Skip to main content

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Beth yw'r ddeddf a phryd y daeth i rym?  

Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol i bob safle cartrefi symudol preswyl yng Nghymru. Fe’i cyflwynwyd i gynyddu diogelwch ar gyfer perchnogion cartrefi symudol (a elwir yn gartrefi mewn parciau hefyd) ac i wella cyflwr safleoedd o'r fath. Mae perchnogion cartrefi symudol yn berchen ar eu cartref, ond perchennog y safle (yr unigolyn sydd yn berchen ar y tir y mae'r cartref arno) sydd berchen ar y safle. Mae'n rhaid i berchnogion cartrefi symudol dalu perchennog y safle am ddefnyddio'r tir y mae eu cartref yn gorwedd arno.  
 
Daeth y rhan fwyaf o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i rym ar 1 Hydref 2014. Diwygiodd a chyfnerthodd y gyfraith mewn perthynas â chartrefi symudol preswyl yng Nghymru.  

Safleoedd rheoleiddiedig a gwarchodedig 

Mae Rhan 1 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn darparu trosolwg ac yn amlinellu pa safleoedd cartrefi symudol sy'n ddarostyngedig i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (gweler adran 2 ac Atodlen 1). Mae hyn yn cynnwys safleoedd 'rheoleiddiedig' a safleoedd 'gwarchodedig'.  Safleoedd rheoleiddiedig yw safleoedd sydd ag o leiaf un cartref symudol, at ddiben fod yn gartref, arnynt, ond nid ydynt yn safleoedd gwyliau ac nid ydynt yn safleoedd sy’n dod o fewn cwmpas Atodlen 1 i’r ddeddf.  Mae safleoedd gwarchodedig yn cynnwys safleoedd rheoleiddiedig, a'r safleoedd hynny a fyddai'n safleoedd rheoleiddiedig pe na fyddai'r awdurdod lleol yn berchen arnynt.  Mae Atodlen 1 i'r ddeddf yn rhestru'r mathau o safleoedd na reoleiddir.  

Trwyddedu 

Mae Rhan 2 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn darparu ar gyfer trwyddedu safleoedd rheoleiddiedig (heb gynnwys safleoedd y mae awdurdodau lleol yn berchen arnynt). Mae'n rhaid i berchennog safle feddu ar drwydded safle er mwyn defnyddio'r tir fel safle rheoleiddiedig.  

Mae adran 6 o'r ddeddf yn datgan y gellir gwneud cais am drwydded i'r awdurdod lleol. Mae'n rhaid i'r cais gynnwys manylion y tir a hunaniaeth yr ymgeisydd. Os nad yr ymgeisydd yw rheolwr arfaethedig y safle, mae'n rhaid nodi'r rheolwr hefyd. Gallai'r awdurdod lleol ofyn am ffi wrth gyflwyno'r cais.  

Gallai'r drwydded fod yn destun amodau. Os bydd awdurdod lleol yn ystyried bod perchennog safle y tir yn methu, neu wedi methu, â chydymffurfio ag amod yn y drwydded safle, gellir rhoi hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad cosb benodedig iddo. 

“Prawf person cymwys a phriodol” 

Nid oes caniatâd gan berchennog safle i ddefnyddio tir, neu ganiatáu i unrhyw ran o'r tir gael ei defnyddio, fel safle preswyl oni bai fod yr awdurdod lleol yn fodlon bod naill ai perchennog y safle, neu'r rheolwr, yn “berson cymwys a phriodol” i reoli'r safle. Mae'r prawf hwn yn parhau i fod yn berthnasol dros gyfnod y drwydded. Os yw perchennog y safle, neu'r rheolwr, yn mynd yn groes i'r gofyniad hwn yn ystod cyfnod y drwydded, gall yr awdurdod lleol wneud cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am orchymyn sy'n diddymu’r drwydded safle. Bydd perchennog y safle yn euog o drosedd hefyd, y mae modd rhoi dirwy ddiderfyn ar ei chyfer gan lys. 

Er mwyn penderfynu p'un a yw perchennog safle, neu reolwr, yn bodloni'r prawf hwn, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ystyried pob mater sy'n briodol, gan gynnwys p'un a oes tystiolaeth fod yr unigolyn wedi: 

  • Cyflawni unrhyw drosedd sy'n ymwneud â thwyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau, neu unrhyw drosedd a restrir yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003     
  • Arfer gwahaniaethu, aflonyddwch neu erledigaeth anghyfreithlon sy'n mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth gynnal unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad â chynnal unrhyw fusnes     
  • Torri unrhyw ddeddf sy'n ymwneud â thai (gan gynnwys cartrefi symudol) neu landlord a thenant 

Os gwrthodir y cais, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r unigolyn o'r rhesymau dros y penderfyniad a'r hawl i apelio. Mae gan ddeiliad arfaethedig y drwydded 28 diwrnod o'r hysbysiad i apelio i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl.

