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredin. Mae adran 60(1) o NHSWA 2006 yn datgan y gall Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau ynghylch y taliadau sydd i’w gwneud. Mae’n rhaid i gontract ei gwneud hi’n ofynnol i daliadau gael eu gwneud yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd o dan adran 60.
Yn arbennig, gall y cyfarwyddiadau:
- ddarparu ar gyfer gwneud taliadau drwy gyfeirio at gydymffurfio â safonau neu gyflawni lefelau perfformiad,
- darparu ar gyfer gwneud taliadau drwy gyfeirio at unrhyw gynllun neu raddfa a bennir yn y cyfarwyddyd, neu benderfyniad a wnaed gan unrhyw unigolyn yn unol â ffactorau a bennir yn y cyfarwyddyd,
- darparu ar gyfer gwneud taliadau mewn perthynas ag ymarferwyr unigol,
- darparu bod y cyfan neu unrhyw ran o daliad yn destun amodau, a
- gwneud darpariaeth a ddaw i rym o ddyddiad cyn dyddiad y cyfarwyddyd, cyn belled nad yw’r ddarpariaeth, mewn perthynas â’r cyfarwyddyd yn ei gyfanrwydd, yn niweidiol i gydnabyddiaeth ariannol yr unigolion y mae’n berthnasol iddynt.
Cyn cyhoeddi cyfarwyddyd, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw gorff sydd yn eu barn hwy yn cynrychioli unigolion y byddai’r cyfarwyddyd yn ymwneud â’u cydnabyddiaeth ariannol, a gallant ymgynghori ag unigolion eraill fel y maent yn ystyried yn briodol.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno’r Cyfarwyddiadau i Fyrddau Iechyd Lleol ar Ddatganiad o Hawliau Ariannol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol 2009 (2009 Rhif 18) (GDS SFE 2009) wrth ddefnyddio eu pŵer o dan adran 60 NHSWA 2006. Mae GDS SFE 2009 yn gwneud darpariaeth fanwl am gynnwys contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol mewn perthynas â thaliadau. Fe’i diwygiwyd ymhellach gan gyfarwyddiadau eraill gan Weinidogion Cymru. Dylid bod yn ofalus i sicrhau mai’r fersiwn ddiweddaraf o GDS SFE 2009 a ddefnyddir. Gan eu bod yn offerynnau anstatudol nid yw’r cyfarwyddiadau’n ymddangos ar wefan legislation.gov.uk.
Telerau contract gofynnol eraill
Mae adran 61 NHSWA 2006 yn datgan y dylai contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredin gynnwys darpariaeth o’r fath y gellir ei phennu gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau. Yn arbennig, gall unrhyw reoliadau o’r fath wneud darpariaeth ar gyfer:
- sut y dylid darparu gwasanaethau ac i ba safonau,
- yr unigolion sy’n darparu gwasanaethau,
- yr unigolion sy’n derbyn y gwasanaethau,
- amrywiadau mewn telerau contractau,
- hawliau mynediad ac archwilio,
- o dan ba amgylchiadau y gellir terfynu contract a sut y gellir gwneud hynny,
- gorfodi a datrys anghydfod.
Mae’n rhaid i unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 61 wneud darpariaeth ynghylch hawl cleifion i ddewis gan bwy maent am dderbyn gwasanaethau.
Mae Rheoliadau 10 i 24 o GDSCR 2006 yn gwneud darpariaeth am y telerau contract gofynnol eraill. Mae’r Rheoliadau yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 61 NHSWA 2006 ac yn ei gwneud hi’n ofynnol i gontractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredin gynnwys telerau ar:
- enwau’r partïon,
- a yw’r contract i’w ystyried yn gontract GIG,
- a yw contract gyda phartneriaeth i’w ystyried yn gontract gyda’r bartneriaeth fel y’i ffurfir o dro i dro,
- hyd y contract,
- y gwasanaethau gorfodol ac ychwanegol (gweler uchod)
- nifer yr unedau o weithgarwch deintyddol i’w darparu bob blwyddyn gan y contractwr,
- nifer yr unedau o weithgarwch orthodonteg i’w darparu bob blwyddyn gan y contractwr,
- y ffaith na all y BILl gymryd camau gweithredu ar gyfer achos o dorri contract pan fo’r contractwr wedi methu cyflawni’r nifer ofynnol o unedau gweithgarwch deintyddol neu’r nifer ofynnol o unedau gweithgarwch orthodonteg, pan fo’r methiant hwnnw’n gyfystyr â llai na 5% o nifer yr unedau a ddarparwyd, a phan fo’r contractwr yn cytuno i ddarparu nifer yr unedau o fewn cyfnod penodol,
- nifer unrhyw gyrsiau triniaeth cartref neu lonyddu i’w darparu gan y contractwr,
- taliadau, yn cynnwys bod rhaid i’r contract gynnwys holl ddarpariaethau GDS SFE 2009,
- ffioedd a thaliadau,
- hawl i derfynu.
