Cyllid GIG - Cyllid Bwrdd Iechyd Lleol
Cyllido’r Byrddau Iechyd Lleol yn gyhoeddus
Yn dilyn ad-drefnu GIG Cymru yn 2009, mae saith Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth iechyd integredig yng Nghymru. Maent yn comisiynu a darparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ariannu'r saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn unol ag adran 174 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006).
Mae adran 174(1) yn dweud bod rhaid i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, dalu symiau i bob Bwrdd Iechyd Lleol sy’n gyfwerth â’u gwariant ar wasanaethau offthalmig cyffredinol (h.y. gwariant BILl i dalu i bobl sy'n darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol, yn amodol ar eithriadau penodol a nodir ym mharagraff 1(1)(b) o Atodlen 8 i NHSWA 2006), a symiau heb fod yn fwy na'r swm a glustnodwyd gan Weinidogion Cymru i'r Bwrdd Iechyd Lleol am y flwyddyn honno tuag at 'brif wariant' y Bwrdd Iechyd yn y flwyddyn honno.
Diffinnir prif wariant ym mharagraff 2 o Atodlen 8 mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol fel:
- gwariant y Bwrdd Iechyd Lleol a briodolir i ad-dalu treuliau pobl sy'n darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol yn y flwyddyn honno, sef treuliau dynodedig sy’n gysylltiedig â darparu'r gwasanaethau hynny,
- unrhyw wariant arall gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n gysylltiedig â chyflawni ei swyddogaethau yn y flwyddyn honno (heblaw gwariant ar wasanaethau offthalmig cyffredinol).
Wrth benderfynu ar y swm i’w ddyrannu mewn unrhyw flwyddyn, mae adran 174(2) NHSWA 2006 yn dweud y caiff Gweinidogion Cymru ystyried yn wariant gwasanaethau offthalmig cyffredinol gan y Bwrdd Iechyd Lleol a gwariant a fyddai wedi bod gwariant gwasanaethau offthalmig cyffredinol y Bwrdd Iechyd Lleol ond am orchymyn a wnaed o dan adran 180(2) i ddarparu ar gyfer trefniadau arbennig o ran talu ad-daliad, yn ystod unrhyw gyfnod a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.
Pan fydd Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad cychwynnol ar y swm i’w ddyrannu i Fwrdd Iechyd Lleol mewn unrhyw flwyddyn, gallant gynyddu neu leihau dyraniad a wnaed yn flaenorol.
Yn ôl adran 174(3), pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad cychwynnol ar y swm sydd i'w glustnodi ar gyfer unrhyw flwyddyn i Fwrdd Iechyd Lleol, efallai y byddant yn cynyddu’r swm hwnnw ymhellach os yw'n ymddangos iddynt dros gyfnod yr hysbyswyd y Bwrdd Iechyd Lleol amdano:
- ei fod yn bodloni unrhyw amcanion y cafodd ei hysbysu amdanynt fel amcanion i’w bodloni wrth gyflawni ei swyddogaethau, neu
- ei fod wedi perfformio’n dda yn erbyn unrhyw feini prawf a nodwyd fel rhai perthnasol i gyflawni’i swyddogaethau’n foddhaol (boed wedi’i hysbysu neu beidio ynglŷn â’r dull o fesur ei berfformiad yn erbyn y meini prawf hynny).
Wrth wneud unrhyw gynnydd o’r fath, mae adran 174(5) yn dweud y caiff Gweinidogion Cymru (boed trwy gyfarwyddiadau dan adran 174(10) neu fel arall) osod unrhyw amodau y maent yn eu hystyried yn briodol ar ddefnyddio neu gadw’r swm dan sylw gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
Mae adran 174(7) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cynyddu'r swm i’w ddyrannu ar gyfer unrhyw flwyddyn i Fwrdd Iechyd Lleol ac wedi hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol am y dyraniad, a’i bod yn ymddangos iddynt wedyn fod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi methu (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) â bodloni unrhyw amodau a bennwyd i wneud y cynnydd hwnnw. Mewn achosion o'r fath, gall Gweinidogion Cymru leihau’r dyraniad a wnaed i'r BILl am y flwyddyn honno, neu pan fydd Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad cychwynnol ar y swm i’w glustnodi ar gyfer unrhyw flwyddyn ddilynol i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yna gellir gostwng y swm hwnnw. Gellir lleihau’r symiau gan swm nad yw'n fwy na'r cynnydd cychwynnol yn y dyraniad.