Mae Rhan 3 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwarchodaeth rhag cael eich troi allan o safleoedd gwarchodedig. Mae'n berthnasol mewn perthynas ag unrhyw drwydded neu gontract sy’n rhoi’r hawl i unigolyn osod cartref symudol a'i feddiannu fel cartref yr unigolyn, neu os yw'r cartref symudol wedi'i osod ar y safle gwarchodedig gan rywun arall, i'w feddiannu. 

Mae'n darparu amddiffyniadau amrywiol i feddianwyr rhag cael eu troi allan, aflonyddwch, a gwybodaeth anwir. Mae'r rhai sy'n euog o drosedd yn agored i'r canlynol: 

  • Ar euogfarn ddiannod, dirwy neu garchar am gyfnod nad yw'n hwy na 12 mis, neu'r ddau, neu 
  • Ar euogfarn ar dditiad, dirwy neu garchar am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau

Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer gohirio gorchmynion troi allan. Os yw'r llys yn rhoi gorchymyn gorfodi mewn perthynas â'r safle mewn achosion gan berchennog safle gwarchodedig, yna gall y llys ohirio gorfodi'r gorchymyn am gyfnod y tybia'r llys ei fod yn rhesymol (heb fod yn hwy na 12 mis o ddyddiad y gorchymyn). 

Mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn cwmpasu telerau cytundebau ar gyfer gosod cartrefi symudol ar safleoedd gwarchodedig. Mae'r rhan hon ac Atodlen 2 yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â'r gweithdrefnau sy'n ymwneud â chytundebau a chynnwys y cytundebau. 

Mae Rhan 5 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn gwneud darpariaeth y gall awdurdodau lleol ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol a gwahardd gosod cartrefi symudol ar dir comin oddi tani. 

Wrth weithredu ei bwerau o dan yr adran hon, mae'n rhaid i awdurdod lleol ystyried unrhyw safonau a nodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 10 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. 

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaethau atodol a chyffredinol.

Rheolau safle 

Os yw perchennog safle am newid rheolau'r safle, mae'n rhaid iddo gwblhau ffurflen cynnig ragnodedig a rhoi cyfle i berchnogion cartrefi ymateb. Mae'n rhaid i berchennog safle hysbysu'r perchnogion cartrefi o'r canlyniad a'r penderfyniad o fewn 21 diwrnod i'r broses ymgynghori ddod i ben. Dylid hysbysu'r awdurdod lleol, ac arddangos y rheolau newydd mewn man amlwg ar y safle.

Ffioedd am leiniau 

Gall perchnogion safle godi ffi, a elwir yn “ffi am y llain”, am y tir y mae cartrefi symudol yn gorwedd arno. Gellir gwneud newidiadau i'r ffi, ond nid mwy nag unwaith y flwyddyn. Mae'n rhaid i safle roi 28 diwrnod llawn o rybudd am gynnydd mewn ffi am y llain drwy roi ffurflen adolygu ffi am y llain gyda hysbysiad ysgrifenedig. Defnyddir y mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) i gynyddu neu ostwng ffioedd am leiniau yng Nghymru.  
 
Os bydd anghydfod, gall perchennog y safle neu berchennog y cartref wneud cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl.  

Prynu, gwerthu neu roi cartref symudol yn anrheg 

Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn cynnwys rheolau sy'n ymwneud â phrynu, gwerthu neu roi cartref symudol yn anrheg. Am ragor o ganllawiau ar y prosesau a'r ffurflenni gofynnol, gweler y dudalen LLYW.CYMRU Canllawiau i berchenogion cartrefi (symudol) mewn parciau a thirfeddianwyr: canllawiau a ffurflenni.

Rhwystro gwerthiant 

Mae'n drosedd i berchennog safle gyflwyno gwybodaeth neu wneud datganiad ffug neu gamarweiniol, boed hynny'n fwriadol neu'n ddi-hid, sy'n cael effaith ar werthiant. Os oes tystiolaeth, mae gan yr awdurdod lleol y pŵer i erlyn a gall llys roi dirwy a/neu garchar.  

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
10 Ionawr 2022