Iechyd a gwasanaethau iechyd - beth sydd wedi ei ddatganoli?
Mae gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol i wneud cyfreithiau (“Deddfau”) mewn perthynas ag iechyd a gwasanaethau iechyd.
Mae cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn hyn o beth wedi'i gyfyngu gan yr amheuon canlynol yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—
- Erthylu.
- Geneteg ddynol, ffrwythloniad dynol, embryoleg ddynol, trefniadau benthyg croth.
- Senotrawsblaniad.
- Rheoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol (gan gynnwys pobl sy’n darparu teclynnau clyw).
- Gwenwynau.
- Camddefnyddio a gwerthu cyffuriau.
- Meddyginiaethau dynol a chynhyrchion meddygol, gan gynnwys awdurdodi eu defnydd a rheoleiddio prisiau.
- Safonau ar gyfer sylweddau biolegol a’u profi (hynny yw, sylweddau na ellir profi eu purdeb neu eu nerth yn ddigonol drwy ddulliau cemegol).
- Taliadau niwed trwy frechiad.
- Bwydydd lles.
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Gwasanaeth Cynghori Meddygol Cyflogaeth a darpariaethau a wneir gan reoliadau iechyd a diogelwch.
- Pwnc Rhan 1 o'r Adran Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati. Ddeddf 1974.
- Diogelu'r cyhoedd rhag ymbelydredd.
Mae Senedd y DU wedi cadw ei bŵer i allu pasio cyfreithiau ar gyfer Cymru sy’n ymwneud ag iechyd a gwasanaethau iechyd, ac wedi gwneud hynny ers i’r Senedd ennill ei gymhwysedd deddfwriaethol cyfredol ym mis Mai 2011 (gweler, er er enghraifft, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012), cydnabyddir na fydd Seneddy DU fel rheol yn deddfu mewn perthynas â materion datganoledig heb gydsyniad y Senedd.
Mesurau’r Cynulliad Cenedlaethol
Rhwng 2007 a 2011, gallai’r (ar y pryd) Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu drwy Fesur Cynulliad ar y ‘materion’ a restrir yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodreath Cymru 2006. Gwnaed llawer o Fesurau sy’n ymwneud ag iechyd a gwasanaethau iechyd drwy Ddeddf Cynulliad (neu Ddeddf Senedd) ac maent yn parhau mewn grym. Mae eu heffaith gyfreithiol yr un fath â phe baent wedi’u gwneud trwy gyfrwng Deddf Seneddol neu Ddeddf Senedd y DU.
Darllen deddfwriaeth cyn 2007
Dylid bod yn ofalus wrth ddarllen a chymhwyso statudau sy’n gysylltiedig ag iechyd a ddeddfwyd cyn mis Mai 2007 ond sy’n parhau mewn grym ac sy’n gymwys mewn perthynas â Chymru.
Ar y cyfan, dylid darllen cyfeiriadau at swyddogaethau’r ‘Ysgrifennydd Gwladol’ mewn statudau cyn 1 Gorffennaf 1999 sy’n ymwneud ag iechyd yng Nghymru fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru. Mae hyn oherwydd fod y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 wedi trosglwyddo’r rhan fwyaf, ond nid pob un, o swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol cyn 1999 mewn perthynas â Chymru i (ar y pryd) Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a throsglwyddwyd y swyddogaethau hynny ymhellach gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i Weinidogion Cymru.
Yn yr un modd, dylid darllen cyfeiriadau mewn statudau a ddeddfwyd rhwng mis Gorffennaf 1999 a mis Mai 2007 at swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru. Eto, mae hyn yn rhinwedd trosglwyddo swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 Atodlen 11 y Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Deddfwriaeth sylfaenol
Mae’r rhan fwyaf o ddarpariaethau allweddol y gyfraith sy’n ymwneud ag iechyd a gwasanaethau iechyd yng Nghymru mewn deddfwriaeth sylfaenol ('statudau') a wneir naill ai gan Senedd y DU neu Senedd Cymru.
Mae’r statudau o dan 'ddeddwriaeth allweddol' a nodir gyda sêr yn Fesurau a Deddfau Senedd Cymru ac yn gymwys i Gymru yn unig. Mae’r gweddill yn Ddeddfau Senedd y DU a gall eu darpariaethau ymestyn i’r DU gyfan, i Gymru, Lloegr a’r Alban, i Gymru a Lloegr, neu i Gymru yn unig.
Nid yw'r ffaith bod Deddf wedi'i chynnwys yn y rhestr o ddeddfwriaeth allweddol o reidrwydd yn golygu bod ei phwnc yn dod o fewn maes a ddatganolwyd i Gymru. Bwriad y rhestr yw dangos ymhle y mae elfennau craidd y gyfraith sy’n ymwneud ag iechyd yng Nghymru i’w gweld, waeth a ydynt yn ymwneud â phwnc sydd wedi’i ddatganoli i Senedd Cymru ai peidio.
Is-ddeddfwriaeth
Yn ogystal â’r ddeddfwriaeth sylfaenol y cyfeirir ati uchod, mae darpariaethau deddfwriaethol ar iechyd a gwasanaethau iechyd yng Nghymru wedi’u cynnwys mewn Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor a llawer iawn o is-deddfwriaethau.