Datrys anghydfod
Mae adran 62 NHSWA 2006 yn datgan y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â datrys anghydfod ynghylch telerau contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredin arfaethedig, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer atgyfeirio telerau contract arfaethedig i Weinidogion Cymru, ac i Weinidogion Cymru, neu unigolyn a benodir ganddynt, benderfynu ar delerau ymrwymo’r contract.
Gall rheoliadau wneud darpariaeth hefyd i unigolyn sy’n ymrwymo i gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredin gael ei ystyried fel corff gwasanaeth iechyd mewn amgylchiadau lle mae’r unigolyn yn dymuno hynny, ac i gontract gyda phartneriaeth gael ei ystyried yn gontract GIG lle mae’r partneriaid yn dewis dod yn gorff gwasanaeth iechyd a bod newid yn aelodaeth y bartneriaeth. Os yw'r darparwr yn gorff gwasanaeth iechyd, bydd hyn yn effeithio'r ffordd mae delio gydag anghydfod sy'n berthnasol i'r contract.
Mae Rheoliad 13 o GDSCR 2006 yn gwneud darpariaeth am ddatrys anghydfod. Mae Rheoliadau 2006 yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 62 NHSWA 2006. Mae Rheoliad 13 yn datgan, oni bai bod y ddau barti a fydd yn rhan o’r contract arfaethedig yn gyrff gwasanaeth iechyd (ac os felly, bydd adran 4(4) o’r National Health Service and Community Care 1990 yn berthnasol), os na all y partïon gytuno ar un o delerau penodol y contract, gall y naill barti neu’r llall atgyfeirio’r anghydfod i Weinidogion Cymru i’w ystyried ac i wneud penderfyniad ar y mater. Cyn atgyfeirio’r anghydfod i’w ystyried a’i benderfynu gan Weinidogion Cymru, mae’n rhaid i’r ddau barti wneud pob ymdrech rhesymol i gyfathrebu a chydweithredu. Efallai y bydd y penderfyniad yn pennu’r telerau i’w cynnwys yn y contract, yn ei gwneud yn ofynnol i’r BILl fwrw ymlaen â’r contract arfaethedig, ond efallai na fydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr arfaethedig fwrw ymlaen â’r contract arfaethedig, ac y bydd yn gyfrwymol ar y ddau barti.
Rhestri perfformwyr
Mae adran 63 NHSWA yn datgan y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau yn nodi na all gweithiwr gofal iechyd proffesiynol o ddisgrifiad a nodir yn y rheoliadau gyflawni unrhyw wasanaeth meddygol sylfaenol y mae BILl yn gyfrifol amdano oni bai fod y gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’i gynnwys ar restr sy’n cael ei chynnal gan BILl o dan y rheoliadau.
Mae’r rheoliadau’n gwneud darpariaeth ar gyfer y canlynol yn benodol:
- y gwaith o baratoi, cynnal a chyhoeddi rhestr,
- cymhwysedd,
- ceisiadau ar gyfer bod ar y rhestr,
- rhesymau dros dderbyn neu wrthod cais,
- y gofynion y mae’n rhaid i unigolion ar y rhestr gydymffurfio â nhw,
- atal dros dro neu dynnu enw oddi ar y rhestr,
- amgylchiadau pan na ellir tynnu unigolyn oddi ar y rhestr,
- taliadau i’w gwneud ar gyfer unigolyn sydd wedi’i atal dros dro o’r rhestr,
- y meini prawf i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau o dan y rheoliadau,
- apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan BILl o dan y rheoliadau,
- datgelu gwybodaeth am ymgeiswyr i’w cynnwys yn y rhestr perfformwyr, derbyn neu wrthod ceisiadau, atal dros dro neu dynnu oddi ar y rhestr, a
- diarddel ymarferwyr.
Gall y rheoliadau ddarparu ar gyfer y canlynol hefyd:
- cynnwys unigolyn ar restr ond ar amodau a bennir gan BILl,
- BILl i amrywio amodau neu osod rhai gwahanol,
- canlyniadau methu â chydymffurfio ag amod, ac
- adolygiad gan BILl o benderfyniadau a wnaed yn rhinwedd y rheoliadau.
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) (Cymru) 2004 yn gwneud darpariaeth am restri perfformwyr ac yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 63 NHSWA 2006.
