Gwasanaethau offthalmig
Mae rhannau 4 i 7 o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y gwahanol wasanaethau iechyd sydd i’w darparu o dan y Ddeddf:
Rhan 4 – Gwasanaethau Meddygol (adrannau 41 – 55)
Rhan 5 – Gwasanaethau Deintyddol (adrannau 56 – 70)
Rhan 6 – Gwasanaethau Offthalmig (adrannau 71 – 79)
Rhan 7 – Gwasanaethau Fferyllol (adrannau 80 – 103)
Gwasanaethau offthalmig cyffredinol
Mae adran 71 o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn datgan bod rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl), yn unol â’r rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, drefnu gydag ymarferwyr meddygol sydd â chymwysterau penodedig a chyda optometryddion, i gynnal profion llygaid ar gyfer:
- plant
- unigolion yr ystyrir bod eu hadnoddau yn llai neu’n gyfwerth â gofynion yr unigolyn hwnnw o dan reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru
- unigolion o ddisgrifiad arall y gellir eu pennu gan y rheoliadau.
Mae’n rhaid i’r rheoliadau a wneir o dan adran 71 ddiffinio’r gwasanaethau y mae’n rhaid gwneud trefniadau ar eu cyfer, sef ‘gwasanaethau offthalmig cyffredinol’, a gallant:
- bennu sut y dylid cyfrif adnoddau a gofynion unigolyn at ddibenion penderfynu a yw BILl o dan ddyletswydd i drefnu profion llygaid i’r unigolyn hwnnw,
- disgrifio unigolion drwy gyfeirio at y meini prawf canlynol:
- oedran,
- y ffaith bod unigolyn neu gorff penodedig yn ei dderbyn fel rhywun sy’n dioddef o gyflwr meddygol penodedig,
- y ffaith bod unigolyn neu gorff penodedig yn derbyn bod cyflwr meddygol penodedig yr oeddynt yn dioddef ohono wedi codi mewn amgylchiadau penodedig,
- eu bod yn derbyn budd-dal mewn arian neu nwyddau o dan unrhyw ddeddfwriaeth, neu hawl i dderbyn budd-dal o’r fath,
- eu bod yn derbyn budd-dal gan unigolion eraill sy’n bodloni amodau penodedig, neu hawl i dderbyn budd-dal o’r fath.
Mae adran 206 o NHSWA 2006 yn diffinio optometrydd fel unigolyn sydd wedi’i gofrestru ar y gofrestr optometryddion sy’n cael ei chynnal o dan adran 7 o’r Ddeddf Optegwyr 1989, neu ar y gofrestr o optometryddion ymweld o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol o dan adran 8B(1) o’r Ddeddf honno, neu gorfforaeth sydd wedi’i chofrestru ar gofrestr corfforaethau sy’n cael ei chadw o dan adran 9 o’r Ddeddf honno ac sy’n cyflawni gwaith fel optometrydd. Mae adran 206 NHSWA 2006 ac adran 5 o, ac Atodlen 1 i'r, Deddf Dehongli 1978 yn diffinio ‘ymarferydd meddygol’ fel unigolyn sydd wedi cofrestru’n llawn o fewn ystyr y Ddeddf Feddygol 1983 ac sydd â thrwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno.
Mae adrannau 72 i 74 o NHSWA 2006 yn gwneud darpariaeth bellach am yr hyn y gellir ei gynnwys mewn unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru wrth ddefnyddio eu pŵer o dan adran 71.
