Cynnwys y cyhoedd a chraffu
Mae Rhan 12 o’r Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chynnwys y cyhoedd a chraffu. Ceir crynodeb o’r darpariaethau isod. Gweler hefyd y dudalen ‘cwynion’.
Cynghorau Iechyd Cymuned
Mae adran 182 NHSWA 2006 yn darparu bod Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlwyd ar gyfer Cymru yn parhau mewn bodolaeth. Cawsant eu sefydlu gan adran 9 y Ddeddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 a dod i rym ledled Cymru a Lloegr ym 1974 i gynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd yn y GIG, yn annibynnol a diduedd. Cafodd cynghorau iechyd cymuned eu diddymu yn Lloegr yn 2003, ond maen nhw’n dal ar waith yng Nghymru.
Mae adran 182(2) yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud deddfwriaeth eilaidd, i newid enw cyngor iechyd cymuned, amrywio ei ardal, diddymu neu sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned newydd.
Mae adran 182(3) yn dweud bod rhaid i Weinidogion Cymru weithredu i sicrhau bod yr ardaloedd lle sefydlir cynghorau iechyd cymuned yn cwmpasu Cymru gyfan gyda’i gilydd.
Mae Atodlen 10 i NHSWA 2006 yn gwneud darpariaethau pellach am Gynghorau Iechyd Cymuned. Mae paragraff 1 yn dweud bod rhaid i Gyngor Iechyd Cymuned gynrychioli buddiannau’r cyhoedd yn ei ardal yn y gwasanaeth iechyd, a chyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a roddir iddo gan y rheoliadau.
Dywed Paragraff 2 o Atodlen 10 y gall Gweinidogion Cymru greu rheoliadau ynghylch:
- aelodaeth Cynghorau Iechyd Cymuned,
- trafodion Cynghorau Iechyd Cymuned,
- staff, adeiladau a threuliau Cynghorau Iechyd Cymuned,
- cyflawni swyddogaeth Cyngor Iechyd Cymuned gan bwyllgor neu gydbwyllgor y cyngor hwnnw,
- penodi pobl nad ydynt yn aelodau o’r cynghorau Iechyd Cymuned yn aelodau o bwyllgor neu gydbwyllgor,
- Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yn ymgynghori â Chynghorau Iechyd Cymuned ar faterion y gellir eu pennu,
- ystyried materion gan Gynghorau Iechyd Cymuned sy’n ymwneud â rhedeg y gwasanaeth iechyd yn eu hardal, a chyngor gan gynghorau iechyd cymuned i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG ar faterion o’r fath,
- paratoi a chyhoeddi adroddiadau gan Gynghorau Iechyd Cymuned,
- materion i’w cynnwys yn yr adroddiadau hynny,
- cyflenwi a chyhoeddi sylwadau gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG ar adroddiadau Cynghorau Iechyd Cymuned,
- darparu gwybodaeth gan Gynghorau Iechyd Cymuned i bobl eraill,
- darparu gwasanaethau eirioli annibynnol gan Gynghorau Iechyd Cymuned,
- swyddogaethau i’w harfer gan Gynghorau Iechyd Cymuned yn ychwanegol at rai y gellir eu harfer ac eithrio yn rhinwedd Atodlen 10.
Dywed Paragraff 4 y gall Gweinidogion Cymru, trwy reoliadau, ddarparu ar gyfer sefydlu corff i gynghori Cynghorau Iechyd Cymuned ar berfformiad eu swyddogaethau, er mwyn helpu Cynghorau Iechyd Cymuned i gyflawni eu swyddogaethau a chyflawni swyddogaethau eraill y gellir eu pennu, a darparu ar gyfer aelodaeth, trafodion, staff, adeiladau a threuliau’r corff hwnnw.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010 wrth arfer eu pwerau dan adran 182, ac Atodlen 10 i, NHSWA 2006. Roedd y Gorchymyn yn sefydlu chwe Chyngor Iechyd Cymuned newydd, yn parhau â dau Gyngor Iechyd Cymuned a oedd eisoes ar waith yn ardal awdurdod lleol Powys, ac yn diddymu 17 o Gynghorau Iechyd Cymuned.
Cafodd Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010 (CHCR 2010) eu gwneud yn rhannol wrth arfer pwerau Gweinidogion Cymru dan baragraffau 2 i 4 Atod len 10 i NHSWA 2006. Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno swyddogaethau manwl y Cynghorau Iechyd Cymuned ac yn sefydlu Bwrdd Cyngor Iechyd Cymuned fel corff i gynghori’r cynghorau hyn ar gyflawni eu swyddogaethau, ac er mwyn helpu cynghorau iechyd cymuned i gyflawni eu swyddogaethau.