Yn ôl adran 174(10), caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i Fwrdd Iechyd Lleol ar y defnydd o symiau a delir iddo o dan adran 174, neu dalu symiau ganddo iddynt mewn perthynas â thaliadau neu symiau eraill a briodolir i brisio neu werthu asedau.
Mae adran 174(11) yn dweud bod symiau sydd i'w talu i Fyrddau Iechyd Lleol yn daladwy yn amodol ar unrhyw amodau o ran cofnodion, tystysgrifau neu fel arall y gall Gweinidogion Cymru eu pennu.
Mae gan Weinidogion Cymru bŵer cyffredinol i roi cymorth ariannol dan adran 70 y Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n dweud y caiff Gweinidogion Cymru roi cymorth ariannol (boed ar ffurf grant, benthyciad neu warant) i unrhyw un sy'n gysylltiedig ag unrhyw weithgaredd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y bydd yn sicrhau, neu’n help i sicrhau, y cyflawnir unrhyw nod y bwriadant ei gyflawni wrth arfer unrhyw un o’u swyddogaethau.
Dyletswyddau ariannol Byrddau Iechyd Lleol
Mae adran 175 NHSWA 2006, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, yn gosod dyletswydd ariannol ar bob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl).
Dan adran 175(1) NHSWA 2006 mae'n rhaid i BILl gyflawni ei swyddogaethau er mwyn sicrhau nad yw eu gwariant (heb gynnwys eu gwariant ar wasanaethau offthalmig cyffredinol) yn fwy na chyfanswm:
- y swm a glustnodwyd ar gyfer y flwyddyn honno dan adran 174(1)(b),
- unrhyw symiau a dderbyniwyd yn y flwyddyn honno o dan unrhyw ddarpariaeth NHSWA 2006,
- unrhyw symiau a dderbyniwyd yn y flwyddyn honno ac eithrio dan NHSWA 2006 er mwyn eu galluogi i dalu unrhyw wariant o'r fath.
Mae adrannau 175(2) a (2A) yn cynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru gyfarwyddo BILl i baratoi cynlluniau sy'n nodi sut y byddant yn cydymffurfio â'u dyletswydd ariannol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd hefyd. Rhaid i gynlluniau o'r fath gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru a chael eu cymeradwyo ganddynt.
Mae adran 175(3) yn nodi'r ffactorau sy’n rhaid eu diystyru at ddibenion y ddyletswydd ariannol ac mae adran 175(4) yn darparu bod symiau sydd, yn nwylo Bwrdd Iechyd Lleol, yn peidio â bod yn gronfeydd ymddiriedolaeth ac yn dod yn rhai i’w defnyddio gan y Bwrdd Iechyd Lleol heblaw fel ymddiriedolwr yn cael eu trin, wrth iddynt gael eu defnyddio felly, fel pe bai wedi'i dderbyn gan y BILl ac eithrio fel ymddiriedolwr.
Mae adran 175(6) yn breinio pwerau gwneud cyfarwyddiadau yng Ngweinidogion Cymru i benderfynu a ddylai symiau neu wariant penodol gael eu trin fel rhai a dderbyniwyd neu a wariwyd gan BILl, at ddibenion y ddyletswydd ariannol dan adran 174(1). Gall y cyfarwyddiadau bennu hefyd pryd y dylid trin symiau a dderbynnir, ond sydd heb eu gwario, fel rhan o wariant pob BILl a hefyd i ba flwyddyn ariannol y dylid ei briodoli.
Yn olaf, mae adran 175(6A) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phob cyfnod cyfrifo tair blynedd, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gydymffurfiaeth pob BILl â'i dyletswyd ariannol.