Cwynion am y GIG
Mae adran 113(2) o’r Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (CHSA 2003) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar drin ac ystyried cwynion am:
- arfer unrhyw un o swyddogaethau un o gyrff GIG Cymru,
- darpariaeth gofal iechyd gan neu ar gyfer un o gyrff y GIG yng Nghymru,
- darpariaeth gwasanaethau gan gorff GIG Cymru neu unrhyw berson arall yn unol â threfniadau a wneir gan y corff mewn perthynas ag arfer swyddogaethau awdurdod lleol sy’n gysylltiedig ag iechyd o dan adran 33 o'r Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006), a
- darpariaeth unioni gan neu ar gyfer un o gyrff GIG Cymru o dan Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 (gweler isod).
At y dibenion hyn, diffinnir corff GIG Cymru dan adran 148 CHSA 2003 fel:
- Bwrdd Iechyd Lleol (BILl),
- Ymddiriedolaeth GIG, y mae’r cyfan neu’r rhan fwyaf o'i hysbytai, sefydliadau a chyfleusterau wedi'u lleoli yng Nghymru,
- Awdurdod Iechyd Arbennig sy’n cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â Chymru yn unig neu’n bennaf.
Mae'r pŵer a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 113 yn bŵer eang i wneud darpariaeth ynghylch cwynion am ofal sylfaenol y GIG a ddarperir gan, ymhlith eraill, meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr, gofal ysbyty GIG a'r gofal a ddarperir gan gyrff y GIG yng Nghymru neu unrhyw berson arall o dan drefniadau a wnaed dan adran 33 NHSWA 2006.
Mae adran 113(3) CHSA 2003 yn dweud y caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru bennu y gall un neu fwy o’r canlynol ystyried cwyn:
- corff y GIG (a ddiffinnir gan adran 148 fel corff GIG Lloegr, corff GIG Cymru, neu gorff trawsffiniol),
- person lleyg annibynnol,
- panel annibynnol a sefydlwyd o dan y rheoliadau, neu
- unrhyw berson neu gorff arall.
At ddibenion CHSA 2003, mae corff GIG Lloegr yn golygu:
- Ymddiriedolaeth GIG, y mae’r cyfan neu'r rhan fwyaf o'i hysbytai, sefydliadau a chyfleusterau wedi'u lleoli yn Lloegr,
- Bwrdd Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol,
- grŵp comisiynu clinigol,
- ymddiriedolaeth sefydledig GIG,
- Awdurdod Iechyd Arbennig sy’n cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â Lloegr yn unig neu'n bennaf.
Mae adran 115 CHSA 2003 yn nodi pa faterion y gellir eu cynnwys yn y rheoliadau a wneir dan adran 113(2) ac maent yn cynnwys:
- pwy sy’n gallu cwyno,
- pa gwynion y gellir, ac na ellir, eu gwneud o dan y rheoliadau,
- wrth bwy y gellir cwyno,
- y weithdrefn i’w dilyn wrth wneud, trafod ac ystyried cwyn ac ati.
Yn ogystal â 'chwynion pur', mae gan Weinidogion Cymru bwerau hefyd, yn unol â Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 (NHSRWM 2008), i ddarparu camau unioni. Mae NHSRWM 2008 yn gosod fframwaith sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i sefydlu system ar gyfer darparu iawndal a/neu becynnau gofal a chyngor cyfreithiol annibynnol ar gyfer pobl sydd wedi dioddef triniaeth esgeulus a ddarparwyd neu a gomisiynwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru. Gelwir trefniadau o'r fath yn 'drefniadau gwneud iawn'.
Cafodd Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (CCRAWR 2011) eu gwneud trwy arfer pwerau Gweinidogion Cymru dan CHSA 2003 a Mesur 2008. Mae'r rheoliadau’n nodi'r broses ar gyfer cwyno am y GIG yng Nghymru a sut i gael gafael ar drefniadau gwneud iawn.
Ar hyn o bryd, mae’r trefniadau gwneud iawn hyn yn berthnasol i hawliadau gwerth is sy’n werth hyd at ac yn cynnwys £25,000 am ofal a ddarperir gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru, a gofal a gomisiynwyd gan y cyrff hyn gan gyrff y GIG yn Lloegr, cyrff GIG yr Alban a Chyrff Gogledd Iwerddon (oll fel y diffinnir yn CCRAWR 2011). Nid yw'r trefniadau gwneud iawn yn ymestyn i ofal a ddarperir gan ddarparwyr gofal sylfaenol ar hyn o bryd.
Mae Adran 187 o NHSWA yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i drefnu gwasanaethau eirioli annibynnol mewn perthynas â chwynion am y gwasanaeth iechyd sy'n ymwneud â Chymru. Ar hyn o bryd, darperir y gwasanaethau eirioli hyn gan Gyngor Iechyd Cymuned ar gyfer pobl 18 oed a throsodd a chan BILlau ar gyfer plant. Mae hyn hefyd yn cynnwys cymorth gyda chwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.