Mae Rhan 2 o CHCR 2010 yn darparu ar gyfer sefydlu ac aelodaeth y Cynghorau Iechyd Cymuned, gan gynnwys hyd y cyfnod yn y swydd, penodi aelodau gan awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a Gweinidogion Cymru, gweithdrefnau penodi, atal, ymddiswyddo ac anghymwyso.
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaethau am drafodion Cynghorau Iechyd Cymuned, a Rhan 4 yn gwneud darpariaeth am gyflawni swyddogaethau Cynghorau Iechyd Cymuned, gan gynnwys, dan reoliad 27(1), bod dyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru i gynnwys Cyngor Iechyd Cymuned wrth gynllunio darpariaeth gwasanaethau iechyd, datblygu ac ystyried cynigion i newid y modd mae’r gwasanaethau hynny’n cael eu darparu, ac ym mhenderfyniadau’r Byrddau Iechyd Lleol/Ymddiriedolaethau’r GIG sy’n effeithio ar weithredu’r gwasanaethau iechyd hynny. Mae dyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG i ymgynghori â Chyngor Iechyd Cymuned o’r cychwyn cyntaf a gydol unrhyw broses gynllunio, datblygu neu wneud penderfyniadau yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru. Mae Rheoliad 27(3) yn dweud, lle bo corff perthnasol y GIG yn ystyried unrhyw gynnig datblygu sylweddol ar gyfer gwasanaeth iechyd yn ardal Cyngor Iechyd Cymuned, neu’n ystyried amrywio’r ddarpariaeth honno’n sylweddol, yna rhaid iddo ymgynghori â’r cyngor iechyd cymuned o’r cychwyn cyntaf a gydol unrhyw broses ystyried neu amrywio o’r fath.
Dan Reoliad 27(7), os nad yw Cyngor Iechyd Cymuned yn fodlon bod ymgynghoriad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG yn ddigonol, gall hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig a gall Gweinidogion Cymru ei gwneud hi’n ofynnol i’r corff GIG Cymru perthnasol gynnal ymgynghoriad, neu ymgynghoriad pellach gyda’r Cyngor Iechyd Cymuned fel yr ystyriant yn briodol.
Yn olaf, mae rheoliad 27(9) yn darparu os yw Cyngor Iechyd Cymuned yn ystyried na fyddai cynnig gan Fwrdd Iechyd Lleol i, e.e. newid y modd y caiff gwasanaethau iechyd eu darparu, neu wneud datblygiad sylweddol, er budd y gwasanaeth iechyd yn ei ardal, yna gall ysgrifennu at Weinidogion Cymru a gall Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad terfynol ar y cynnig a’i gwneud hi’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol gymryd camau, neu beidio â chymryd camau, yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.
Mae Rhan 5 o CHCR 2010 yn sefydlu Bwrdd Cyngor Iechyd Cymuned ac yn darparu ar gyfer ei swyddogaethau.
Ymgynghori a chynnwys y cyhoedd
Dywed adran 183 o NHSWA 2006 bod rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniadau gyda’r nod o sicrhau, o ran y gwasanaethau iechyd y mae’n gyfrifol amdanynt, bod y bobl y darperir y gwasanaethau iddynt neu y gellir eu darparu iddynt, naill ai’n uniongyrchol neu trwy gynrychiolwyr, yn cael eu cynnwys ac yn rhan o ymgynghoriad ar:
- gynllunio darpariaeth y gwasanaethau hynny.
- datblygu ac ystyried cynigion i newid y modd y darperir y gwasanaethau hynny, a phenderfyniadau i’w gwneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n effeithio ar weithredu’r gwasanaethau hynny.
At ddibenion adran 183, Bwrdd Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am wasanaethau iechyd os yw’n darparu neu os bydd yn darparu’r gwasanaethau hynny i unigolion, neu os yw person arall yn, neu y bydd yn, darparu’r gwasanaethau hynny i unigolion:
- dan gyfarwyddyd y Bwrdd Iechyd Lleol,
- ar ei ran, neu
- yn unol â chytundeb neu gytundebau a wnaed gan y Bwrdd Iechyd Lleol gyda’r person arall hwnnw.
Pwyllgorau trosolwg a chraffu
Mae adrannau 184 a 185 NHSWA 2006 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bwyllgorau trosolwg a chraffu awdurdodau lleol yng Nghymru (neu gydbwyllgorau ar gyfer ardaloedd dau neu fwy o awdurdodau lleol) gael rôl graffu mewn perthynas â materion y GIG yng Nghymru.
Nid oes rheoliadau perthnasol sy’n gysylltiedig â hyn mewn grym yng Nghymru.