Mae adran 72 yn datgan y gall rheoliadau Gweinidogion Cymru ddarparu ar gyfer gwneud trefniadau o dan adran 71 ac y dylent gynnwys darpariaeth:
- i bob BILl baratoi a chyhoeddi rhestr o ymarferwyr meddygol a rhestr o optometryddion sy’n barod i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol i unigolion yn ardal y BILl. Gelwir y rhestr hon yn ‘rhestr offthalmig’, a dim ond enwau optegwyr ac ymarferwyr meddygol sydd â’r cymwysterau gofynnol ddylid eu cynnwys arni. Mae rhestri perfformwyr ategol yn bodoli ar gyfer unigolion eraill sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol (gweler isod),
- i gyflwyno hawl i gynnwys unrhyw ymarferydd meddygol sydd â’r cymwysterau gofynnol, ac unrhyw optometrydd, sy’n dymuno cael ei gynnwys ar y rhestr offthalmig,
- i gyflwyno hawl i unigolion ddewis pa ymarferydd meddygol neu optometrydd fydd yn profi ei olwg, neu gan bwy y byddant yn cael unrhyw bresgripsiwn i gyflenwi offer optegol
- i dynnu enw unigolyn nad yw erioed wedi darparu, neu sydd wedi rhoi’r gorau i ddarparu, gwasanaethau offthalmig cyffredinol i unigolion yn yr ardal honno, oddi ar y rhestr offthalmig.
Mae adran 72(3) yn datgan y gall y rheoliadau, yn arbennig, ddarparu ar gyfer y canlynol:
- y rhesymau pam y gallai neu pam y dylai BILl wrthod cynnwys ymarferydd meddygol neu optometrydd ar restr offthalmig,
- gwybodaeth sy’n rhaid ei darparu i BILl gan unigolyn sydd wedi’i gynnwys neu sydd am gael ei gynnwys ar y rhestr offthalmig,
- cyflwyno tystysgrifau perthnasol, yn cynnwys tystysgrifau cofnodion troseddol i’r BILl gan unigolyn sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr, neu sydd am gael ei gynnwys ar y rhestr, neu unigolyn sy’n gyfarwyddwr corfforaeth sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr neu am gael ei gynnwys ar y gofrestr,
- ar ba sail y caiff BILl ohirio penderfyniad p'un ai i gynnwys person yn y rhestr offthalmig ai peidio,
- y BILl yn datgelu gwybodaeth am ymgeiswyr i unigolion penodedig, a’r rhesymau dros eu gwrthod,
- meini prawf i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau o dan y rheoliadau. Os yw BILl yn gwrthod cynnwys unigolyn ar restr offthalmig, mae’n rhaid i’r rheoliadau ddarparu ar gyfer apêl i’r tribiwnlys Haen gyntaf.
Cyn llunio rheoliadau o dan adran 71 o NHSWA 2006, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â sefydliadau priodol yr ystyriant eu bod yn cynrychioli unigolion sy’n darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.
Mae adran 104 o NHSWA 2006 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch rhestri offthalmig (a fferyllol). Mae’n darparu y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu:
- bod unigolyn sydd wedi’i gynnwys ar restr offthalmig yn gorfod cydymffurfio ag amodau a bennir gan y BILl,
- bod y BILl yn gallu amrywio telerau gwasanaeth yr unigolyn hwnnw mewn cysylltiad â gorfodi amodau o’r fath,
- bod y BILl yn gallu amrywio’r amodau neu osod rhai gwahanol,
- ar gyfer canlyniadau methu â chydymffurfio ag amod (yn cynnwys tynnu oddi ar y rhestr), ac
- i’r BILl adolygu unrhyw benderfyniad a wneir drwy rinwedd y rheoliadau.
Os yw rheoliadau’n darparu ar gyfer yr uchod, mae’n rhaid i’r rheoliadau ddarparu hefyd ar gyfer apêl gan yr ymarferydd i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad y BILl:
- i osod amodau,
- i amrywio amodau,
- i amrywio telerau gwasanaeth,
- ynghylch unrhyw adolygiad cynharach o benderfyniad o’r fath gan y BILl,
- i ddileu’r ymarferydd hwnnw o’r rhestr am dorri amod.
Os yw’r rheoliadau’n darparu ar gyfer dileu ymarferydd o’r rhestr, gall y rheoliadau ddarparu na fydd enw’r ymarferydd yn cael ei ddileu o’r rhestr tra y bydd y BILl yn cynnal ymchwiliad, a bod rhaid darparu’r canlynol i’r ymarferydd:
- hysbysiad o unrhyw gyhuddiad yn ei erbyn,
- y cyfle i gyflwyno ei achos gerbron y BILl mewn gwrandawiad, a
- hysbysiad o benderfyniad y BILl a’r rhesymau drosto a hawl i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
Mae Rheoliad 7D o'r Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol)1986 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnwys ymarferydd yn amodol ar y rhestr offthalmig ac yn cael yr un effaith â phe bai wedi’i wneud o dan adran 104 NHSWA 2006.