Mae Rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob BILl baratoi a chyhoeddi rhestr perfformwyr meddygol a rhestr perfformwyr deintyddol. Dylai’r rhestri hyn fod ar gael i’r cyhoedd eu gweld. Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer ceisiadau i’w cynnwys yn y rhestr, yn cynnwys y dogfennau a’r datganiadau sydd angen eu hanfon gyda’r cais.
Mae Rheoliad 6 yn egluro’r rhesymau cyffredinol dros wrthod cais ymarferwyr meddygol a deintyddol i ymuno â’r rhestri, mae rheoliad 9 yn datgan yr amodau y mae’n rhaid i unigolyn ar restr berfformwyr gydymffurfio â nhw, mae rheoliadau 10 i 12 yn darparu ar gyfer dileu ymarferwyr o’r rhestri, mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer atal rhywun dros dro o’r rhestr, a rheoliad 15 yn darparu ar gyfer apeliadau yn erbyn penderfyniad BILl. Mae Rheoliadau 28 i 33 yn gwneud darpariaeth bellach a phenodol am restri perfformwyr deintyddol.
Trefniadau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol – cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol
Mae Adran 64 NHSWA yn datgan y gall BILl lunio cytundebau lle mae gwasanaethau deintyddol sylfaenol yn cael eu darparu gan rywun (heblaw’r BILl). Mae’n rhaid i’r cytundebau fod yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 66 o’r Ddeddf honno (gweler ymhellach isod). Mae cytundebau adran 64 yn cael eu galw’n Gytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol (cytundebau PDS), ac yn ddewis amgen i’r contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredin a ddisgrifir uchod.
Mae adran 64 yn datgan na all cytundebau PDS gyfuno trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol gyda threfniadau ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol neu fferyllol sylfaenol, ac mae adran 65 yn datgan mai dim ond gydag un neu fwy o’r canlynol y gellir ymrwymo i gytundeb PDS:
- ymddiriedolaeth GIG neu Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG,
- ymarferydd deintyddol sy’n bodloni’r amodau a nodwyd yn rheoliadau Gweinidogion Cymru,
- gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n bodloni’r amodau a nodwyd yn rheoliadau Gweinidogion Cymru,
- unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o dan Gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol neu Gontract GDS (neu’r trefniadau cyfatebol yn Lloegr), neu yn unol â threfniadau tebyg, neu’n darparu gwasanaethau penodol yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon,
- gweithiwr y GIG,
- cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau sy’n eiddo’n llwyr i unigolyn y byddai BILl wedi gallu ymrwymo i gytundeb PDS ag ef fel arall, neu
- BILl.
Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau am gytundebau PDS. Mae adran 66 yn datgan bod rhaid i unrhyw reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer cyfranogwyr heblaw BILl i dynnu’n ôl o’r trefniadau os ydynt yn dymuno, bod rhaid iddynt ddarparu ar gyfer yr amgylchiadau lle mae’n rhaid a lle y gall y sawl sy’n darparu gwasanaethau o dan gytundeb PDS dderbyn unigolyn fel claf, y gallant wrthod derbyn unigolyn fel claf, a therfynu ei gyfrifoldeb am glaf, ac mae’n rhaid iddynt ddarparu ar gyfer hawliau cleifion i ddewis gan bwy maent am dderbyn gwasanaethau o dan gytundebu PDS.
Gall rheoliadau Gweinidogion Cymru wneud y canlynol yn benodol hefyd:
- datgan mai dim ond mewn amgylchiadau neu feysydd penodedig y gellir llunio cytundebau PDS,
- datgan mai dim ond gwasanaethau penodedig, neu gategorïau o wasanaeth, y gellir eu darparu o dan gytundebau PDS,
- gosod amodau i’w bodloni gan unigolion sy’n cyflawni gwasanaethau o dan gytundebau PDS,
- gofyn am gyhoeddi manylion trefniadau PDS,
- gwneud darpariaeth ar gyfer amrywio a therfynu cytundebau PDS,
- gwneud darpariaeth i’r partïon gael eu trin fel cyrff y gwasanaeth iechyd mewn amgylchiadau penodol,
- darparu ar gyfer cyfarwyddiadau ynghylch taliadau i’w gorfodi mewn llys sirol fel pe baent yn ddyfarniadau neu orchmynion y llys hwnnw.
Gall y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol hefyd i daliadau gael eu gwneud o dan gytundebau PDS yn unol â chyfarwyddiadau a roddwyd gan Weinidogion Cymru, efallai mewn rhai amgylchiadau y bydd gofyn i BILl ymrwymo i gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredin gydag unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o dan gytundeb PDS ac sy’n gofyn am hynny, a gall gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys anghydfod ynghylch telerau’r cytundeb.