Mae’r is-ddeddfwriaeth wedi’i gwneud gan ymarfer pŵer gweithredol awdurdod - yr Ysgrifennydd Gwladol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Weinidogion Cymru - dan y ddeddfwriaeth sylfaenol a restrir uchod a gall fod ar ffurf gorchmynion, rheoliadau, cynlluniau a chodau. Mae’r is-ddeddfwriaeth hon yn darparu manylion pellach ar gyfundrefnau, gofynion a swyddogaethau a bennir gan y ddeddfwriaeth sylfaenol.
Cyn datganoli pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, roedd is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Lywodraeth y DU a oedd yn gwneud darpariaethau mewn perthynas ag iechyd yng Nghymru a Lloegr wedi’i gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a oedd yn gweithredu ar ei ben ei hun neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gweithredu gyda’i gilydd. Yn y naill achos a’r llall, byddai’r ddeddfwriaeth yn ymestyn ac yn gymwys i Gymru a Lloegr yn eu cyfanrwydd.
Lle’r oedd pwnc yr is-ddeddfwriaeth yn effeithio ar iechyd neu wasanaethau iechyd yng Nghymru yn unig, byddai’r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gweithredu ar ei ben ei hun. Mae rhai o’r offerynnau cyn datganoli hyn – a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru – yn parhau mewn grym.
Trosglwyddwyd y rhan fwyaf, ond nid pob un, o swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag iechyd yng Nghymru i (ar y pryd) Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999 (drwy Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999). Felly, trosglwyddwyd nifer sylweddol o bwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud is-ddeddfwriaeth dan ddeddfwriaeth sylfaenol cyn 1999 a restrir uchod i’r Cynulliad Cenedlaethol, er bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi parhau i ymarfer swyddogaethau iechyd mewn perthynas â Chymru mewn meysydd pwysig (er enghraifft trwyddedu cynhyrchion meddygol a rheoli eu defnydd dan y Ddeddf Meddyginiaethau 1968 a’r pwerau dan y Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 sydd wedi’i disodli bellach mewn perthynas â senotrawsblaniad neu eneteg ddynol).
Ymarferodd y Cynulliad Cenedlaethol y pwerau gweithredol sy’n ymwneud ag iechyd a drosglwyddwyd iddo ar 25 Mai 2007 pan drosglwyddwyd ei bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ymhellach i Weinidogion Cymru wrth i’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddod i rym.
Trosglwyddwyd mwy o swyddogaethau yn ddiweddar gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 mewn perthynas ag adran 13 o Ddeddf Iechyd 2006 (sy'n ymwneud â phŵer i ddiwygio oedran gwerthu tybaco) ac adran 251 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (rheoli gwybodaeth am gleifion).
Cyfraith achos a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
Mae penderfyniadau llysoedd domestig yn ffynhonnell bwysig o gyfraith mewn perthynas â dehongli’r darpariaethau deddfwriaethol niferus sy’n gysylltiedig ag iechyd. Mae corff cynyddol hefyd o gyfraith achos Llys Hawliau Dynol Ewrop sy’n berthnasol i iechyd a gwasanaethau iechyd, lle mae’r llys wedi penderfynu, er enghraifft, a oedd darpariaethau cenedlaethol penodol ar statws y ffoetws ac erthylu yn cydymffurfio ag Erthygl 2 ECHR (‘right to life’), a oedd polisïau cenedlaethol ar ddyrannu adnoddau gofal iechyd yn cydymffurfio ag Erthygl 2, a oedd arferion cenedlaethol penodol yng nghyd-destun iechyd meddwl yn cydymffurfio ag Erthygl 5 ECHR (‘right to liberty and security of the person’), ac a oedd cyfreithiau cenedlaethol penodol ar hawliau atgenhedlu yn cydymffurfio ag Erthygl 8 ECHR (‘right to privacy’).
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
Mae Aelod-Wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd yn cadw cyfrifoldeb am bolisi iechyd a threfnu, darparu a chyflenwi gofal iechyd. Fodd bynnag, mae gan yr UE swyddogaeth bwysig yn y meysydd hynny o bolisi iechyd a gwasanaethau iechyd lle mae’n ystyried na all yr Aelod-Wladwriaethau weithredu ar eu pen eu hunain yn effeithiol a lle ystyrir bod angen cydweithredu at lefel yr UE. Mae’r rhain yn cynnwys bygythiadau iechyd sylweddol a materion gydag effaith drawsffiniol neu ryngwladol, fel pandemigau. Mae darpariaethau cyfraith yr UE ar symud nwyddau, gwasanaethau a phobl yn rhydd hefyd yn berthnasol ac wedi’i gwneud yn ofynnol i Aelod-Wladwriaethau, er enghraifft, gydnabod cymwysterau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ei gilydd (yn rhinwedd Cyfarwyddeb 2005/35 CE).
Mae cyfraith yr UE yn gwneud darpariaeth benodol hefyd ar gyfer materion sy’n gysylltiedig ag iechyd. Er enghraifft, mae cyfreithiau a safonau ledled yr UE ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau iechyd (e.e. meddyginiaethau, dyfeisiau meddygol) a chleifion (e.e. diogelwch a gwasanaethau iechyd trawsffiniol), cyflwyno deddfwriaeth ar gynhyrchion, hysbysebu a nawdd ar gyfer tybaco, a darparu’r hawliau i gleifion gael eu trin mewn Aelod-Wladwriaethau eraill.