Mae adran 73 o NHSWA 2006 yn darparu bod pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 71 i bennu’r cymhwyster sy’n ofynnol gan unrhyw ymarferydd meddygol yn cynnwys pŵer i:
- bennu gofyniad bod rhaid i’r ymarferydd ddangos er boddhad pwyllgor a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru ei fod yn meddu ar gymwysterau o’r fath, yn cynnwys profiad, fel y crybwyllir yn y rheoliadau
- rhoi hawl i unigolyn sy’n anfodlon gyda phenderfyniad pwyllgor o’r fath i apelio i bwyllgor a benodir gan Weinidogion Cymru.
Mae adran 74 o NHSWA 2006 yn datgan y gall rheoliadau ddarparu, pan fo rheoliadau’n rhoi hawl i unigolyn ddewis gan bwy y bydd yn derbyn gwasanaethau offthalmig cyffredinol, bod rhaid i’r hawl honno gael ei harfer ar ei ran yn achos unigolion penodedig.
Mae’r Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 yn gwneud darpariaeth am y trefniadau ar gyfer gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn cael yr un effaith â phe baent wedi’u gwneud o dan adran 71 NHSWA 2006.
Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth am faterion fel:
- cymwysterau ymarferwyr meddygol offthalmig (rheoliad 3),
- cymeradwyo cymwysterau ymarferwyr meddygol offthalmig (rheoliad 4),
- y rhestr offthalmig (rheoliad 6),
- cais i fod yn aelod o’r rhestr offthalmig, rhesymau dros wrthod a hawl i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (rheoliadau 7A-7C),
- amodau ar gyfer cynnwys (rheoliad 7D),
- tynnu enw oddi ar y rhestr offthalmig (rheoliad 8),
- dileu o’r rhestr offthalmig (rheoliad 9 – 9E),
- penderfynu ar ffioedd i’w talu i ddarparwyr gwasanaethau offthalmig cyffredinol – ‘y Datganiad’ (gweler ymhellach isod) (rheoliad 10),
- telerau darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol (rheoliad 11 ac Atodlen 11),
- talu am wasanaethau yn unol â’r Datganiad (rheoliadau 12 a 12A) (gweler ymhellach isod),
- cymhwysedd ar gyfer profion llygaid (rheoliad 13).
Darpariaeth annigonol o wasanaethau offthalmig
Mae adran 75 o’r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn berthnasol pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl cynnal ymchwiliad fel yr ystyriant yn briodol, nad oes digon o enwau wedi’u cynnwys ar restr offthalmig mewn ardal neu ran o ardal BILl i allu darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol digonol, neu am unrhyw reswm arall nid yw nifer sylweddol o unigolion yn yr ardal yn derbyn gwasanaethau boddhaol. Mewn achosion o’r fath, gall Gweinidogion Cymru awdurdodi’r BILl i wneud trefniadau eraill y gall Gweinidogion Cymru eu cymeradwyo, neu wneud trefniadau eu hunain i ddarparu gwasanaethau digonol. Gall Gweinidogion Cymru hepgor unrhyw un o ofynion y rheoliadau a wnaed o dan Rannau 6 ac 8 NHSWA 2006 hefyd i fodloni amgylchiadau eithriadol ac er mwyn gwneud y trefniadau.
Cydnabyddiaeth ariannol i unigolion sy’n darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol
Mae adran 76 NHSWA 2006 yn datgan y dylai’r gydnabyddiaeth ariannol sydd i’w dalu i unigolion sy’n derbyn gwasanaethau offthalmig cyffredinol gael ei bennu gan Weinidogion Cymru, neu cyn belled ag y maent wedi’u hawdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru drwy gyfrwng ‘offeryn penodi’, gan BILl neu unrhyw unigolyn arall.