Mae Gweinidogion Cymru wedi llunio Rheoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 wrth ddefnyddio eu pŵer o dan adran 66 o NHSWA 2006. Mae’r Rheoliadau’n gwneud darpariaeth sy’n gofyn i gytundebau PDS gynnwys telerau fel:
- enwau’r partïon,
- a yw’r contract i’w ystyried yn gontract GIG,
- a yw contract gyda phartneriaeth i’w ystyried yn gontract gyda’r bartneriaeth fel y’i ffurfir o dro i dro,
- hyd y contract,
- y gwasanaethau gorfodol ac ychwanegol,
- nifer yr unedau o weithgarwch deintyddol i’w darparu bob blwyddyn gan y contractwr,
- nifer yr unedau o weithgarwch orthodontig i’w darparu bob blwyddyn gan y contractwr,
- nifer unrhyw gyrsiau triniaeth cartref neu lonyddu i’w darparu gan y contractwr
- taliadau, yn cynnwys bod rhaid i’r contract gynnwys holl ddarpariaethau PDS SFE 2009 (gweler isod),
- ffioedd a thaliadau,
- hawl i derfynu
- cymhwysedd,
- datrys anghydfod.
Mae Gweinidogion Cymru wedi defnyddio eu pŵer gwneud penderfyniadau o dan adran 66(4) o NHSWA 2006 i gyflwyno’r Cyfarwyddiadau i Fyrddau Iechyd Lleol ar Ddatganiad o Hawliau Ariannol Gwasanaethau Deintyddol Personol 2009 (2009 Rhif 17) (PDS SFE 2009) Mae PDS SFE 2009 yn gwneud darpariaeth fanwl am gynnwys contractau PDS mewn perthynas â thaliadau.
Cymorth a chefnogaeth – Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredin a chytundebau PDS
Mae Adran 68 NHSWA 2006 yn datgan y gall BILl ddarparu cymorth neu gefnogaeth i unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol o dan gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredin neu gytundeb PDS. Mae cymorth yn cynnwys cymorth ariannol.
Pwyllgorau Deintyddol Lleol
Mae Adran 69 NHSWA 2006 yn datgan y gall BILl gydnabod pwyllgor a ffurfiwyd ar gyfer ei ardal, ac un sy’n cynnwys un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol eraill, os yw’n fodlon ei fod yn cynrychioli:
- pob ymarferydd deintyddol sydd, o dan gontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredin, yn darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol yn ardal y pwyllgor, a
- phob ymarferydd deintyddol arall sy’n darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol yn yr ardal ac sydd wedi hysbysu’r BILl eu bod yn dymuno cael eu cynrychioli gan y pwyllgor.
Gelwir y pwyllgor cydnabyddedig yn Bwyllgor Deintyddol Lleol ar gyfer yr ardal y ffurfiwyd ef ar ei gyfer. Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i BILl ymgynghori ag unrhyw bwyllgor a gydnabyddir ganddo ar adegau o’r fath ac i’r graddau y gellir eu pennu, ac mae gan bwyllgor swyddogaethau eraill o’r fath fel y gellir eu pennu gan Weinidogion Cymru. Nid yw Gweinidogion Cymru wedi defnyddio eu pŵer i wneud rheoliadau yn yr achos hwn.
Iechyd cyhoeddus deintyddol
Mae adran 67 o’r NHSWA 2006 yn datgan bod gan BILl swyddogaeth iechyd cyhoeddus deintyddol fel y gellir eu pennu mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau hefyd i bennu eu swyddogaethau eu hunain mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus deintyddol yng Nghymru. Gall swyddogaethau’r BILl mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus deintyddol gael eu cyflawni gan y BILl ei hun, gan ddau BILl neu fwy yn cydweithio, neu gan unigolyn neu gorff arall yn unol â threfniadau a wneir gan y BILl.
Mae swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus deintyddol wedi’u pennu gan Reoliadau Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol (Iechyd Cyhoeddus Deintyddol) (Cymru) 2006. Mae’r Rheoliadau’n cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 67 NHSWA 2006. Mae Rheoliad 2 yn datgan bod gan BILl swyddogaeth, i’r graddau mae’n ystyried hynny’n angenrheidiol, i fodloni’r holl ofynion rhesymol yn ei ardal, o ran darparu neu sicrhau darpariaeth:
- rhaglenni hybu iechyd y geg,
- archwilio dannedd disgyblion mewn ysgolion awdurdod lleol, ac
- arolygon iechyd y geg.