Mae adran 76(6) yn datgan y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau am bennu cydnabyddiaeth ariannol i ddarparwyr gwasanaethau offthalmig cyffredinol. Mae Adran 76(7) yn datgan y gall y rheoliadau nodi bodd modd gwneud penderfyniadau drwy gyfeirio at:
- gyfraddau neu amodau cydnabyddiaeth ariannol sefydlog neu a benderfynwyd, ac eithrio drwy benderfyniad o dan adran 76 NHSWA 2006,
- graddfeydd, mynegeion neu ddata arall o unrhyw ddisgrifiad a nodir yn y rheoliadau.
Mae adran 76(9) yn datgan y gall y rheoliadau ddarparu bod modd i’r awdurdodau penderfynu wneud penderfyniadau sy’n cael effaith mewn perthynas â chyfnod sy’n dechrau cyn dyddiad y penderfyniad, ond y gallant ond gwneud hynny os nad yw’n andwyol i gydnabyddiaeth ariannol yr unigolion y mae’n berthnasol iddynt, o ystyried y penderfyniad yn ei gyfanrwydd.
Mae adran 77 NHSWA 2006 yn datgan bod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â chorff yr ystyriant sy’n cynrychioli unigolion y byddai’r penderfyniad yn effeithio ar eu cydnabyddiaeth ariannol, ac ymgynghori ag unigolion eraill y maent yn eu hystyried yn briodol cyn mynd ati i bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol sy’n berthnasol i’r holl unigolion sy’n darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol. Gall penderfyniadau wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, gan gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer unrhyw achos penodol, dosbarth o achos neu faes.
Mae adran 77(6) yn datgan y gall cydnabyddiaeth ariannol gael ei phennu o bryd i’w gilydd a chynnwys taliadau ar ffurf cyflog, ffioedd, lwfansau ac ad-daliadau. Mae Adran 77(10) yn darparu ar gyfer rhai o’r ffactorau perthnasol y bydd gofyn i’r awdurdod penderfynu eu hystyried, yn cynnwys:
- y swm neu’r swm amcangyfrifedig o dreuliau a wariwyd yn y gorffennol neu sy’n debygol o gael eu gwario yn y dyfodol mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol,
- y swm neu’r swm amcangyfrifedig o unrhyw gydnabyddiaeth ariannol a dalwyd neu sy’n debygol o gael ei thalu i unigolion sy’n darparu gwasanaethau o’r fath,
- y swm neu’r swm amcangyfrifedig o unrhyw daliadau neu ad-daliadau neu fudd-daliadau eraill a dderbyniwyd neu sy’n debygol o gael eu derbyn gan unigolion o’r fath,
- i ba raddau y dylid annog darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol, naill ai’n gyffredinol neu mewn mannau penodol,
- y dymuniad i hyrwyddo gwasanaethau offthalmig cyffredinol sy’n ddarbodus, effeithlon ac o safon briodol.
Mae Rheoliadau 10, 12 a 12A o’r Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu darparwyr gwasanaethau offthalmig. Mae’r Rheoliadau yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud o dan adran 76 NHSWA 2006.
Mae Rheoliad 10 yn datgan y dylai Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â sefydliadau sy’n ymddangos fel eu bod yn cynrychioli contractwyr sy’n darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol, wneud darpariaeth mewn penderfyniad, a elwir yn ‘Ddatganiad’ ynghylch:
- y ffioedd i’w talu gan BILl am brofi llygaid gan ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr, a’r
- lwfansau i’w talu mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant parhaus.
Mae’n rhaid cyhoeddi’r Datganiad, a gellir ei ddiwygio ar ôl ymgynghori â sefydliadau sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru fel pe baent yn cynrychioli contractwyr sy’n darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.
Mae Rheoliad 12 yn datgan y bydd BILl yn gwneud taliadau i gontractwyr yn unol â’r Datganiad, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer adennill gordaliad. Mae Rheoliad 12A yn datgan y bydd BILl yn gwneud taliadau i unrhyw ymarferydd meddygol offthalmig sydd wedi’i atal dros dro neu optegydd sydd wedi’i atal dros dro yn unol â’r penderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru ynghylch taliadau o’r fath. Mae Rheoliad 12A(3)-(5) yn darparu ar gyfer y gofynion i wneud penderfyniad ynghylch ymarferwyr sydd wedi’u hatal dros dro.
O ran y Datganiad cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr (heb fod wedi’u hatal dros dro), mae Gweinidogion Cymru wedi llunio’r Datganiad Cydnabyddiaeth Ariannol am Wasanaethau Cyffredinol.
Mae'r Datganiad yn darparu'r ffi sy'n daladwy i gontractwr am brawf golwg y GIG a'r ffi ychwanegol ar gyfer ymweliad cartref y GIG. Mae'r Datganiad hefyd yn nodi uchafswm y lwfans y gellir ei hawlio ar gyfer hyfforddiant addysg parhaus hefyd.
Mae'r ffioedd a'r lwfansau sy'n daladwy o dan y Datganiad yn newid o bryd i'w gilydd. Mae'r fersiwn ddiweddaraf gyda'r ffioedd diweddaraf sy'n daladwy i gontractwr ar gael o dan y tab deddfwriaeth ar wefan gofal llygaid GIG Cymru.
O ran penderfyniadau ar ymarferwyr sydd wedi’u hatal dros dro, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Dyfarniad ynghylch Taliadau i Ymarferwyr a Ataliwyd Dros Dro rhag darparu Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol wrth ddefnyddio eu pŵer o dan adran 12A o’r Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986. Mae'r fersiwn ddiweddaraf ar gael o dan dab deddfwriaeth ar wefan gofal llygaid GIG Cymru.
Ymhlith pethau eraill, mae’r Penderfyniad ynghylch ymarferwyr sydd wedi’u hatal dros dro yn datgan y bydd y BILl yn talu swm teg a rhesymol i’r ymarferydd am bob mis y bydd wedi’i atal, gan ystyried yn arbennig gyfartaledd y gydnabyddiaeth ariannol fisol a dalwyd i’r ymarferydd cyn iddo gael ei atal dros dro.
Mae’r Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 yn gwneud darpariaeth bellach am daliadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol i ymarferwyr. Mae’r rheoliadau hyn yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud, yn rhannol, o dan adran 76 NHSWA 2006. Er enghraifft, mae Rheoliad 5 y Rheoliadau yn galluogi’r BILl i wneud taliad i’r profwr llygaid sy’n gyfwerth â gwerth ad-dalu taleb prawf llygaid. Mae mwyafrif darpariaethau’r rheoliadau hyn yn ymwneud â thaliadau a delir gan gleifion am brofion llygaid ac ati, yn hytrach na thaliadau a wneir i’r ymarferwyr.
Pwyllgorau Optegol lleol
Mae adran 78 NHSWA 2006 yn datgan y gall BILl gydnabod pwyllgor a ffurfiwyd ar gyfer ei ardal, ac un sy’n cynnwys un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol eraill, os yw’n fodlon ei fod yn cynrychioli’r optometryddion sy’n darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol yn yr ardal honno. Gelwir y pwyllgor cydnabyddedig yn Bwyllgor Optegol Lleol ar gyfer yr ardal.
Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i BILl ymgynghori ag unrhyw bwyllgor a gydnabyddir ganddo ar adegau o’r fath ac i’r graddau y gellir eu pennu, ac mae gan bwyllgor swyddogaethau eraill o’r fath fel y gellir eu pennu gan Weinidogion Cymru. Nid yw Gweinidogion Cymru wedi defnyddio eu pŵer i wneud rheoliadau yn y cyswllt hwn.
Rhestri atodol
Mae Rhan 8 o NHSWA 2006 yn gwneud darpariaeth bellach am gymhwysedd i ymarfer. Mae Adran 105 yn datgan y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i bob BILl baratoi a chyhoeddi un rhestr neu fwy o unigolion sydd wedi’u cymeradwyo gan y BILl ar gyfer helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau fferyllol. Gelwir rhestr o’r fath yn ‘rhestr atodol’. Dylid gwahaniaethu rhwng y rhestr hon a’r rhestr offthalmig, gan fod rhestr atodol yn ymwneud ag unigolion sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau (h.y. nid yn brif weithwyr yn y cyswllt hwnnw).
Gall rheoliadau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â rhestri atodol yn arbennig wneud darpariaeth ar gyfer y materion a restrwyd yn adran 105(3) a (4). Mae yna bŵer i wneud darpariaeth ar gyfer:
- y BILl y dylid cyflwyno cais iddo ar gyfer cynnwys rhywun ar restr atodol,
- y weithdrefn ar gyfer gwneud cais,
- y rhesymau lle y gall neu lle mae’n rhaid i BILl wrthod cais unigolyn,
- gofynion y mae’n rhaid i unigolyn ar restr atodol gydymffurfio â nhw,
- y rhesymau lle y gall neu lle mae’n rhaid i BILl atal unigolyn o restr atodol dros dro neu ei ddileu o’r rhestr, y gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny, a’r canlyniadau,
- taliadau i unigolion sydd wedi’u hatal dros dro o restr atodol,
- ymgeisydd yn cyflwyno tystysgrif o gollfarn droseddol a/neu dystysgrif cofnod troseddol manwl i’r BILl,
- yr amgylchiadau lle na all unigolyn dynnu ei enw oddi ar y rhestr atodol,
- y meini prawf i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau o dan y rheoliadau,
- apeliadau yn erbyn penderfyniadau Byrddau Iechyd Lleol,
- y BILl i ddatgelu i unigolion penodedig o ddisgrifiad penodedig, gwybodaeth am ddisgrifiad penodedig am ymgeiswyr i’w cynnwys ar y rhestr atodol.
Gall y rheoliadau ddarparu ar gyfer y canlynol hefyd:
- amodau a bennir gan BILl ar gyfer cynnwys unigolyn ar restr atodol,
- pŵer y BILl i amrywio’r amodau,
- canlyniad methu â chydymffurfio ag amod, ac
- adolygiad y BILl o’i benderfyniadau.
Os yw’r rheoliadau’n datgan y gall BILl atal unigolyn dros dro o restr atodol neu ddileu’r unigolyn o’r rhestr, mae’n rhaid iddynt gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i BILl roi’r canlynol i’r unigolyn:
- hysbysiad o unrhyw gyhuddiad yn ei erbyn,
- y cyfle i gyflwyno ei achos gerbron y BILl mewn gwrandawiad, a
- hysbysiad o benderfyniad y BILl a’r rhesymau drosto a’r hawl i apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf.
Yn olaf, mae adran 106 yn datgan y gall rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 105 ei gwneud hi’n ofynnol i unigolyn, ‘A’, sydd wedi’i gynnwys ar restr offthalmig (neu restr fferyllol) beidio â chyflogi neu gael unigolyn arall, ‘B’, i’w helpu i ddarparu’r gwasanaeth y mae’r rhestr yn ymwneud ag ef oni bai fod yr unigolyn hwnnw wedi’i gynnwys ar restr, yn cynnwys:
- rhestr offthalmig neu fferyllol,
- rhestr atodol,
- rhestr feddygol neu ddeintyddol.
Os yw rheoliadau’n cael eu gwneud i’r perwyl hwnnw, nid oes rhaid iddynt ei gwneud hi’n ofynnol i unigolion A a B fod yn aelodau o’r rhestr a baratowyd gan yr un BILl, ond gallant ei gwneud hi’n ofynnol i A a B fod yn aelodau o restri a baratowyd gan BILl. Y bwriad yn yr achos hwn yw helpu’r rhai sy’n gweithio ar draws ffiniau BILl drwy ei gwneud hi’n ofynnol iddynt ymuno ag un, yn hytrach na sawl, rhestr atodol.
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006 yn cael yr un effaith â phetaent wedi’u gwneud yn rhannol gan ddefnyddio pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 105 NHSWA 2006.
Mae Rheoliad 3 o’r Rheoliadau’n datgan bod rhaid i bob BILl baratoi a chyhoeddi rhestr atodol, ac yn datgan na all unrhyw ymarferwyr meddygol offthalmig nac optegwyr gynorthwyo i gyflawni gwasanaethau Offthalmig cyffredinol oni bai eu bod wedi’u cynnwys ar restr o’r fath neu ar restr Offthalmig.